Tocyn gwersylla Môn (fesul noson)

£10.00
Gwersylla Cymdeithas yr Iaith - £10 y pen y noson

Defnyddiwch y dudalen yma i dalu am wersylla am un noson ar y tro - sef £10 bob pen, bob noson. Mae gostyngiad ar gyfer yr wythnos gyfan (£60 y pen drwy'r wythnos) - yma http://cymdeithas.cymru/gwersylla

*nid oes cyfleusterau trydan na dŵr sy'n cysylltu i garafannau

Mynediad i blant dan 12 mlwydd oed yn rhad ac am ddim

Lleolir y maes gwersylla ar Fferm Penrhos, LL65 3TA

Bydd cae ar gyfer parcio eich ceir yno.

ON. nid yw'r prisiau hyn yn cynnwys mynediad i'r gigs - bydd rheini ar gael ar wahân, neu ewch i http://cymdeithas.cymru/gwersylla i archebu tocyn wythnos

Nodwch pa ddydd byddech yn cyrraedd ac yn gadael yn y blychau isod er mwyn archebu lle

PWYSIG: mae un tocyn yn caniatáu lle i un person ar gyfer un noson. Defnyddiwch y blwch nifer i sicrhau eich bod yn talu £10 y pen y noson, e.e. os oes 2 ohonoch yn aros am 3 noson bydd angen 6 thocyn (=£60)

 

Wrth archebu rydych yn cytuno i bolisi ymddygiad mewn digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith ac i delerau ac amodau maes gwersylla'r Gymdeithas.

Pris: £10.00

Dewiswch ymha ardal hoffech chi wersylla