Polisi Ymddygiad

Mae croeso i bawb yn nigwyddiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac rydyn ni eisiau i bawb allu cyfrannu a mwynhau. Mae hawl gan bawb i deimlo'n ddiogel yn ein digwyddiadau, a bydd disgwyl i bawb sy'n dod i ddigwyddiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg barchu ei gilydd er mwyn sicrhau hynny.

Ni fyddwn yn goddef unrhyw gamdriniaeth neu wahaniaethu yn ein digwyddiadau, gan gynnwys hiliaeth, rhywiaeth, homoffobia, deuffobia, trawsffobia, neu wahaniaethu ar sail anabledd, crefydd neu ddosbarth cymdeithasol.

Disgwylir i bawb barchu ymreolaeth gorfforol ei gilydd a ni fyddwn yn goddef unrhyw aflonyddu neu ymosodiadau rhywiol.

Byddwn yn cymeryd unrhyw adroddiadau o gamdriniaeth, gwahaniaethu, aflonyddu neu drais o ddifri a byddwn yn cymryd camau i ddiogelu unigolion a pharchu ewyllys rheiny sydd wedi cael eu heffeithio. Gall hyn gynnwys gwahardd unigolion o’n digwyddiadau.

Gall unrhyw un sy’n poeni am ymddygiad unigolyn mewn digwyddiad siarad â’n stiwardiaid.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn parhau i gymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod ein gweithgareddau yn cynnig amgylchedd diogel, cynhwysol a hwyl i bawb.