Safonau Dŵr - ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

[Cliciwch yma i agor y ddogfen fel PDF]

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Ymgymerwyr Dŵr a Charthffosiaeth)

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1.Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru ers dros hanner ganrif.

1.2. Nodwn gyda siom bod y Llywodraeth wedi ceisio plesio cwmnïau dŵr mawrion drwy wanhau'r Safonau mewn nifer o ffyrdd, ac wedi methu â chadw dyletswyddau pwysig ynghylch cynllunio'r gweithlu o fewn y rheoliadau arfaethedig. Ymddengys fod gyda ni Lywodraeth sy'n plygu i fuddiannau cwmnïau mawrion yn lle dyhead pobl Cymru i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg.

1.3. Ail-adroddwn bwynt rydym wedi'i wneud droeon wrth swyddogion y Llywodraeth: rydych yn achosi oedi diangen drwy boitsio gyda'r Safonau a'u gwanhau ar gais cyrff yn hytrach na chanolbwyntio ar roi hyblygrwydd i'r Comisiynydd – swyddfa y gall wneud addasiadau i'r manylion - drwy hysbysiadau cydymffurfio. Yn wir, rydych yn clodfori'r hyblygrwydd hynny yn y ddogfen ymgynghori gan ddweud:

"Mae gan y Comisiynydd hyblygrwydd wrth ddewis pa safonau y mae’n rhaid i gwmni gydymffurfio â nhw..."

Fodd bynnag, yn y rheoliadau, mae’r Llywodraeth yn dewis cyfyngu'n ddirfawr ar allu'r Comisiynydd i fod yn hyblyg drwy ddileu nifer o Safonau pwysig y gall y Comisiynydd ddewis rhyngddynt. Dyw hi ddim yn ffordd resymegol o weithredu, oni bai eich bod am ffafrio budd y cwmnïau ar draul hawliau iaith pobl ar lawr gwlad.

1.4. Mae'r addasiadau a phroses gwanhau tu-ôl-i'r-llenni hyn yn gwanhau hawliau iaith pobl, yn atal y potensial i gyrff wella ar eu polisïau iaith, yn annemocrataidd ac yn achosi oedi diangen. Yn wir, cymerodd y Llywodraeth dros flwyddyn, rhwng mis Tachwedd 2015 i fis Tachwedd 2016 i ddechrau ymgynghori ar y Safonau yn y sector hon. Ond eto, rydych wedi anwybyddu prif gasgliadau'r Comisiynydd – a hynny er gwaethaf swyddogaeth statudol y Comisiynydd ar wyneb y Mesur dros gasglu pa ddyletswyddau y dylid eu gosod ar ba gyrff, ar sail proses dryloyw, wedi'i gyrru gan dystiolaeth, ynghyd â'r gofyn cyfreithiol i Weinidogion Cymru roi 'sylw dyladwy' i gasgliadau o'r fath.


2.Sylwadau

2.1. Anghytunwn gyda sylwadau'r Gweinidog sy'n awgrymu mai'r Safonau hyn, yn hytrach na Safonau'r Gymraeg (Rhif 1), y byddai'n sail i ymgynghoriadau ar gyfer estyn y rheolau i sectorau preifat eraill. Cynhaliwyd sawl ymgynghoriad a thrafodaeth gyhoeddus helaeth ynghylch Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) a ddefnyddiwyd fel templed i sectorau eraill. Dylai'r rheiny fod yn sail i'r ymgynghoriadau, gan symud rhai o'r "Safonau Gweithredu" i mewn i'r categori "Safonau Cyflenwi Gwasanaethau" er mwyn cadw hawliau i weithwyr a mesurau cynllunio'r gweithlu o fewn y system.
 

2.2. Gohebiaeth – cyfyngu diangen
 

2.2.1. Anghytunwn gyda chyfyngu safonau 2 a 4 i “ohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system” yn unig. Dylai gynnwys pob gohebiaeth boed iddo gael ei gynhyrchu gan system ai peidio. Eto, nid oes cyfeiriad at yr angen am y cyfyngiad hwn yn adroddiad ymchwiliad y Comisiynydd, felly does dim sail tystiolaeth i'r penderfyniad i gyfyngu'r Safon yn y fath fodd. Byddai cadw'r cyfyngiad felly yn afresymegol ac yn ddi-sail.

2.2.2. Anghytunwn yn ogystal gyda'r cyfyngu ar ystyr 'gohebiaeth' a wneir ym mharagraff 29 ar dudalen 30 y rheoliadau. Ni ddylid cyfyngu'r ohebiaeth i 'filiau, ceisiadau am ddarlleniadau mesuryddion, gohebiaeth ynghylch cyfrifon newydd a gohebiaeth ynghylch cau cyfrifon' yn unig. Eto, nid oes angen i'r rheoliadau fod mor benodol â hynny. Os oes rhaid addasu neu amrywio, gallai'r Comisiynydd wneud hynny drwy'r hysbysiad cydymffurfio, ar ôl derbyn tystiolaeth gan gyrff unigol.

2.2.3 Os yw'r Llywodraeth yn mynnu cyfyngu ystyr gohebiaeth i “ohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system”, awgrymwn y dylid newid geiriad paragraff 29 i:

"At ddibenion safonau 2 a 4 ystyr “gohebiaeth sydd wedi ei chynhyrchu gan system” yw gohebiaeth sy'n cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, biliau, ceisiadau am ddarlleniadau mesuryddion, gohebiaeth ynghylch cyfrifon newydd a gohebiaeth ynghylch cau cyfrifon."

Fel arall, mae perygl go iawn y bydd y rheoliadau yn gadael mannau gwan di-angen ac anfwriadol o ran darparu gohebiaeth yn Gymraeg.

 

2.3. Gwasanaethau Ffôn – gwanhau di-angen

2.3.1. Anghytunwn yn gryf â'r penderfyniad i ddileu nifer o'r Safonau lefelau uwch ar gyfer darparu gwasanaethau ffôn yn Gymraeg, megis Safonau 18 i 21 a gynhwyswyd yn Safonau'r Gymraeg (Rhif 1). Nodwn fod 2 gwmni wedi dweud bod y Safonau hyn yn rhesymol a chymesur wrth roi tystiolaeth i'r Comisiynydd:

"Roedd Dŵr Cymru o’r farn y byddai gwneud y safonau hyn yn benodol gymwys iddo yn rhesymol a chymesur. Roedd Dŵr Dyffryn Dyfrdwy o’r farn y byddai gwneud safonau 10–13, 15, 18–20 a 22 yn benodol gymwys iddo yn rhesymol a chymesur."

2.3.2. Felly, unig ganlyniad dileu'r Safonau yw peryglu lleihau darpariaeth Gymraeg rhai cwmnïau oherwydd pryderon cwmnïau sydd yn draddodiadol heb eu darparu. Eto, mae hyn yn enghraifft o wanhau Safonau'n ddiangen sydd yn atal y Comisiynydd yn gyfan gwbl o ddefnyddio'r hysbysiadau cydymffurfio i fod yn hyblyg.

2.3.3. Nid ydym yn gweld dim rheswm pam ddylai'r rheoliadau gyfyngu Safon 9 i wasanaethau rhwng 9am a 5pm yn ystod yr wythnos, a dim ar y penwythnosau. Beth yw'r rhesymeg dros hyn? Beth yw'r dystiolaeth dros gynnwys yr oriau hyn yn hytrach nag oriau eraill? A fydd y Llywodraeth yn rhyddhau'r dystiolaeth hon? Wrth reswm, gwasanaethau ffôn gyda'r nos ac ar benwythnosau fyddai'r rhai pwysicaf i gwsmeriaid sy'n gweithio yn ystod y dydd ac sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg. Byddai'n gwbl annheg atal yr hawl yn gyfan gwbl i allu disgwyl gwasanaeth ffôn yn Gymraeg gyda'r nos ac ar benwythnosau felly, yn enwedig lle bo modd i'r sawl sydd am ddefnyddio'r Saesneg gael mynediad at wasanaeth ehangach. Eto, credwn fod hwn yn enghraifft amlwg lle dylid dibynnu ar hyblygrwydd hysbysiadau cydymffurfio yn lle dileu'r Safonau uwch yn gyfan gwbl neu gyfyngu oriau gwasanaethau ffôn i rai penodol yn unig.

2.3.4. Anghytunwn ymhellach gyda chyfyngu'r hawl i wasanaeth ffôn i linellau sy'n ymwneud â chyfrifon neu gymorth. Credwn fod y cyfyngiadau hyn yn gwanhau hawliau iaith pobl ac yn codi'r perygl o greu mannau gwan anfwriadol pe tai cwmnïau yn ailstrwythuro gwasanaethau.

2.3.5. Os yw'r Llywodraeth yn mynnu cyfyngu'r hawliau i dderbyn gwasanaethau ffôn i 'rifau llinell gymorth' a 'llinell gymorth ymholiadau cyfrifon' yn unig, awgrymwn fod angen creu Safon ychwanegol sy'n gadael yr opsiwn yn agored i'r Comisiynydd sicrhau nad oes rhaid cyfyngu gwasanaeth Cymraeg ar rifau 'llinell gymorth gwasanaeth' i ddarpariaeth rhwng 9yb a 5yh ar ddiwrnodau gwaith yn unig. Argymhellwn greu'r Safon ychwanegol canlynol felly:

"Pan fydd person yn cysylltu â chi ar eich rhifau llinell gymorth gwasanaeth, rhaid ichi ddelio â’r alwad yn Gymraeg yn ei chyfanrwydd os yw’r person yn dymuno hynny (gan drosglwyddo’r alwad i aelod o staff sy’n gallu delio â’r alwad yn Gymraeg os yw hynny’n angenrheidiol)."

 


2.4. Safonau ynghylch corff yn llunio dogfennau – gwanhau di-angen

2.4.1. Rydych chi wedi dileu Safon 40, 41 42, 43 a 44 a oedd wedi eu cynnwys yn Safonau'r Gymraeg (Rhif 1), a fyddai'n sicrhau bod holl ddogfennaeth neu ragor o ddogfennaeth y corff yn Gymraeg. Credwn y dylid ail-fewnosod y Safonau hyn yn y Rheoliadau. Nid ydym yn gweld dim tystiolaeth yn ymchwiliad y Comisiynydd dros hepgor y Safonau hyn. I'r gwrthwyneb, noda adroddiad ymchwiliad y Comisiynydd:

"Roedd dau o’r personau perthnasol dan sylw (Dŵr Cymru, Dŵr SSE) o’r farn y byddai gwneud y safonau hyn yn benodol gymwys iddynt yn rhesymol a chymesur. Cytunodd Dŵr Dyffryn Dyfrdwy y byddai’n medru cydymffurfio â rhai o’r safonau dan sylw, gan gynnwys safonau 40 a 43."1

2.4.2. Dim ond un o'r pedwar cwmni dŵr a ddadleuodd bod y Safonau, megis Safon 40, yn afresymol felly pam ydy'r Llywodraeth wedi ei ddileu o'r rheoliadau? Mae'r penderfyniad yn hurt, yn hollol afresymegol ac yn sarhaus - byddai'n amddifadu pobl o'r hawl i dderbyn nifer o ddogfennau yn Gymraeg er bod y cwmnïau eu hunain yn meddwl bod y Safonau yn rhesymol.

2.4.3 Dengys meddylfryd dryslyd ac anghywir y Llywodraeth yn y ddogfen ymgynghori, sy'n gweithredu o dan y camargraff mai cyfrifoldeb y Llywodraeth yw sicrhau bod y dogfennau 'cywir' ar gael yn Gymraeg. Eto, mae hwn yn fater llawer haws ei ddatrys drwy hysbysiad cydymffurfio nag yn y rheoliadau eu hunain.

2.4.5. Credwn y dylai'r Safonau arfaethedig gynnwys dyletswyddau i ddarparu'r canlynol yn Gymraeg:

 

  • unrhyw ddogfennau at ddefnydd y cyhoedd y maen nhw'n eu llunio;

  • unrhyw drwydded neu dystysgrif;

  • agendâu, cofnodion a phapurau eraill sydd ar gael i’r cyhoedd, sy’n ymwneud â chyfarfod o fwrdd rheoli'r cwmni a chyfarfodydd, cynadleddau neu seminarau sy’n agored i’r cyhoedd;

  • unrhyw lyfryn, taflen, pamffled neu gerdyn; a

  • polisïau, strategaethau, adroddiadau blynyddol a chynlluniau corfforaethol; canllawiau a chodau ymarfer; a phapurau ymgynghori

2.4.6. Nodwn nad oes dim tystiolaeth wrthrychol yn adroddiad ymchwiliad y Comisiynydd na'ch dogfen ymgynghori sy'n rhoi rhesymau dros hepgor y dyletswyddau uchod sydd wedi eu gosod ar gyrff eraill drwy'r Safonau blaenorol.
 

2.5. Recriwtio a Hyfforddiant – anwybyddu argymhelliad y Comisiynydd

2.5.1. Argymhellodd y Comisiynydd yn glir y dylid ychwanegu Safonau yng nghategori 'Safonau Cyflenwi Gwasanaethau' ynghylch recriwtio a hyfforddiant gan nad oes modd gosod 'Safonau Cyflenwi' ar y cyrff hyn. Byddai hepgor dyletswyddau o'r fath yn gam yn ôl ar y cynlluniau iaith, a byddai'n felly yn groes i addewid y Prif Weinidog i adeiladu ar ddyletswyddau cynlluniau iaith yn hytrach na llithro yn ôl.

2.5.2. Cytunwn â sylwadau'r Comisiynydd yn adroddiad ei ymchwiliad:
 

"...gall peidio â sicrhau cydymffurfiaeth ym meysydd megis recriwtio ac apwyntio a meithrin sgiliau yn y Gymraeg drwy gynllunio a hyfforddi gweithluoedd gael effaith andwyol ar allu’r personau hynny i hwyluso gweithrediad y safonau cyflenwi gwasanaethau hynny sydd yn gymwysadwy iddynt ar hyn o bryd."

"Casgliad 1: Wrth ystyried pennu safonau mewn rheoliadau ar gyfer personau a ddaw o fewn Atodlen 8 y Mesur, daw Comisiynydd y Gymraeg i’r casgliad y dylai Gweinidogion Cymru sicrhau na chaiff ymrwymiadau ac arferion presennol sydd yn cyfateb i’r safonau gweithredu eu colli yn rhinwedd unrhyw ddyletswyddau newydd o dan y drefn safonau. Dylid ystyried er enghraifft y posibilrwydd o gynnwys gofynion am recriwtio a hyfforddi o dan safonau sy’n ymdrin â materion atodol, neu drwy ddulliau eraill."

2.5.3. Mae'r Llywodraeth wedi oedi ar weithredu adroddiad y Comisiynydd ers dros flwyddyn, ond heb weithredu ar gasgliad cyntaf yr adroddiad – mae'n sefyllfa chwerthinllyd. Unwaith eto, mae'r Llywodraeth yn oedi, yn ein barn ni yn ddiangen, dim ond er mwyn gwanhau'r Safonau er budd cyrff.
2.5.4. Er gwaethaf dadl y Llywodraeth nad oes modd cymhwyso Safonau ynghylch recriwtio a hyfforddiant, credwn fod y methiant oherwydd diffyg ewyllys ac arbenigedd y Llywodraeth yn hytrach na'r sefyllfa gyfreithiol fel y cyfryw. Erfyniwn ar y Llywodraeth i ailystyried sut i sicrhau bod rhai dyletswyddau ynghylch recriwtio a hyfforddiant, sy’n uniongyrchol perthnasol i allu corff i ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd, yn cael eu hychwanegu i'r rheoliadau drafft hyn.

2.6. Cyfarfodydd byr rybudd

2.6.1. Anghytunwn gyda geiriad paragraff 33 ar dudalen 30. Mae'n anghywir i ddweud bod galw o ddrws i ddrws yn gorfod bod yn gyfarfod 'fyr rybudd'. Yn wir, mae nifer o'r ymweliadau hynny wedi ei drefnu ymlaen llaw. Anghytunwn gyda'r cyfyngiad yn gyfan gwbl, ond os yw'r Llywodraeth yn mynnu gwanhau Safonau 16 i 17CH yn y fath fodd, argymhellwn, fan leiaf, y dylid dileu'r geiriau "(er enghraifft, pan fydd corff yn gwneud ymholiadau o ddrws i ddrws)".


2.7. Dyfarnu Contractau a Grantiau

2.7.1. Credwn y dylid cynnwys dyletswyddau ychwanegol ynghylch contractio, tendro a grantiau yn y rheoliadau, yn enwedig gan ystyried nad oes modd gosod 'Safonau Llunio Polisi' ar y cwmnïau hyn. Byddai modd geirio'r dyletswyddau fel bod modd sicrhau grantiau a chontractio sy'n gweithredu o blaid y Gymraeg i'r eithaf. Gall y Comisiynydd asesu rhesymoldeb y Safonau hyn drwy'r broses gosod hysbysiad cydymffurfio.

2.7.2. Anghytunwn, fel mater o egwyddor, gyda safbwynt y Llywodraeth y dylid eithrio'r sector o ddyletswyddau ynghylch 'dyfarnu contractau'. Nid yw'n dderbyniol i Lywodraeth Cymru gwyno am 'gostau cyfieithu sylweddol i’r cwmnïau' a gosod y Safon yn 'afresymol'. Unwaith eto, ni cefnogir casgliadau y Llywodraeth gan adroddiad ymchwiliad y Comisiynydd a thystiolaeth y cwmnïau iddo. Yn wir, dywedodd dau o'r cwmnïau y gallent gydymffurfio â rhai o'r Safonau – byddai'n annoeth felly i'w hepgor o'r rheoliadau ac amddifadu'r Comisiynydd o'r hyblygrwydd I'w gosod.

 

2.8. Sgwrsio Ar-lein

2.8.1. Croesawn y Safonau arfaethedig er mwyn sicrhau bod sgwrsio ar-lein yn cael ei ddarparu yn Gymraeg, ac rydym yn meddwl ei bod yn bwysig i'w gynnwys yn y Safonau.


2.9 Systemau Annerch Cyhoeddus

2.9.1. Credwn y dylid cynnwys Safonau ynghylch systemau annerch cyhoeddus ar y cyrff hyn. Mae adroddiad ymchwiliad y Comisiynydd yn argymell hynny yn ogystal. Mae'n destun syndod nad oes esboniad yn nogfen ymgynghori'r Llywodraeth sy'n darparu rheswm dros hepgor y dyletswyddau hyn sydd eisoes yn weithredol ar nifer o gyrff drwy setiau eraill o Safonau ac yn cael eu hargymell gan y Comisiynydd.

2.9.2. Yn wir, mae'r penderfyniad i hepgor y dyletswyddau hyn o'r rheoliadau drafft yn edrych yn hynod o ryfedd gan ystyried bod disgwyl, drwy Safon 24, i gyrff os ydyn nhw'n trefnu digwyddiad cyhoeddus mewn partneriaeth gyda chorff arall i sicrhau 'mewn perthynas â chyhoeddiadau sain a wneir ynddo' eu bod yn Gymraeg.


2.10. Eithriadau Clipiau Sain a Fideo

2.10.1. Anghytunwn gyda'r eithriadau ar gyfer clipiau sain a fideo sydd yn y Safonau arfaethedig ym mharagraffau 41, 44 a 45 ar dudalennau 32, 33 a 34. Mae clipiau sain a fideo yn dod yn gynyddol bwysig o ran cyfathrebu gyda'r cyhoedd, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol, a nifer ohonynt yn cael eu cynhyrchu a'u llunio gan gyrff yn yr un mor aml, neu'n amlach, na thaflenni neu ddeunyddiau cyhoeddusrwydd eraill. Credwn felly y dylid hepgor yr eithriadau, neu, fan leiaf, dylai fod dyletswydd i ddarparu'r clipiau sain a fideo a gynhyrchir sawl diwrnod cyn eu cyhoeddi yn Gymraeg.

2.11. Bathodynnau Iaith Gwaith – hepgor Safon

2.11.1. Nodwn fod y Llywodraeth wedi penderfynu hepgor y Safon yn ymwneud â gwisgo bathodynnau iaith mewn derbynfeydd (Safon 68, Safonau'r Gymraeg (Rhif 1)). Nodwn eto nad yw'r ddogfen ymgynghori yn cyfeirio at y penderfyniad hwn.

2.11.2. Roedd gennym deimladau cymysg am y Safon hon yn wreiddiol. Mewn nifer o sefydliadau y gallai'r Safon fod yn anaddas gan y byddai rhywun yn disgwyl gwasanaeth Cymraeg naturiol beth bynnag. Ar y llaw arall, mewn nifer o gyd-destunau, byddai manteision tymor byr o'i defnyddio. Gellid dadlau bod y cyd-destun gyda chwmnïau dwr a sectorau preifat eraill yn cryfhau'r ddadl dros gynnwys Safon o'r fath oherwydd bod rhai cwmnïau wedi, yn draddodiadol, gwneud defnydd llawer is o'r iaith.

2.11.3. Credwn felly dylid ystyried cynnwys Safon amgen sy'n annog defnydd o'r bathodynnau lle bo'n briodol, gyda geiriad tebyg i'r ganlyn:

"Rhaid i chi ddarparu bathodyn i staff sy’n medru'r Gymraeg y maent yn gallu ei wisgo sy’n cyfleu'r gallu ieithyddol hwnnw."

2.12. Gwefan docenistaidd – angen dileu Safon 39

2.12.1. Nodwn eich bod wedi ychwanegu'r Safon 39, a hynny o'r newydd. Nid yw'n glir pam gan nad yw'ch dogfen ymgynghori yn cyfeirio at hyn o gwbl. Eto, ymddengys nad yw'n seiliedig ar argymhellion y Comisiynydd ychwaith. Ni wyddom a yw'r cyfeiriad at 'ryngrwyd' yn y Safon i fod i ddweud 'mewnrwyd', mewn ymdrech i unioni'r broblem o golli'r 'Safonau Cyflenwi'.

2.12.2. Credwn y dylid dileu'r Safon fel y mae gan y byddai ei gynnwys yn ei ffurf bresennol yn creu'r perygl y byddai modd i gwmni cyhoeddi gwefan docenistaidd yn Gymraeg yn unig. Ymhellach, credwn fod digon o hyblygrwydd o fewn y Safonau eraill ynghylch gwefannau i alluogi eu haddasu at wahanol anghenion os oes rhaid.

3. Casgliadau

3.1. Credwn fod angen i'r Llywodraeth weithredu ar gasgliadau'r Comisiynydd yn hytrach na gwanhau'r Safonau'n sylweddol a hynny'n ddi-sail.

3.2. Credwn fod y Llywodraeth yn gweithredu'n anhryloyw drwy gynnal sgyrsiau preifat gyda chwmnïau mawrion ac wedyn gwanhau'r Safonau o ganlyniad i'r sgyrsiau hynny. Mae hyn yn arwain at reoliadau drafft sy'n groes i ganlyniadau cynhwysfawr ymchwiliad y Comisiynydd, ac, yn wir, yn rheoliadau gwannach nag y mae hyd yn oed y cwmnïau dŵr eu hunain yn eu tystiolaeth gyhoeddus i'r ymchwiliad Safonau wedi dadlau drostynt.

3.3. Ymddengys felly bod nifer o'r Safonau yn eu ffurf bresennol yn groes i nifer o argymhellion allweddol adroddiad ymchwiliad y Comisiynydd ac i amcanion polisi'r Mesur a'r Llywodraeth megis i adeiladu ar gynlluniau iaith a chynnig gwell gwasanaethau Cymraeg. Credwn fod y Llywodraeth wedi gweithredu'n anghyfreithlon wrth gyhoeddi'r Safonau drafft hyn gan nad yw wedi rhoi sylw dyladwy i adroddiad y Comisiynydd fel sy'n ofynnol o dan adran 66, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Chwefror 2017