TGAU Cymraeg Ail Iaith - ymateb i'r ymgynghoriad

[Cliciwch yma i agor y ddogfen fel PDF]

TGAU Cymraeg Ail Iaith – Ymgynghoriad 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

Mai 2016 

1.Cyflwyniad  - Peidiwch â pharhau â Chymraeg Ail Iaith  

1.1. Credwn fod angen i Gymwysterau Cymru ddod â'r ymgynghoriad hwn i ben gan ddechrau o'r newydd ar y broses o lunio un cymhwyster cyfun Cymraeg i bob disgybl yn y wlad.  

1.2. Mae barn y Prif Weinidog, y Llywodraeth a'r Cynulliad yn gwbl glir. Nid ydynt am barhau â'r cysyniad o'r Gymraeg yn cael ei dysgu fel ail iaith. Eu dymuniad nhw, ynghyd â dymuniad pobl Cymru, yw cyfundrefn sy'n sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg.  

1.3. Mae'ch ymgynghoriad yn cynnig gweithredu'n groes i argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies, polisi Llywodraeth Cymru a'r consensws gwleidyddol yng Nghymru. Ysgrifennodd y Prif Weinidog atom ym mis Rhagfyr y llynedd gan ddweud y dylid dilyn cynigion adroddiad yr Athro Sioned Davies, a argymhellodd ddileu'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith.  

1.4. Dywedodd: "Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol. Wrth inni gamu ymlaen, rhaid i’r polisi symud i ffwrdd o’r cysyniad o “ail iaith”... Wrth reswm, bydd heriau’n codi wrth inni ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n bodloni ein dyheadau, ond mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i’r dull hwn." 

1.5. Yr ydych yn llunio polisi at y dyfodol, ond eto, yn cynnig parhau â'r cysyniad o Gymraeg fel ail iaith. Rydym yn erfyn arnoch chi felly i beidio â pharhau â'ch cynllun i ddiwygio'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith. Dylech, yn hytrach, ddiddymu 'Cymraeg Ail Iaith', a datblygu un cymhwyster cyfun Cymraeg i bob disgybl yng Nghymru. 

1.6. Ni chredwn bod yr ymgynghoriad yn un dilys nag yn rhesymol. Yn y cyflwyniad i'ch dogfen ymgynghori, rydych yn honni bod: 

"Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai ei pholisi yn y tymor hwy o ran addysgu ac asesu'r Gymraeg yw symud i ffwrdd o'r cysyniad o'r Gymraeg fel ail iaith a thuag at gontinwwm cyffredin sy'n cwmpasu pob lefel o allu ieithyddol.... Mae'r newidiadau a gynigiwn yn yr holiadur hwn yn cyd-fynd â nod Llywodraeth Cymru o gyflwyno un continwwm ar gyfer y Gymraeg."  

1.7. Nid dyna'r polisi a amlinellwyd yn glir am y tro cyntaf yn llythyr y Prif Weinidog atom. Mae'r llythyr yn dweud na fydd 'Cymraeg Ail Iaith' yn gysyniad y caiff ei ddefnyddio ar gyfer polisïau yn y dyfodol, ond eto rydych chi'n cynllunio cadw Cymraeg Ail Iaith ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Naill eich bod yn dileu'r cysyniad, a sefydlu un continwwm dysgu Cymraeg i bob plentyn gyda'r un cymhwyster i bawb neu dydych chi ddim. Rydych chi wedi dewis peidio â gwneud hynny. Rydych chi'n ceisio parhau â'r cysyniad.  

1.8. Nid yw'n ychwaith yn gweddu ag adroddiad Yr Athro Sioned Davies a gyhoeddwyd ym mis Medi 2013: 

"Llywodraeth Cymru, o fewn tair i bum mlynedd, i:  

... datblygu TGAU llawn newydd (neu gymhwyster cyfwerth) yn seiliedig ar y cwricwlwm diwygiedig" 

1.9. Felly, er mwyn cydymffurfio ag argymhellion yr Athro Davies, byddai angen TGAU llawn newydd sy'n seiliedig ar y cwricwlwm newydd erbyn mis Medi 2018 fan hwyraf. 

1.10. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir eu bod am i'r cwricwlwm newydd fod ar gael i ysgolion o fis Medi 2018 ymlaen.  

1.11. Felly, nid oes modd gweithredu yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru a'r Athro Sioned Davies heb gyflwyno cymhwyster newydd sbon, yn seiliedig ar y cwricwlwm newydd erbyn mis Medi 2018. Nid yw'n gwneud synnwyr i gyflwyno hen gymhwyster, er ar ffurf diwygiedig, ym Medi 2017, y byddai allan o ddyddiad erbyn y flwyddyn ganlynol.  

1.12. Rydym hefyd o'r farn bod yr ymgynghoriad yn groes i'ch prif nodau fel corff a gafodd ei sefydlu gan Ddeddf Cymwysterau (Cymru) 2015. Yn benodol, nid yw cynnig parhau â system sy'n amddifadu y rhan helaeth o'n plant a phobl ifanc yn mynd i 'ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru' nac ychwaith 'hybu hyder y cyhoedd mewn cymwysterau ac yn system gymwysterau Cymru'. Ni chredwn eich bod wedi rhoi sylw digonol i '[d]dymunoldeb hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg' ychwaith. Wedi'r cwbl, onid yw'n ddisgwyliad rhesymol i bob disgybl adael yr ysgol yn rhugl a chyda'r gallu i weithio yn Gymraeg? 

1.13. Felly, rydym yn galw arnoch chi, ar frys, i ddod â'ch cynllun i ddiwygio'r pwnc Cymraeg Ail Iaith i ben. Yn lle, dylid datblygu un cymhwyster cyfun Cymraeg i bawb, sy'n rhoi ar waith un continwwm dysgu'r Gymraeg i'n holl blant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau ffyniant yr iaith dros y degawdau i ddod. 

2. Ymatebion i Gwestiynau'r Holiadur 

C1a - I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y dylai'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd gyd-fynd â CEFR? 

Rydym yn awyddus iawn i weld cymhwyster yn cael ei ddatblygu sy'n hawdd i'w gymharu a'i feincnodi yn rhyngwladol. Rydym yn edrych ymlaen at drafodaeth ynghylch sut orau i gyrraedd y safon sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel rhuglder mewn iaith.  

C1b -I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y dylid cynllunio'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd mewn ffordd sy'n galluogi dysgwyr i gyflawni a dangos gallu ieithyddol ar lefelau B1 a B2 CEFR? 

Rydym yn anghytuno'n gryf gyda'r syniad am sawl rheswm.  

Yn gyntaf, ni ddylid parhau â chymhywster TGAU Cymraeg Ail Iaith. Mae’r Llywodraeth, arbenigwyr a'r Cynulliad Cenedlaethol wedi datgan yn glir y dylid dileu'r cysyniad o'r Gymraeg fel ail iaith.  

Yn ail, pe bai symudiad at fesur cymhariaeth rhyngwladol, ni ddylid cyfyngu ar uchelgais pobl ifanc. Ni ddylid gosod nenfwd o lefel B1 a B2 ar ein disgwyliadau i blant a phobl ifanc. Dylai ein system gymwysterau herio'r system addysg i gyflawni rhuglder llawn yn y Gymraeg i bob un person ifanc, nid i'r rhai ffodus yn unig.  

C2: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r nodau a deilliannau dysgu pwnc arfaethedig ar gyfer TGAU Cymraeg Ail Iaith? 

Rydym yn anghytuno gan y dylen ni ddisgwyl a chynllunio ar gyfer pob person ifanc yn cyrraedd yr un safonau a ddisgwylir gan ddisgyblion sy'n sefyll yr arholiad Cymraeg 'iaith gyntaf' presennol, hynny ydy, rhuglder llawn.  

C3: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnwys pwnc arfaethedig ar gyfer y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith 

Rydym yn anghytuno'n gryf. Dylai'r disgwyliadau bod yr un disgwyliadau â'r arholiad Cymraeg 'iaith gyntaf' presennol.  

C4: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig y dylid cynnwys sgiliau trawsieithu yn y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith diwygiedig? 

Nid ydym yn argyhoeddedig ei fod yn syniad da. Credwn fod angen cynnwys y Gymraeg a sgiliau llythrennedd Cymraeg ar draws y cwricwlwm gan ddefnyddio gwersi ieithoedd eraill i brofi'r sgiliau Cymraeg hyn yn ogystal.  

C5a: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig y bydd asesiadau nas cynhelir drwy arholiad yn cyfrannu at 50% o gyfanswm pwysoliad asesu'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith diwygiedig? 

Nid oes sylwadau gennym. 

C5b: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig y dylai o leiaf 15% o'r marciau ar gyfer asesu'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd gael eu dyrannu i arholiad gwrando a osodir yn allanol? 

Credwn fod angen defnydd helaeth o asesu ac o safoni'n allanol. Gan ddisgwyl i Gymwysterau Cymru ddechrau o'r newydd gyda'r bwriad i gyflwyno un cymhwyster cyfun ar gyfer y Gymraeg i bob disgybl, bydd angen sicrhau bod y gyfundrefn yn ddigon cadarn er mwyn mesur bob disgybl yn effeithiol yn ôl yr un ffon mesur.  

C6a: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig y dylai'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith diwygiedig fod yn gymhwyster haenog? 

Yn hytrach na chreu haenau o fewn TGAU Cymraeg Ail Iaith credwn y byddai modd ystyried cymhwyster haenog pe bai penderfyniad creu un cymhwyster cyfun i bob un disgybl gan godi safonau i'r un lefel â'r cymhwyster Cymraeg iaith gyntaf presennol. Credwn y dylai fod un cymhwyster i bob disgybl.  

C6b: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig y dylid caniatáu mynediad haenau cymysg yn y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd? 

Anghytunwn, credwn fod perygl o aneglurder o ran rhuglder plant yn Gymraeg os dilynir y trywydd yma'n ormodol.  

C7: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig y dylai'r asesiadau ar gyfer y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith diwygiedig fod yn llinol? 

Nid oes sylwadau gennym. 

C8: Pa gymorth ac adnoddau y gall fod eu hangen ar ganolfannau ac athrawon er mwyn bod mor barod â phosibl i gyflwyno'r fanyleb ddiwygiedig yn eich barn chi? 

Mae gwir angen, fel argymhellir gan yr Athro Sioned Davies, dysgu rhagor o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion traddodiadol cyfrwng Saesneg.  Yn ogystal, mae angen rhagor o oriau cyswllt ar ddysgu'r Gymraeg fel pwnc fel bod modd cyrraedd y nod o ruglder i bob plentyn.  

Mae'n hanfodol eich bod yn gweithredu ag argymhelliad 15 adroddiad yr Athro Sioned Davies, sef: 

"Llywodraeth Cymru i:  

ddatblygu canllawiau arfer orau ar ddefnyddio Cymraeg y tu allan i wersi Cymraeg yng ngweithgareddau ysgolion, ac ar ddefnyddio Cymraeg ar draws y cwricwlwm, yn seiliedig ar y prosiect peilot i ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg; a  

gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg." 

Ymhellach, mae angen trawsnewid y gyfundrefn hyfforddiant athrawon, drwy, ymysg pethau eraill, wneud y Gymraeg yn sgil hanfodol i bob athro sydd eisiau dysgu yn ein hysgolion. Cewch ragor o fanylion ynghylch ein polisïau addysg yn ein dogfen Miliwn o Siaradwyr: Gweledigaeth o 2016 ymlaen, sydd i'w weld yma: http://cymdeithas.cymru/miliwn  

C9: O ystyried hyn, nodwch isod a allai unrhyw ran o'r cynnig hwn gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar unigolion â nodweddion gwarchodedig a ph'un a fyddai unrhyw ran o'r cynnig yn peri problemau o ran hygyrchedd i ddysgwyr yng Nghymru. 

Credwn y byddai'r cynigion yn eich dogfen yn golygu parhau i amddifadu nifer fawr iawn o wahanol grwpiau rhag medru'r Gymraeg yn rhugl oherwydd hap a damwain daearyddol, diffyg gwybodaeth neu ddewis eu rhieni.    

Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

Mai 2016