Safonau Iaith Arfaethedig - llythyr at Leighton Andrews

Mehefin 17, 2013

Annwyl Weinidog,

Safonau Iaith Arfaethedig

Fel dywedon ni yn ein cyfarfod diweddar gyda chi, pryderwn yn fawr am eich penderfyniad i wrthod safonau arfaethedig y Comisiynydd. Fodd bynnag, gan fod y Llywodraeth yn paratoi safonau newydd erbyn hyn, pwrpas y llythyr hwn yw ategu rhai o gynigion y Gymdeithas ynghylch cynnwys y safonau iaith arfaethedig cyn i chi ddechrau’r ymgynghoriad yng nghanol mis Gorffennaf.

Wedi’r cwbl, mae pobl Cymru wedi aros llawer yn rhy hir am well gwasanaethau Cymraeg: tair mlynedd ar ddeg ers i’n hymgyrch dros ddeddf iaith newydd gychwyn, pum mlynedd ers i’r broses ddeddfu dechrau, a thros ddwy flynedd ers pasio Mesur y Gymraeg yn y Cynulliad.

Yr hyn rydyn ni eisiau eich gweld chi yn ei sefydlu yw hawliau penodol, megis yr hawl i addysg gymraeg, yr hawl i ofal iechyd, yr hawl i weithio yn Gymraeg, er mwyn newid profiad bob dydd pobl. Dylai’r safonau hefyd sicrhau bod rhagor o gyrff, rhai awdurdodau lleol yn enwedig, yn dilyn enghraifft Cyngor Gwynedd ac yn gweinyddu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedoch yn eich araith i’r Cynulliad Cenedlaethol ar Fawrth 5ed eleni y byddwch chi yn ‘adeiladu ar safonau’r comisiynydd ac rydym ni, yn fy adran, yn edrych ar y safonau wrth ddatblygu safonau newydd.’

Rydym yn falch o glywed hynny gan ei fod yn caniatáu i ni baratoi ymlaen llaw ar gyfer eich ymgynghoriad gan ddisgwyl i’r safonau ddilyn trywydd tebyg i rai’r Comisiynydd.  

Ein Safbwynt - Hawliau

Cred y Gymdeithas mai egwyddor ddylai redeg tu ôl i’r safonau yw’r egwyddor fel y’i mynegir yn ein Mesur Iaith 2007 sef:

“Mae gan bob person yng Nghymru yr hawl i gael gwasanaethau drwy’r Gymraeg boed y gwasanaethau hynny am dâl ai peidio.”

Er i’r Llywodraeth ar y pryd anghytuno â sefydlu hawl gyfreithiol gyffredinol o’r fath, cafwyd egwyddor ar hyd llinellau tebyg yn y Mesur, sef:

“... dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.”

Nid yw’r egwyddor honno yn cyfyngu’r gallu i fyw trwy gyfrwng y Gymraeg i sector neu ardal benodol. Felly, yn anochel, mae angen isafswm o wasanaethau Cymraeg y gallai rhywun eu disgwyl ym mhob sector, ym mhob ardal a gan bob corff sydd yn ddarostyngedig i’r safonau newydd.

Mae bron pob un sector a enwir yn y Mesur wedi bod â chynlluniau iaith naill ai’n wirfoddol neu’n statudol ers i Ddeddf Iaith 1993 ddod i rym. Felly, nid oes rheswm pam na ellid cymryd gofynion sylfaenol y cynlluniau iaith fel isafswm o wasanaethau i bob corff. Wrth gwrs, credwn y dylid adeiladu ar y seiliau hynny a bod rhaid datblygu gwasanaethau gwell na’r hyn a gynigwyd gan y cynlluniau iaith. Fodd bynnag, fel gwaelodlin ac isafswm o wasanaethau byddai’n ddefnyddiol dilyn enghraifft y Comisiynydd yn hynny o beth.

Mae’ch amserlen a’r ffordd yr ydych wedi penderfynu rhedeg y broses wedi creu peth anhawster wrth lunio safonau cyson a fydd yn cynnig isafswm o wasanaethau ar draws y bwrdd wrth gwrs. Ond credwn fod modd gwneud hynny o hyd, ac, ymhellach, bod hynny’n hanfodol os yw’r safonau yn mynd i lwyddo i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn ogystal a chreu’r eglurder a’r gwell gwasanaethau sydd eu hangen oddi wrthynt.

Felly, hoffem wybod a ydych yn bwriadu cyflwyno safonau a fydd yn gosod lleiafswm o wasanaethau y gallai dinesydd eu disgwyl gan bob corff a sector a enwir yn y Mesur trwy’r safonau, neu beidio?

Pobl yn gyntaf, yn hytrach na sefydliadau

Un o brif ddibenion pasio Deddf Iaith newydd, o’n safbwynt ni, oedd newid y pwyslais a fu yn y cynlluniau iaith oddi ar ganolbwyntio ar allu sefydliadau i gyflenwi gwasanaethau draw i hawliau unigolion i’w defnyddio.

Yn wir, ein prif feirniadaeth o safonau arfaethedig y Comisynydd oedd eu bod yn ddefnyddiol fel gwaelodlin i atgoffa nifer o gyrff o’r hyn a ddisgwylir yn barod, ond nad ydynt yn herio sefydliadau i symud ymlaen ymhellach. Fodd bynnag, pryderwn nad yw’r Llywodraeth yn mynd i gynnig dim un o’r ddwy elfen hynny gan nad oes arwydd y bydd gwaelodlin ystyrlon na chynnig haen uwch o safonau a fydd yn cryfhau neu amddiffyn defnydd mewnol o’r Gymraeg gan sefydliadau ychwaith.

Fodd bynnag, nodwn yn y llythyr yr ydych wedi’i gyfeirio at sylw Aelodau Cynulliad yn ddiweddar eich pwyslais ar wella ar yr hyn a gynigir gan gynlluniau iaith trwy’r safonau gweithredu gan i’r llythyr ddweud: ‘Bwriad safonau gweithredu yw adeiladu ar gynnwys cynlluniau ynghylch datblygu gallu gweithlu corff i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.’

Gwasanaethau Wyneb yn Wyneb / Technoleg Newydd

Un o gryfderau safonau arfaethedig y Comisiynydd, er nad oeddem yn meddwl eu bod yn mynd yn ddigon pell yn y cyfeiriad hwnnw, oedd eu cydnabyddiaeth bod angen i’r egwyddor a oedd yn draddodiadol yn cael ei chyfyngu i bapur gael ei hymestyn i gyd-destunau eraill megis dulliau electronig a gwasanaethau a gyflwynir wyneb yn wyneb.

Hoffem ofyn felly a ydych chi am sicrhau nad yw gwasanaethau a gyflenwir yn electronig ac wyneb yn wyneb yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Yn benodol, gwelwyd potensial trwy’r safonau newydd o wella gwasnaethau wyneb yn wyneb ar draws yr holl sectorau megis gwasanaeth Cymraeg wrth dderbyn addysg yn y gymuned, cyfarfodydd, gofal iechyd, prynu tocynnau tren/bws ac eraill.

 

Hawliau ac anghenion, yn lle ‘galw’

Mae angen ystyried safonau yng nghyd-destun angen iaith yn hytrach na

dewis iaith. Yn aml mae’r dinesydd mewn sefyllfa o ddiffyg grym o gymharu â’r

darparwyr megis perthynas claf â’r gwasanaeth iechyd.

Felly, mae gwir angen shifft sylweddol yn y meddylfryd oedd yn sail i gynlluniau iaith a ddaeth, yn bennaf, o bersbectif yr hyn oedd yn gyfleus i sefydliadau eu cyflawni. Yn hytrach, credwn yn gryf y dylai’r safonau symud at anghenion a hawliau sylfaenol pawb yn hytrach nag unigolion yn gorfod optio i mewn i wasanaethau.

Dylai fod cydnabyddiaeth bod statws swyddogol y Gymraeg yn creu cyd-destun

lle mae gan sefydliadau amddiffyniad i symud at ‘Ddwyieithrwydd Cymraeg’ yn

hytrach na ‘dwyieithrwydd’ y mae’n rhaid optio i mewn iddo. Mae angen symud o seilio safonau ar ddewis iaith unigolion yn unig, tuag at anghenion iaith y boblogaeth. Cymerer dioddefwyr demensia, er enghraifft, neu blentyn sydd heb y gallu i ddewis gwasanaeth iechyd yn Gymraeg, ond sydd ag anghenion ieithyddol amlwg.

Yn hynny o beth, mae pwyslais ar gynnig rhagweithiol yn hytrach nag un adweithiol yn bwysig wrth ystyried sut i wella defnydd y Gymraeg ar draws nifer o sectorau.

Hawliau Penodol

Rydym eisoes wedi eich holi ynghylch rhai o’r hawliau sylfaenol y dymunem eu gweld yn y safonau iaith, sef y dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, y mae gweision sifil wrthi'n eu hysgrifennu.

Yn benodol, hoffem ofyn a fyddech yn sefydlu hawliau megis:

  • yr hawl i ofal iechyd a chymdeithasol yn Gymraeg;

  • yr hawl i ryngwynebau ffon neu ddyfeisiadau symudol eraill yn Gymraeg;

  • yr hawl i addysg Gymraeg;

  • yr hawl i wersi chwaraeon a gweithgareddau hamdden i blant, megis gwersi nofio;

  • yr hawl i weithwyr ddysgu a gweithio trwy gyfrwng yr iaith;

A fydd y safonau yn cynnwys yr hawliau uchod (yn ogystal ag eraill)? Nid oedd yn glir o’n cyfarfod a ydych o blaid cynnwys yr hawliau hyn yn y safonau neu beidio.

Safonau Hybu

Credwn fod lle i wella’n sylweddol ar gynigion y Comisiynydd gan gynnig camau penodol a fydd yn llesol i’r iaith. Gwendid mawr cynigion y Comisiynydd oedd na fyddai wedi golygu gwell hybu o’r Gymraeg gan fod y cynigion yn cyfateb â'r hyn mae Llywodraeth Cymru a chynghorau sir yn ei wneud eisoes.

Credwn y gellid dyfeisio safonau llawer iawn mwy meintiol, trwy ddisgwyl i gyrff hysbysebu eu holl swyddi yn y wasg Gymraeg yn ogystal â'r wasg Saesneg, er enghraifft, a chreu cynlluniau i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg sy'n dod i weithio i'r sefydliad drwy gynlluniau yn pontio rhwng ysgolion/colegau/prifysgol a'r sefydliad ar ffurf prentisiaethau/profiadau gwaith estynedig.

Mae nifer o gynghorau sir yn anwybyddu'r Gymraeg wrth ddosrannu grantiau i fudiadau cymunedol. Hefyd, dylid disgwyl i holl grantiau sefydliadau hybu digwyddiadau Cymraeg mewn ffordd sydd ddim yn llai ffafriol na'r Saesneg, trwy neilltuo yr un faint o arian i brosiectau Cymraeg, megis gweithgareddau i blant. Mae’r hyn a ddigwyddodd i Tafwyl yn enghraifft o’r ansicrwydd hwn - nid yw nifer o awdurdodau lleol yn darparu gŵyl Gymraeg yn eu siroedd na chynnwys Cymraeg yn eu prif ddigwyddiadau. Mae angen safon hybu a fydd yn cywiro sefyllfaoedd fel hyn.

Yn hynny o beth, mae’n rywfaint o gysur darllen ym memorandwm esboniadol y Mesur bod ‘datblygu cyfrifoldeb Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau‘r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru o ran hybu defnydd o'r Gymraeg yn ehangach’ yn un o nodau’r Llywodraeth wrth iddynt lunio’r safonau, gan gymryd felly bod yr hybu yn mynd i fynd yn bellach na’r hyn sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd.

Gweinyddiaeth fewnol / Defnydd Mewnol

Mae Cyngor Gwynedd eisoes yn gweinyddu’n fewnol yn Gymraeg. Wrth reswm, bydd angen safonau sydd yn gwarchod polisi presennol Gwynedd. Ond dylai’r arfer  ddigwydd mewn llawer mwy o gynghorau sir, a gallai ddigwydd fesul adran yn rhai cynghorau sir ac adrannau o’r Llywodraeth, yn ogystal â chyrff a chwmnïau eraill. Gallai hynny fod yn nod i bob sefydliad sydd yn dod o dan gwmpawd y safonau, ond yn amlwg gyda hyblygrwydd o ran amserlennu hynny. Byddai hynny yn rhoi pob sefydliad ar lwybr at fod yn sefydliad Cymraeg ei iaith. Yn y safon gweithredu felly, mae angen haen uwch o ddyletswydd y gellid ei gosod ar gyrff i sicrhau eu bod yn gweinyddu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg, er y bydd rhaid i bob sefydliad wrth gwrs gyrraedd safon sy’n golygu peidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Gymraeg. Ymhellach, credwn y dylai’r safonau symud rhagor o gyrff at bolisi o wneud y Gymraeg yn hanfodol mewn swyddi fel y gwneir gan Heddlu Gogledd Cymru a chyrff eraill.

Mae polisi cyflogaeth nifer o gyrff yn effeithio'n fawr ar allfudo a mewnfudo yn yr ardaloedd hyn, rhywbeth y mae'n rhaid i'r Comisiynydd ei daclo os yw am ddiogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Ni ddylid cyfyngu'r safonau mwy uchelgeisiol hyn i'r ardaloedd lle mae'r Gymraeg wedi bod yn gryf yn draddodiadol, er ei bod wrth gwrs yn hanfodol iddynt gael eu gweithredu yn yr ardaloedd hynny; mae angen bod yn fwy uchelgeisiol mewn ardal fel Caerdydd a'r siroedd cyfagos hefyd, lle mae nifer uchel iawn o siaradwyr Cymraeg. Wedi'r cyfan, mae perthynas agos rhwng adfer yr iaith yn yr ardaloedd 'llai traddodiadol Gymraeg' ac ardaloedd eraill.  Mae angen derbyn amrywiaeth cymunedol Cymru, trwy waelodlin gwell, ond hefyd trwy wthio'r ffiniau a'n disgwyliadau ymlaen fel Cymry Cymraeg.

Polisi Cyflogaeth

Ar hyn o bryd, ni welir ymdrech i geisio pontio rhwng y strategaeth addysg Gymraeg a'r gweithle. Cymerwch Gyngorhau Merthyr, Torfaen, Bws Caerdydd, neu'r Gwasanaeth Iechyd fel enghreifftiau o gyrff sydd yn methu â chyflawni gwasanaethau sylfaenol yn Gymraeg er bod cymaint o dwf mewn addysg Gymraeg. Mae problemau'r sefydliadau hyn yn deillio o'u polisïau cyflogaeth ac er bod nifer fawr o blant yn gadael ysgolion yn rhugl yn Gymraeg nid oes ffordd i sicrhau defnydd o'u sgiliau ieithyddol. Mae hyn yn gam gwag o safbwynt sefydliadau sydd â mawr angen am aelodau o staff dwyieithog, ond hefyd mae'n golygu nad oes cyfleoedd gan y myfyrwyr i barhau â'u Cymraeg ar ôl gadael addysg. Gwelwn gyfle mawr i ddatrys y problemau trwy’r safonau.

Mae’n hysbys bellach bod perfformiad awdurdodau cyhoeddus o ran darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg wedi amrywio’n ddifrifol, gyda rhai enghreifftiau hynod o dda, ond gyda llawer yn methu hyd yn oed o ran dyletswyddau cyfreithiol sydd wedi bodoli ers dros 15 mlynedd (Merthyr Tudful, Casnewydd, Torfaen ayyb).  

Mewn nifer o siroedd mae’r system addysg yn agos at lwyddo i sicrhau bod rhan helaeth o’u disgyblion yn gwbl allu gyflawni eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg, yn nifer o siroedd eraill mae niferoedd yn cynnyddu yn gyflym. Fodd bynnag, nid oes pontio rhwng y polisiau addysg a’r byd gwaith.

Er mwyn datrys rhai o’r problemau hyn, rydym yn dymuno gweld safonau yn gosod fel gwaelodlin:

  • Sicrwydd bod pob aelod staff sy’n delio â’r cyhoedd am dros 33% o’u hamser yn ddwyieithog (staff sy’n delio gyda thaliadau, sy’n gweithio mewn derbynfeydd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden ayyb)

  • Sicrwydd bod y canran o bobl ddwyieithog a gyflogir gan y sefydliad yn ddim llai na chanran y boblogaeth ddwyieithog yn y diriogaeth a wasanaethwyd ganddo

Gellid gosod amserlen benodol o ychydig flynyddoedd er mwyn cyrraedd y targedau uchod yn y siroedd na ellir cydymffurfio yn syth, gydag adroddiad blynyddol i ddangos i Gomisiynydd y Gymraeg bod y sefydliad yn gwella’n gyflym er mwyn cyrraedd y targed hwnnw.

Ymhellach, sylwn fod y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, yn ystod y trafodaethau ar y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru), wedi dileu’r gofyniad bod o leiaf un o’r Comisiynwyr ar y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn siarad Cymraeg gan ddweud y bydd y safonau yn delio â’r mater. Rydyn ni’n cymryd yn ganiatol felly y bydd safonau manwl ynghylch canrannau’r staff a’r rhai a benodir i benodiadau cyhoeddus y bydd angen iddynt fod rhugl eu Cymraeg.

Cwestiynau Eraill

(i) Sectorau Eraill - Mae’ch Strategaeth Iaith yn ymrwymo i osod safonau ar y rhannau o’r sectorau preifat a enwir yn y Mesur. Hoffem dderbyn ail gadarnhad eich bod yn ymrwymo i gadw at yr addewid hwnnw.

(ii) Swyddogaethau a drosglwyddir i ffwrdd o awdurdodau lleol - e.e. a fydd y set gyntaf o safonau yn gymwys i gonsortia addysg rhanbarthol? A fydd yn dal yn berthnasol i unrhyw lefel o lywodraethiant newydd a allai ddod allan o ad-drefnu llywodraeth leol?

(iii) Cynnig Rhagweithiol - sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio’r safonau i sicrhau bod y ‘cynnig’ gwasanaethau Cymraeg gan gyrff yn rhagweithiol, yn hytrach nac yn ymylol ac adweithiol, gan dynnu ar syniadaeth ac astudiaethau diweddar megis Nudge?

Rydym yn falch iawn eich bod wedi cytuno i ystyried yr holl bwyntiau hyn, ac felly gobeithiwn yn fawr y gallwn ymddiried ynoch i  gymryd camau fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau bobl Cymru a'r Gymraeg.  Yn eich dwylo chi mae un o'r penderfyniadau pwysicaf  wrth lunio 'r safonau iaith - penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheg mlynedd nesaf a mwy.

Yr eiddoch yn gywir,

Siân Howys,

Cadeirydd Grŵp Hawliau, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg