Strategaeth Iaith 5 mlynedd Cyngor Caerdydd - ymateb

Annwyl Syr / Madam,



Amgaeaf ymateb Cymdeithas yr Iaith yng Nghaerdydd i ymgynghoriad Strategaeth Iaith 5 Mlynedd y cyngor. Hoffem ddiolch am yr estyniad a roddwyd i ymateb i’r ymgynghoriad, er mwyn sicrhau fod llais siaradwyr Cymraeg y ddinas yn cael ei glywed a’i ystyried yn llawn.



Mae’r ddogfen amgaeedig yn seiliedig ar waith ymchwil a gynhaliwyd y llynedd yn bennaf. Credwn fod amcanion creiddiol y ddogfen yr un mor berthnasol ag erioed, ac yn sicr byddai modd ymgorffori llawer o’i chynnwys yn eich Strategaeth. Yr ydym yn hollol argyhoeddedig yn ein hawydd i weld y Cyngor yn ymateb yn llawn i’r syniadau a amlinellir yma, ac i gydnabod dilysrwydd yr egwyddorion maent yn eu cynrychioli. 



Drwy gyflwyno cynllun manwl o’r fath, ein gobaith yw gweld y cyngor yn ystyried o ddifri ei allu gweithredol i fabwysiadu’r hyn sy’n gynwysiedig ynddi yn ei Strategaeth Iaith er mwyn budd pawb sy’n trigo yma, beth bynnag yw eu hiaith.



Serch hyn, rhaid cydnabod newidiadau ehangach i’r tirlun cynllunio iaith cenedlaethol yng Nghymru ers cyhoeddi targed Miliwn o Siaradwyr Cymraeg y Llywodraeth. Gan fod y broses hon yn un sydd eto i’w chwblhau yn llawn, mae angen cydnabod bod y gwaith yn parhau, ac mi fydd angen ar ofod er mwyn diwygio polisi mewn mannau perthnasol. 



Un maes hollol allweddol yw addysg, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i nodi ein cred bod angen diwygio polisi addysg Gymraeg mewn modd radical. Yn bennaf ymysg ein gofynion newydd ers llunio Siarter Caerdydd mae gweld y Cyngor yn sefydlu 10 ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd o fewn y pum mlynedd nesa. Byddai hyn yn gam mawr ymlaen ac yn gofyn am fuddsoddiad, ond mae’n gam sy’n gwbl hanfodol os yw’r Cyngor am wneud ei ran tuag at darged miliwn Llywodraeth Cymru.



Ein nod yw gweld Caerdydd sy’n torri cwys newydd i’r Gymraeg. Caerdydd sy’n falch o’i statws fel prifddinas ein gwlad, ac sy’n deall bod y Gymraeg yn ganolog i’w bodolaeth ddiwylliannol, economaidd a chymunedol. Caerdydd nad yw’n ofni arloesi ym maes cynllunio ar drothwy adeg dyngedfennol i’r iaith yn y ddinas. Drwy gydweithrediad a deialog agored, credwn fod hyn yn gyfle gwych i chi fel cyngor mwya Cymru arwain y gad yn sefydlu man parhaol i’n hiaith ym mywyd sifig y ddinas.



Diolch,



Owain Lewis



Cadeirydd Cell Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Dinas Caerdydd

[Cliciwch yma i weld Siarter Caerdydd]