Fforwm Agored Tynged yr Iaith Sir Gâr – Mentrau Cymunedol Lleol i Yrru Economi Cymraeg

18/05/2024 - 10:00

Fforwm Tynged yr Iaith Sir Gâr - Mentrau Cymunedol Lleol i Yrru Economi Cymraeg

10.00, bore Sadwrn, 18 Mai

Llyfrgell Caerfyrddin

Mae angen swyddi yn y sir yn fwy nag erioed ond allwn ni ddim dibynnu ar gyflogwyr mawr i gefnogi ein cymunedau.

Bydd cynrychiolwyr o Cymunedoli – rhwydwaith o fentrau a busnesau cymunedol, sydd yn creu trosiant blynyddol o ddegau o filiynau o bunnoedd rhyngddynt ac yn cyflogi cannoedd o bobl – yn esbonio sut maen nhw wedi mynd ati.

Bydd Darren Price (Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin), Ann Davies (Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig gyda'r  Cyngor Sir) ac eraill yn trafod posibiliadau tebyg yn y sir er mwyn darparu gwaith a gwasanaethau.

Am ragor o wybodaeth e-bostiwch: bethan@cymdeithas.cymru