Safonau'r Gymraeg ym maes Iechyd

Annwyl Weinidog, 

Cyfarfu nifer o'n swyddogion gyda'ch swyddogion yn Uned y Gymraeg ddydd Gwener 16 Medi i drafod ein pryderon na fydd Safonau'r Gymraeg ym maes iechyd yn cynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol. Rydym yn ddiolchgar i chi am annog eich swyddogion i gynnal cyfarfod rhoi briffiad technegol i ni. 

Mae gan y Safonau botensial gwirioneddol i wella hawliau cleifion yn GymraegO ran triniaeth mewn ysbytai, gallai gwelliant gwirioneddol er lles cleifion ddeillio o'r gyfundrefn. Mae rhoi hawliau i gleifion dderbyn triniaeth drwy'r Gymraeg yn bwysig, nid yn unig  o ran hawliau ieithyddol ond er mwyn gwella'r gwasanaeth yn gyffredinol gan fod cyfathrebu'n effeithiol yn medru cael effaith gadarnhaol ar welliant y claf.  

Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu'n fawr am sefyllfa hawliau cleifion pan ddaw hi at wasanaethau gofal sylfaenol. Fel y gwyddoch, nid yw'r Safonau drafft yn rhoi i'r claf yr un hawl cyfreithadwy i'r Gymraeg pan ddaw hi at ddelio â'u meddyg teulu, deintydd, optegydd a fferyllydd.  

Datrysiadau Posibl 

Yn dilyn y cyfarfod, nid ydym yn argyhoeddedig bod eich swyddogion wedi ystyried yn iawn bob opsiwn cyn penderfynu na ellir sicrhau bod gan y cyhoedd hawliau i wasanaethau gofal sylfaenol yn Gymraeg. Fodd bynnag, ar nodyn cadarnhaol, roeddem yn falch bod eich swyddogion wedi cytuno y byddai'n bosib gwneud canlynol: 

(i) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod amod ar gytundebau cenedlaethol perthnasol er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg; 

(ii) creu hawliau ym maes gofal iechyd sylfaenol drwy osod Safonau ar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (HIW); 

(iii) gosod amod ar yr arian sy'n mynd o fyrddau iechyd i wasanaethau gofal iechyd sylfaenol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Safonau i gyd;  

(iv) enwi llawer cwmnïau fferyllol mawr yn y rheoliadau (gan eu bod yn derbyn dros £400,000 y flwyddyn) drwy gyflwyno gorchymyn i'w hychwanegu a'u cynnwys yn y rheoliadau iechyd; 

(v) enwi'r meddygfeydd, deintyddfeydd, optegwyr a fferyllfeydd yn unigol; 

Credwn fod y posibiliadau uchod yn cynnig tir ffrwythlon er mwyn sicrhau bod hawliau clir, cadarn a chyfreithiol gan y cyhoedd i'r Gymraeg wrth ymwneud â gwasanaethau gofal sylfaenolFodd bynnag, rydym yn pryderu bod nifer o opsiynau o ran y rheoliadau sydd heb gael eu hymchwilio'n iawn cyn i'r ddogfen ymgynghori gael ei chyhoeddi er i'ch swyddogion dreulio misoedd lawer yn ei pharatoi. 

Aneglurder cyfreithiol yn y ddogfen ymgynghori 

Gwnaed honiad penodol yn y cyfarfod byddai cynnwys darparwyr gofal sylfaenol fel trydydd parti yn y rheoliadau yn 'anghyfreithlon', gan na all Byrddau Iechyd fod yn gyfrifol am y cytundebau na'r meddygfeydd yn gyfreithiol. Fodd bynnag, nid yw'r ddogfen ymgynghorol yn gwneud yr un honiad – yr unig beth mae'r ddogfen yn ei ddweud i'r perwyl hwnnw yw: 

"Byddai'n gwneud y bwrdd iechyd yn gyfrifol am unrhyw fethiant i gydymffurfio â safonau gan un o'r darparwyr gofal sylfaenol er gwaethaf y ffaith nad oes ganddo unrhyw ddylanwad uniongyrchol ar y darparwr unigol." 

Ymddengys mai datganiad 'cadarnhaol' yn hytrach nag un 'normadolyw'r uchod - nid oes awgrym yn y ddogfen na fyddai'n bosib yn gyfreithiol rhoi grym o'r fath i fyrddau iechyd.  

Hoffem dderbyn cadarnhad ar fyrder gan y Llywodraeth felly: a fyddai'n anghyfreithlon rhoi'r gallu i fyrddau iechyd orfodi darparwyr gofal sylfaenol i gynnig darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg? Ac os felly, pam nad yw'r ddogfen ymgynghorol yn glir ynghylch hynny? 

Dywedwyd yn y cyfarfod nad oes perthynas contractio rhwng byrddau a meddygfeydd a allai arwain at 'orfodaeth'. Fodd bynnag, mae'r ddogfen ymgynghori yn dweud bod perthynas contractio. Rydym yn bryderus iawn ynghylch y diffyg eglurder am y sefyllfa gyfreithiol a'r gwahaniaethau a'r anghysondebau amlwg rhwng yr hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod a'r hyn a nodir yn y ddogfen ymgynghori. 

Ymhellach, nodwn gyda phryder sylwadau Pennaeth Uned y Gymraeg a gyfaddefodd fod darnau pwysig yn y ddogfen ymgynghori ynghylch gofal iechyd sylfaenol heb gael 'ei sgwennu'n iawn', a bod y paragraff canlynol o'r ddogfen yn 'gamarweiniol': 

"Aseswyd a ddylai'r safonau a osodir ar fyrddau iechyd (safonau 1 – 82) ymestyn i ofal sylfaenol. Byddai hyn yn trin bwrdd iechyd lleol sy'n is-gontractio gofal sylfaenol yn yr un modd â bwrdd iechyd lleol sy'n is-gontractio unrhyw wasanaeth arall. ... Gallai'r dull hwn arwain at ddiffyg eglurder i'r cyhoedd a darparwyr gofal sylfaenol gan na fyddai safonau'r Gymraeg ond yn berthnasol i wasanaethau y mae darparwyr gofal sylfaenol yn eu darparu ar ran y byrddau iechyd lleol. Gan fod llawer o ddarparwyr hefyd yn ymgymryd â gwaith preifat, ni fyddai'r amgylchiadau pan fyddai disgwyl iddynt gydymffurfio â safonau yn glir bob amser – gallai unigolyn gael cymysgedd o wasanaethau'r GIG a gwasanaethau preifat yr un pryd." 

O'n sgyrsiau gyda nifer o feddygon teulu, nid yw'n wir dweud bod meddygon teulu yn gwneud gwaith preifat i unrhyw lefel ystyrlon, ac o'r hyn a ddeallwn ni chânt wneud gwaith sy'n uniongyrchol yn ymwneud ag iechyd yn breifat. Yn amlwg, mae aneglurder cyfreithiol a ffeithiol mewn dogfen ymgynghori yn gwneud ein gwaith o gynnig gwelliannau yn llawer anos. Hyderwn y bydd modd i chi egluro'r sefyllfa gyfreithiol yn eich ateb i'r llythyr hwn.  

Yn hyn o beth, rydym yn falch bod eich swyddogion wedi ymrwymo i geisio darparu'r wybodaeth ganlynol i ni: 

(i) enghreifftiau o ddyletswyddau yn y cytundeb cyfreithiol gyda meddygon teulu sy'n adlewyrchu gofynion is-ddeddfwriaeth; a 

(ii) rhagor o fanylion am sut mae byrddau iechyd yn dosrannu arian ac oes yna unrhyw amodau o gwbl ar yr arian hynny ar hyn o bryd (boed yn anuniongyrchol drwy'r gyfraith neu ffyrdd eraill). 

Cydnabuwyd y gellid enwi'r meddygfeydd, deintyddfeydd, optegwyr a fferyllfeydd a gosod Safonau arnynt yn unigol, ond bod problem recriwtio gweithwyr Cymraeg yn rhwystr. Cytunwn gyda'ch swyddogion bod cynllunio'r gweithlu'n her. Fodd bynnag, yn anffodus mae'r Safonau recriwtio yn rhy wan i gynorthwyo'r shifft ieithyddol hynny. Nid yw'r Safonau yn annog cynnydd yn sgiliau Cymraeg y gweithlu. Gyda Safonau cryfach, gellid gwneud llawer iawn mwy o gynnydd yn y maes, ac erfyniwn arnoch chi i ailedrych ar y mater hwn.  

Yn ogystal, roeddem yn falch o glywed y byddai'r swyddogion yn ystyried ailgynnwys Safonau 18 (sef cynnal holl alwadau ffôn yn Gymraeg) a 40 (sicrhau bod pob dogfen at ddefnydd y cyhoedd yn Gymraeg) o'r rhai a basiwyd yng nghylch 1 a gafodd eu hepgor o'r Safonau drafft hyn. Credwn fod angen, fan leiaf, galluogi i'r Comisiynydd osod y Safonau uchaf ar gyrff fel bod modd iddi hi ddefnyddio hyblygrwydd yr hysbysiad cydymffurfio lle bo'n berthnasol. 

Yn y cyfarfod, ailadroddom ein pryder nad yw'r Safonau yn ddigon heriol nac ychwaith yn adlewyrchu'r angen i feddwl am sut y byddan nhw'n gweithredu mewn sefyllfaoedd pan fo'r Gymraeg yn iaith y mwyafrif.  

Pryderon am brosesau Llywodraeth Cymru o ran llunio'r Safonau 

Gwyddom fod y Llywodraeth, yn weddol fyr rybudd, wedi trefnu dau gyfarfod ymgynghorol cyhoeddus am y Safonau Iechyd. Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad oes digon o ymgynghori â chleifion wedi bod, dim ond gyda chyrff a sefydliadau. Dylid cofio mai cleifion, a'u hawliau i dderbyn gwasanaethau Cymraeg, ddylai fod yn ganolog i'r Safonau.   

Nodwn broblem sy'n codi tro ar ôl tro wrth i'r Safonau gael eu llunio – mae'r gweision sifil yn eich adran yn poeni llawer iawn yn fwy am farn cyrff yn hytrach na chleifion. Esboniwyd yn ein cyfarfod mai rhan o'r broblem yw bod gan gyrff yr hawl i herio'r Safonau ar sail 'rhesymoldeb a chymesuredd', ac felly bod y gweision yn poeni a yw'r Safonau yn creu hawliau iaith rhy gryf. Gobeithiwn yn fawr felly y byddwch chi'n edrych i unioni'r sefyllfa hon wrth i chi gryfhau Mesur y Gymraeg dros y flwyddyn nesaf. 

Rydym yn anfon copi o'r llythyr hwn at Gomisiynydd y Gymraeg ac Aelodau Cynulliad eraill yn y gobaith y gallant graffu ymhellach ar hyn, gan fod angen eglurder cyfreithiol er mwyn sicrhau datrysiad cyfreithiol i'r dasg hanfodol o gynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol yn y Safonau, ac felly creu hawliau clir yn y maes.  

Yr eiddoch yn gywir, 

Manon Elin 

Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

[Ymateb y Llywodraeth - agor fel PDF]