Ymgynghoriad Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Y Sector Iechyd)

Ymgynghoriad Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Y Sector Iechyd)

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1.Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros hawliau i'r Gymraeg ers dros 50 mlynedd. Credwn fod gan bob unigolyn sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw yr hawl i glywed, i weld, i siarad, i ddysgu, ac i fwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw iaith a ddylai fod yn etifeddiaeth gyffredin i ni gyd.

1.2. Ynghyd â’r sylwadau isod, atodwn ddeiseb wedi ei llofnodi gan 759 o bobl sydd wedi cytuno i’r datganiad canlynol:

‘Galwn ar Lywodraeth Cymru i ailedrych ar y Safonau arfaethedig ym maes iechyd i gynnwys darparwyr gwasanaethau iechyd sylfaenol, megis meddygfeydd a fferyllfeydd, er mwyn sicrhau bod gan bobl hawliau cadarn a chyflawn yn y maes hollbwysig hwn.’

1.3. Mae gan y Safonau botensial gwirioneddol i wella hawliau cleifion yn Gymraeg. O ran triniaeth mewn ysbytai, gallai gwelliant gwirioneddol er lles cleifion ddeillio o'r gyfundrefn. Mae rhoi hawliau i gleifion dderbyn triniaeth drwy'r Gymraeg yn bwysig, nid yn unig o ran hawliau ieithyddol ond er mwyn gwella'r gwasanaeth yn gyffredinol gan fod cyfathrebu'n effeithiol yn medru cael effaith gadarnhaol ar welliant y claf.

2. Crynodeb

2.1. Credwn fod angen cryfhau eich Safonau arfaethedig ym maes iechyd yn sylweddol.

2.2. Credwn fod potensial i’r Safonau wella gwasanaethau yn ein hysbytai a gwasanaethau eraill a gynhelir yn uniongyrchol gan fyrddau iechyd.

2.3. Fodd bynnag, gwasanaethau gofal iechyd syflaenol yw cyswllt cyntaf y cyhoedd â’r gwasanaeth iechyd yn y rhan fwyaf o achosion, felly mae’n rhyfeddod eich bod yn bwriadu eu heithrio o’r Safonau bron yn llwyr. Yn lle cryfhau ein hawliau i dderbyn gwasanaethau iechyd yn Gymraeg, mae eich rheoliadau yn gadael pobl ar lawr gwlad mewn sefyllfa hollol anobeithiol pan ddaw hi at ddelio â gwasanaethau gofal sylfaenol y gwasanaeth iechyd. Ni fydd y rheoliadau yn creu hawliau i'r cyhoedd wrth ymwneud â'r gwasanaethau hollbwysig hyn, ac felly maen nhw'n gwbl annerbyniol i ni.

2.4. Credwn fod angen adfer y Safonau yr ydych chi wedi hepgor o'r set hon a oedd yn rhan o reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015, sef yr hawl i wasanaeth ffôn cyfan gwbl Gymraeg (Safon 18, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015), yr hawliau i gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ymwneud â llesiant, a'r hawl i bob dogfen yn Gymraeg (Safon 40, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015).  

3. Gofal Sylfaenol

3.1. Rydym yn pryderu’n fawr am sefyllfa hawliau cleifion pan ddaw hi at wasanaethau gofal sylfaenol. Nid yw'r Safonau drafft yn rhoi i'r claf yr un hawl cyfreithadwy i'r Gymraeg pan ddaw hi at ddelio â'u meddyg teulu, deintydd, optegydd a fferyllydd.

3.2. Gwasanaethau gofal sylfaenol yw ein cyswllt cyntaf, ac yn aml ein hunig gyswllt, â’r gwasanaeth iechyd, felly byddai’n rhyfedd iawn pe na osodir unrhyw ddyletswyddau iaith ar y gwasanaethau hyn.

3.3. Mae cwynion di-ri am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg elfennol ym maes gofal sylfaenol, o ddiffyg gwasanaeth derbynfa Cymraeg, diffyg staff sy'n siarad Cymraeg i ddiffyg arwyddion a gwefannau Cymraeg. Fel dywedodd Comisiynydd y Gymraeg yn ei hymholiad swyddogol cyntaf "Fy iaith, fy iechyd: ymholiad i’r Gymraeg mewn gofal sylfaenol": 

"Rwyf wedi fy mrawychu o glywed rhai profiadau dirdynnol siaradwyr Cymraeg ac aelodau o’u teuluoedd o fethu â chael gwasanaeth iechyd addas i’w hanghenion."

3.4. Ymhellach, cafwyd argymhelliad clir gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ei hadroddiad am yr ymchwiliad ynglŷn â maes iechyd, ond anwybyddwyd yr argymhelliad wrth lunio’r rheoliadau:

"Casgliad 14: Gan mai gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf mwyafrif aelodau’r cyhoedd gyda’r gwasanaeth iechyd, cred Comisiynydd y Gymraeg ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. O ganlyniad, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â’r sefydliadau iechyd a fu’n destun i’r ymchwiliad safonau hwn. Daw’r Comisiynydd felly i’r casgliad bod angen safonau ychwanegol er mwyn galluogi hyn i ddigwydd."

3.5. Rydym ni fel mudiad yn derbyn yn gyson ymholiadau a chwynion gan ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol am eu bod wedi methu â derbyn gwasanaeth yn Gymraeg. Mae’n anodd iawn i bobl gwyno am ddiffyg hawl i wasanaeth yn Gymraeg oherwydd maent gan amlaf yn ceisio cefnogaeth y gwasanaethau yma pan fyddant mewn angen ac yn teimlo’n fregus ac mewn perygl.

3.6. Mae sawl astudiaeth a darn ymchwil yn dangos pa mor bwysig yw gallu cyfathrebu yn eich dewis iaith yn enwedig mewn sefyllfa o geisio cyfleu problem neu anhawster. Mae sawl enghraifft anffodus o asesiad anghywir a thriniaeth anaddas yn digwydd oherwydd nad yw’r person sy’n ymateb i angen y claf neu’r defnyddiwr gwasanaeth wedi gallu darparu’r gwasanaeth yn Gymraeg. Gall gwasanaeth iechyd yn Gymraeg arwain at fudd i iechyd y claf.

3.7. Mae iaith yn elfen allweddol o ofal. Mae pobl yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd pan maent ar eu mwyaf bregus, felly mae'n hanfodol bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei siarad. Dylai’r Safonau gydnabod fod gwasanaethau Cymraeg yn y maes hwn yn hawl sylfaenol i bobl Cymru.

3.8. Mae tystiolaeth ein haelodau yn awgrymu bod mwyafrif y darparwyr gofal sylfaenol ledled Cymru yn gweithredu fel pe na bai unrhyw orfodaeth na chanllawiau sy’n eu cymell i weithredu gydag ystyriaeth i anghenion iaith siaradwyr Cymraeg. Yn aml iawn nid oes staff dwyieithog yn cael eu penodi, ac nid yw arwyddion sylfaenol yn ddwyieithog hyd yn oed.

3.9. Prin bod y Safonau'n gwneud unrhyw beth i newid y sefyllfa, oherwydd y penderfyniad i wanhau'r rheoliadau presennol sydd eisoes yn weithredol ar gyfer cynghorau, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae'r rheoliadau arfaethedig ym maes iechyd (yn wahanol i'r Safonau ar gyfer cynghorau) yn datgan:

"Pan fo’r trydydd parti yn ddarparwr gofal sylfaenol, yn ysbyty preifat yng Nghymru neu’n ysbyty y tu allan i Gymru, yna nid yw unrhyw safonau yn gymwys."

3.10. Yn wir, mae'r dyletswyddau felly yn llawer gwannach na phe bai'r feddygfa yn gontractwyr i gynghorau lleol. Mae dyletswyddau iaith awdurdodau lleol (Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) yn datgan bod unrhyw wasanaethau a ddarperir ar ran corff, megis contractiwr sy'n darparu gwasanaeth gofal mewn cartref pobl hŷn, yn gorfod darparu yr un hawliau iaith â nhw. Ym maes iechyd, byddai hyn wedi golygu creu'r hawl i gymorth Cymraeg mewn apwyntiad yn y feddygfa leol. Yn lle hynny, mae ychydig o ddyletswyddau (Safonau 83 – 97 arfaethedig) ar Fyrddau Iechyd, megis un i annog defnydd o fathodynnau iaith mewn meddygfeydd a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill. Nid yw'r rhain yn creu hawliau i'r cyhoedd mewn unrhyw ddiffiniad ystyrlon o hawl, nac yn caniatáu i gleifion dderbyn eu triniaeth yn Gymraeg, dim ond creu dyletswydd wan ar y Bwrdd Iechyd sy'n anweithredol ac yn gwbl ddiwerth o safbwynt y defnyddiwr sy'n ceisio derbyn gwasanaeth. Ni fydd hawl gan bobl i fynnu gwasanaeth derbynfa nac apwyntiad yn Gymraeg mewn meddygfa.

3.11. Mae'n rhaid dweud hefyd bod yr honiad canlynol yn y ddogfen ymgynghorol yn un o'r rhai mwyaf gwrthnysig rydym erioed wedi ei weld:

"Gan fod llawer o ddarparwyr hefyd yn ymgymryd â gwaith preifat, ni fyddai’r amgylchiadau pan fyddai disgwyl iddynt gyd ymffurfio â safonau yn glir bob amser – gallai unigolyn gael cymysgedd o wasanaethau’r GIG a gwasanaethau preifat yr un pryd."

3.12. Hyd y deallwn, mae’r gosodiad uchod yn gamarweiniol, gan nad yw meddygon teulu yn cael gwneud gwaith preifat mewn unrhyw lefel ystyrlon o’r gair. Yn wir, mewn cyfarfod gyda ni, cyfaddefodd swyddogion y Llywodraeth nad oedd y ddogfen wedi cael ei hysgrifennu’n iawn a’i bod yn gamarweinol. Ymhellach, mae'r rhesymeg hon yn ymgais i droi dadl dros eglurder hawliau i'r cyhoedd yn rheswm dros beidio â chreu hawliau o gwbl. Yn wir, fe fyddai'n symlach pe na bai hawliau i'r Gymraeg gan y cyhoedd o gwbl. Byddai'n sefyllfa eglur iawn, fyddai ddim hawliau i'r Gymraeg o gwbl. Ond mae'n sarhaus i ddadlau bod hyn yn rheswm teg dros ddod i'r casgliad rydych chi wedi dod iddo.

4. Datrysiadau Posibl

4.1. Cyfarfu nifer o'n swyddogion â swyddogion yn Uned y Gymraeg yn ddiweddar i drafod ein pryderon. O'r cyfarfod, nid ydym yn argyhoeddedig bod y swyddogion wedi ystyried yn iawn pob opsiwn cyn penderfynu na ellir sicrhau bod gan y cyhoedd hawliau i wasanaethau gofal sylfaenol Cymraeg.

4.2. Fodd bynnag, ar nodyn cadarnhaol, roeddem yn falch bod y swyddogion wedi cytuno y byddai'n bosib gwneud y canlynol:

(i) enwi llawer iawn o fferyllfeydd yn y rheoliadau (gan eu bod yn derbyn dros £400,000 y flwyddyn) drwy gyflwyno gorchymyn i'w hychwanegu a'u cynnwys yn y rheoliadau iechyd;

(ii) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod amod ar gytundebau cenedlaethol perthnasol er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg;

(iii) creu hawliau ym maes gofal iechyd sylfaenol drwy osod Safonau ar Archwilydd Iechyd Cymru (HIW);

(iv) gosod amod ar yr arian sy'n mynd o fyrddau iechyd i wasanaethau gofal iechyd sylfaenol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Safonau i gyd; a/neu

(v) enwi'r meddygfeydd, deintyddfeydd, optegwyr a fferyllfeydd yn unigol.

4.3. Credwn fod y posibiliadau uchod yn cynnig tir ffrwythlon er mwyn sicrhau bod hawliau clir, cadarn a chyfreithiol gan y cyhoedd i'r Gymraeg wrth ymwneud â gwasanaethau gofal sylfaenol. Fodd bynnag, pwysleisiwn fod angen i’r Llywodraeth, boed yn fewnol neu drwy ofyn am gyngor allanol, sicrhau bod opsiwn yn cael ei weithredu sy’n sicrhau’r hawliau hynny.

5. Aneglurder cyfreithiol yn y ddogfen ymgynghori

5.1. Gwnaed honiad penodol yn y cyfarfod y byddai cynnwys darparwyr gofal sylfaenol fel trydydd parti yn y rheoliadau yn 'anghyfreithlon', gan na all Byrddau Iechyd fod yn gyfrifol am y cytundebau na'r meddygfeydd yn gyfreithiol. Fodd bynnag, nid yw'r ddogfen ymgynghorol yn gwneud yr un honiad – yr unig beth mae'r ddogfen yn ei dweud i'r perwyl hwnnw yw:

"Byddai'n gwneud y bwrdd iechyd yn gyfrifol am unrhyw fethiant i gydymffurfio â safonau gan un o'r darparwyr gofal sylfaenol er gwaethaf y ffaith nad oes ganddo unrhyw ddylanwad uniongyrchol ar y darparwr unigol."

5.2. Ymddengys mai datganiad 'cadarnhaol' yn hytrach nag un 'normative' yw'r uchod - nid oes awgrym yn y ddogfen na fyddai'n bosib yn gyfreithiol i roi grym o'r fath i fyrddau iechyd.

5.3. Hoffem dderbyn cadarnhad gan y Llywodraeth felly: a fyddai'n anghyfreithlon rhoi dylanwad uniongyrchol ar fyrddau iechyd dros ddarpariaeth iaith darparwyr gofal sylfaenol? Ac os felly, pam nad yw'r ddogfen ymgynghorol yn glir ynghylch hynny?

5.4. Dywedwyd yn ein cyfarfod gyda swyddogion nad oes perthynas contractio rhwng byrddau a allai arwain at 'orfodaeth'. Fodd bynnag, mae'r ddogfen ymgynghori yn dweud bod perthynas contractio. Rydym yn bryderus iawn ynghylch y diffyg eglurder am y sefyllfa gyfreithiol a'r gwahaniaethau ac anghysondebau amlwg rhwng yr hyn a ddywedwyd yn y cyfarfod â'r hyn a nodir yn y ddogfen ymgynghori.

5.5. Ymhellach, nodwn gyda phryder sylwadau Pennaeth Uned y Gymraeg a gyfaddefodd fod darnau pwysig yn y ddogfen ymgynghori ynghylch gofal iechyd sylfaenol heb gael 'ei sgwennu'n iawn', a bod y paragraff canlynol o'r ddogfen yn 'gamarweiniol':

"Aseswyd a ddylai’r safonau a osodir ar fyrddau iechyd (safonau 1 – 82) ymestyn i ofal sylfaenol. Byddai hyn yn trin bwrdd iechyd lleol sy’n is-gontractio gofal sylfaenol yn yr un modd â bwrdd iechyd lleol sy’n is-gontractio unrhyw wasanaeth arall. ... Gallai’r dull hwn arwain at ddiffyg eglurder i’r cyhoedd a darparwyr gofal sylfaenol gan na fyddai safonau’r Gymraeg ond yn berthnasol i wasanaethau y mae darparwyr gofal sylfaenol yn eu darparu ar ran y byrddau iechyd lleol. Gan fod llawer o ddarparwyr hefyd yn ymgymryd â gwaith preifat, ni fyddai’r amgylchiadau pan fyddai disgwyl iddynt gydymffurfio â safonau yn glir bob amser – gallai unigolyn gael cymysgedd o wasanaethau’r GIG a gwasanaethau preifat yr un pryd."

5.6. O'n sgyrsiau gyda nifer o feddygon teulu, nid yw'n wir i ddweud bod meddygon teulu yn gwneud gwaith preifat i unrhyw lefel ystyrlon, ac o'r hyn a ddeallwn ni chânt wneud gwaith sydd yn uniongyrchol yn ymwneud ag iechyd yn breifat. Yn amlwg, mae aneglurder cyfreithiol a ffeithiol mewn dogfen ymgynghori yn gwneud yn gwaith o gynnig gwelliannau yn llawer anos. Hyderwn y bydd modd i chi egluro'r sefyllfa gyfreithiol yn eich ateb i'r llythyr hwn.

6. Cynllunio’r Gweithlu

6.1. Cydnabuwyd y gellid enwi'r meddygfeydd, deintyddfeydd, optegwyr a fferyllfeydd a gosod Safonau arnynt yn unigol, ond bod problem recriwtio gweithwyr Cymraeg yn rhwystr. Cytunwn gyda'ch swyddogion bod cynllunio'r gweithlu'n her. Fodd bynnag, ac yn anffodus, mae'r Safonau recriwtio yn rhy wan i gynorthwyo'r shifft ieithyddol hynny. Nid yw'r Safonau yn annog cynnydd yn sgiliau Cymraeg y gweithlu. Gyda Safonau cryfach, gellid gwneud llawer iawn mwy o gynnydd yn y maes, ac erfyniwn arnoch chi i ail-edrych ar y mater hwn.

6.2. Nodwn nad ydy’r Safonau fel y’i drafftwyd yn annog gweithredu mewnol Cymraeg o fewn y gwasanaeth iechyd.

6.3. Mae’r sefyllfa bresennol, lle mae holl weithredu mewnol y gwasanaethau hyn yn digwydd yn Saesneg fel mater o drefn, yn golygu mai Saesneg yw’r iaith ‘arferol’, a bod unrhyw ymgais i ddefnyddio’r Gymraeg yn mynd i fod yn ymdrech ac yn eithriad o’r drefn bresennol. Mae angen datrys materion fel hyn yn ogystal â gwasanaethau amlwg rheng flaen, oherwydd fel arall mae’r holl drefn fewnol yn milwrio yn erbyn defnyddio’r Gymraeg.

6.4. Polisi recriwtio blaengar sydd ei angen i sicrhau gwasanaeth cyflawn Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd.

6.5. Un o’r elfennau pwysicaf oll yw cynyddu capasiti adnoddau dynol digonol i gynnig darpariaeth ddwyieithog. Bydd angen i Safonau Mesur y Gymraeg ei gwneud yn ofynnol gosod targedau o fewn amserlen bendant yn y gwasanaeth iechyd er mwyn adeiladu gweithluoedd iechyd a gofal sydd â chapasiti digonol, a hynny drwy hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle, recriwtio bwriadus a chynllunio strategol, gan adeiladu ar hynny’n barhaus.

6.6. Mae’r nifer o feddygon sy’n siarad Cymraeg wedi disgyn ers 2012. Fis Medi 2015, dim ond 6.5 meddyg sy’n medru’r Gymraeg oedd i bob 10,000 o boblogaeth Cymru sy’n siarad Cymraeg, sydd yn 1.2 meddyg Cymraeg fesul 10,000 o gyfanswm poblogaeth Cymru. Er mwyn sicrhau nad yw’r ffigwr hwn yn disgyn ymhellach, ac er mwyn sicrhau y gall pob pawb gael siarad â meddyg yn Gymraeg, mae’n rhaid i’r Safonau fynd i’r afael â materion cynllunio’r gweithlu.

7. Cyfarfodydd yn ymwneud â llesiant

7.1. Gwanhawyd yr hawl fwy cyffredinol i gael "cyfarfodydd yn ymwneud â llesiant" yn Gymraeg, sydd eisoes yn weithredol i bobl sy'n delio â Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a pharciau cenedlaethol. Credwn fod hyn yn enghraifft o flaenoriaethu buddiannau'r cyrff dros eglurder i'r cyhoedd, heb sôn am fynd yn groes i rai o brif amcanion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

7.2. Ymhellach, credwn fod angen ystyried a oes modd cryfhau ac ehangu geiriad Safonau 25, 26, 26A a 26B er mwyn sicrhau bod disgwyl i’r gwasanaeth gael i ddarparu yn Gymraeg yn ddiofyn,yn hytrach na chymryd yn ganiataol bydd rhaid cael cymorth neu gymorth cyfieithu.

8. Hepgor hawliau

8.1. Mae rhai o'r hawliau, sy'n weithredol ar rai cyrff cyhoeddus yn barod, wedi eu hepgor yn gyfan gwbl o'r Safonau. Mae hynny'n annoeth tu hwnt gan y byddai'n golygu na fyddai hyblygrwydd gan y Comisiynydd i benderfynu gosod y ddyletswydd ar gyrff a chynnig rhagor o amser iddynt gyrraedd y gofyniad hwnnw. Credwn fod hyn yn amlygu diffyg dealltwriaeth cyfreithwyr a rhai o swyddogion y Llywodraeth o'r broses gosod Safonau.

8.2. Yn benodol, credwn y dylid ailgynnwys yr hawl i wasanaeth ffôn cyfan gwbl Gymraeg (Safon 18, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) a'r hawl i bob dogfen yn Gymraeg (Safon 40, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) yn y rheoliadau arfaethedig hyn. Anghytunwn yn gryf gyda’r penderfyniad i’w hepgor yn y drafft ymgynghorol. Roeddem yn falch o glywed yn ein cyfarfod gyda swyddogion Uned y Gymraeg y byddai'r swyddogion yn ystyried ail-gynnwys Safonau oedd yn y rheoliadau ar gyfer cylch 1 a gafodd eu hepgor o'r Safonau drafft hyn. Credwn fod angen, fan leiaf, galluogi i'r Comisiynydd osod y Safonau uchaf ar gyrff fel bod modd iddi hi ddefnyddio hyblygrwydd yr hysbysiad cydymffurfio lle bo'n berthnasol.

9. Pryderon am brosesau Llywodraeth Cymru o ran llunio'r Safonau

9.1. Nodwn ymhellach, ei bod yn glir o’r ymgynghoriad bod y Llywodraeth wedi blaenoriaethu buddiannau cyrff dros fuddiannau'r cyhoedd, gan ddweud:

"Ffactor arall o bwys yn ein hystyriaeth oedd capasiti darparwyr gofal sylfaenol unigol i allu cynnig gwasanaethau iaith Gymraeg i'r un graddau â’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau, a sut y byddent yn gallu cydymffurfio â safonau yn ymarferol." 

9.2. Nid ydym yn credu bod y Llywodraeth wedi cyd-bwyso hyn yn rhesymol na chymesur o safbwynt y defnyddiwr. Mae'n glir bod swyddogion wedi dewis yr opsiwn hawsaf iddynt eu hunain a hefyd i'r cyrff hynod o gyfoethog hyn ar draul hawliau'r cyhoedd. 

9.3. Gwyddom fod y Llywodraeth wedi, yn weddol fyr rybudd, trefnu dau gyfarfod ymgynghorol cyhoeddus am y Safonau Iechyd. Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad oes digon o ymgynghori â chleifion wedi bod, dim ond gyda chyrff a sefydliadau. Dylid cofio mai cleifion, a'u hawliau i dderbyn gwasanaethau Cymraeg, ddylai fod yn ganolog i'r Safonau.  

9.4. Nodwn broblem sy'n codi tro ar ôl tro wrth i'r Safonau gael eu llunio – mae'r gweision sifil yn eich adran yn poeni llawer iawn yn fwy am farn cyrff yn hytrach na chleifion. Esboniwyd yn ein cyfarfod mai rhan o'r broblem yw bod gan gyrff yr hawl i herio'r Safonau ar sail 'rhesymoldeb a chymesuredd', ac felly bod y gweision yn poeni a yw'r Safonau yn creu hawliau iaith rhy gryf. Gobeithiwn yn fawr felly y byddwch chi'n edrych i unioni'r sefyllfa hon wrth i chi gryfhau Mesur y Gymraeg dros y flwyddyn nesaf.

10. Casgliadau

10.1. Ailadroddwn ein pryder nad yw'r Safonau yn ddigon heriol nac ychwaith yn adlewyrchu'r angen i feddwl am sut y byddant yn gweithredu pan fo'r Gymraeg yn iaith y mwyafrif.

10.2. Mae'r pwyntiau uchod yn faterion difrifol iawn, a chredwn nad yw’r Llywodraeth wedi rhoi sylw dyladwy, fel sy'n ofynnol i chi ei wneud o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i ddau adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch gofal sylfaenol wrth lunio'r ymgynghoriad hwn. Os ydy’r Llywodraeth yn honni iddynt roi sylw dyladwy i'r adroddiadau, credwn eu bod wedi dod i gasgliad cwbl afresymol. Ymhellach, credwn iddynt ystyried prawf 'rhesymoldeb a chymesuredd' o safbwynt y cyrff yn unig, yn hytrach na'r hyn sy'n rhesymol a chymesur o safbwynt y defnyddiwr sy'n ceisio derbyn gwasanaeth.

10.3. Mae'r Safonau hyn yn gyfle i fynd i'r afael â'r problemau enbyd sydd yn y gwasanaethau iechyd o ran diffyg gwasanaethau a thriniaeth yn Gymraeg. Fodd bynnag, ni fanteisiwyd ar y cyfle hwn i wella'r gofal i siaradwyr Cymraeg gan nad yw'r Safonau arfaethedig yn cynnwys gwasanaethau iechyd sylfaenol.

10.4. Mae'r ymgynghoriad yn un a fydd yn effeithio ar filoedd ar filoedd o bobl, yn eu plith y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Felly mae’n hollbwysig sicrhau bod gan bobl hawliau cadarn a chyflawn yn y maes hollbwysig hwn.

10.5. Gobeithiwn yn fawr y bydd swyddogion yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau datrysiad cyfreithiol er mwyn cynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol yn y Safonau, ac felly creu hawliau clir yn y maes.

Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith

Hydref 2016