Adborth am Ddiffyg Cymraeg

Ydych chi wedi trïal cyfathrebu â chorff cyhoeddus yn Gymraeg ond bod dim gwasanaeth Cymraeg ar gael? Os felly, ‘sgrifennwch y manylion isod. Cysylltwn ni â’r corff ar eich rhan heb roi eich enw chi iddyn nhw. Gallwn ni gysylltu â chi wedyn i esbonio beth ddigwyddodd. Halwn ni gopi o’r ffurflen ac ymateb y corff at Gomisiynydd y Gymraeg.

Enghraifftiau o adborth:

  1. Es i i ganolfan hamdden Abergwaun yn ddiweddar. Mae lot o bosteri uniaith Saesneg yn y lle.

  1. Mae swyddogion addysg y Cyngor Sir yn cynnal cyfarfodydd uniaith Saesneg ond ‘sdim gwasanaeth Cymraeg. ‘W i’n meddwl bod y Cyngor Sir yn anwybyddu’r Gymraeg fel cyfrwng addysg ac fel iaith gymunedol.

Am fwy o wybodaeth am Gymdeithas yr Iaith cysylltch gyda bethan@cymdeithas.org / 01559 384378