Week in Week Out - ymddiheuriad

Ateb. Week In Week Out (cyf. CAS-3846669-0703VY)
3/6/16

Annwyl Mr Bevan,

Diolch i chi am gysylltu â ni gyda’ch rhestr o gwynion ynglŷn â Week In Week Out. Mae'r ymateb yma’n ymdrin â'r materion nodwyd yn eich gohebiaeth 25ain o Fai.  Bydd y cwynion eraill a godwyd gennych mewn negeseuon pellach at BBC Cymru yn cael sylw ar wahân.

Rydym wedi adolygu pennod Week In Week Out am y safonau iaith Gymraeg arfaethedig a ddarlledwyd ar 24ain o Fai, a dymunwn ymddiheuro am y ffaith nad oedd y rhaglen hon yn cyrraedd safonau uchel arferol y gyfres.

Nid oedd hi’n fwriad gan Week in Week Out i gollfarnu’r Gymraeg; serch hynny, er bod y rhaglen yn adlewyrchu nifer o gamau cadarnhaol i gefnogi’r Gymraeg mewn gwahanol rannau o Gymru, ar fater penodol Mesur y Gymraeg, ni wnaeth y rhaglen egluro’n ddigonol pam fod y Mesur yn cael ei gyflwyno a’i amcanion.

Er bod cyfeiriad at gefnogaeth drawsbleidiol i’r Mesur, dylai'r rhaglen fod wedi adlewyrchu ystod ehangach o safbwyntiau o Dorfaen a thu hwnt, gan gynnwys safbwynt unigolion sy'n dymuno cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Tra bo cwestiynau dilys i'w gofyn ynglŷn â chost gweithredu posibl y mesurau, fel gydag unrhyw wariant cyhoeddus, credwn hefyd nad oedd digon o dystiolaeth yn y rhaglen i honni fod gan y Safonau "huge price tag". Cafodd ffigwr oedd yn ceisio rhoi amcangyfrif o gyfanswm cost cyflwyno'r safonau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru ei dynnu'n ôl ar ddiwrnod y darllediad gan nad oedd y data a ddefnyddiwyd yn gadarn, ac fe wnaethom ni ymddiheuro am gynnwys y ffigwr hwn mewn adroddiadau newyddion yn gynharach yn y dydd.

Er bod y rhaglen yn adlewyrchu'r ffaith bod cynghorau Gwynedd a Cheredigion yn gallu cydymffurfio â'r Safonau heb unrhyw neu fawr ddim cost, rydym yn derbyn y byddai cymharu Torfaen gydag awdurdodau cyfagos tebyg wedi bod yn well, ac y dylid bod wedi archwilio sail y costau honedig yn fwy trylwyr.

Rydym hefyd yn derbyn y dylai rhai elfennau o'r rhaglen fod wedi eu mynegi yn gliriach. Er enghraifft, roedd sgwrs o fewn y rhaglen wedi rhoi'r camargraff y byddai’r Safonau yn peri i Gyngor Torfaen orfod cyflogi derbynnydd ar wahân ar gyfer siaradwyr Cymraeg, lle wrth gwrs y byddai derbynnydd sy'n siarad Cymraeg yn medru delio â'r cyhoedd yn y ddwy iaith.

Yn amlwg rydym yn asesu’r gwersi sydd i’w dysgu o’r rhaglen benodol yma, ac rwyf yn ddiolchgar i chi am rannu eich pryderon. Byddwn yn parhau i archwilio materion sydd yn ymwneud â’r iaith a’i datblygiad ar draws ein gwasanaethau yn y misoedd nesaf. Mae crynodeb o’r pwyntiau sydd wedi’u hamlinellu yn y neges hwn wedi'i gyhoeddi ar wefan y BBC ar gyfer cywiriadau a negeseuon o eglurhad:  http://www.bbc.co.uk/helpandfeedback/corrections_clarifications/.

Rydym yn cydnabod eich pryderon am y mater yma, fel sy’n cael eu hamlinellu yn eich sylwadau adeiladol manwl. Hyderwn fod yr ymddiheuriad yma i chi ac achwynwyr eraill yn dangos ein bod yn ymdrin â’r materion dilys sydd wedi codi.

Yn gywir

Mark O’Callaghan

Pennaeth Newyddion a Materion Cyfoes, BBC Cymru