Hawliau i Wasanaethau Gofal Iechyd Sylfaenol yn Gymraeg

Anfonwch yr e-bost isod at Lywodraeth Cymru er mwyn pwyso arnyn nhw i sichrau hawliau clir i wasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn Gymraeg.

Mae grŵp o ymarferwyr iechyd eisoes wedi anfon llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn galw am hynny wrth i weision sifil baratoi i gyhoeddi dyletswyddau iaith ym maes iechyd cyn pleidlais yn y Cynulliad yn yr wythnosau nesaf. Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r rheoliadau, Safonau'r Gymraeg, cyn y Nadolig.

Roedd y rheoliadau drafft, y cynhaliwyd ymgynghoriad arnyn nhw'r llynedd, yn eithrio gofal sylfaenol o'u darpariaethau. Felly, fyddai yna ddim hawliau cyfreithiol gan unigolion i dderbyn gwasanaethau Cymraeg wrth ymwneud â meddygon teulu, deintyddion, optegwyr na fferyllwyr dan gynlluniau gwreiddiol y Llywodraeth. Gallwch chi ddarllen mwy am y rheoliadau drafft drwy glicio yma. Gweler llythyr gan ymarferwyr iechyd yn mynegi eu pryderon yma.

Er i Gomisiynydd y Gymraeg gynghori'n gryf, ar ôl ei gwaith ymchwil manwl, y dylai gwasanaethau sylfaenol gael eu cynnwys yn y rheoliadau, roedd y rheoliadau arfaethedig y llynedd yn datgan: "Pan fo'r trydydd parti yn ddarparwr gofal sylfaenol ... yna nid yw unrhyw safonau yn gymwys." Gallwch chi ddarllen adroddiad y Comisiynydd am y Safonau yma.

Bydd copi o'ch ebost yn mynd at swyddfa Cymdeithas yr Iaith hefyd, ac mae'n bosib y cysylltwn ni â chi ynghylch ein hymgyrchoedd.

Testun : Safonau'r Gymraeg - Hawliau i wasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn Gymraeg
Neges :

Annwyl Weinidog,

Rwy'n cefnogi galwadau gan ymarferwyr ym maes gofal iechyd i chi newid Safonau'r Gymraeg fel bod hawliau cyfreithadwy cadarn a chlir gan y cyhoedd i dderbyn gwasanaethau gofal sylfaenol yn Gymraeg.

Pryderaf yn fawr nad yw'ch rheoliadau drafft yn sicrhau hawliau i'r Gymraeg wrth i'r cyhoedd ymwneud â gwasanaethau gofal sylfaenol y gwasanaeth iechyd. Fel y gwyddoch, prif gyswllt y cyhoedd â'r gwasanaethau iechyd yw'r gwasanaethau hyn, felly mae'n allweddol bod cleifion yn cael siarad â'r gwasanaethau gofal sylfaenol ledled y wlad yn Gymraeg.

Credaf ei bod yn hanfodol nad yw darparwyr y gwasanaethau rheng flaen hyn yn cael eu heithrio o'r Safonau arfaethedig. Wedi'r cwbl, rydym yn sôn am hawliau rhai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, ar adegau yn eu bywydau pan fo cyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig iawn i'w hiechyd ac o ran sicrhau'r driniaeth orau iddyn nhw.

Yn adroddiad ‘Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad i’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol’ yn ôl ym mis Mehefin 2014 roedd Comisiynydd y Gymraeg yn nodi'n glir ar ôl ymchwil drwyadl ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb o ran ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. O ganlyniad, credwn fod rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â’r byrddau iechyd a sefydliadau iechyd eraill.

Rhaid cymryd camau penodol i sicrhau bod deddfwriaeth ac is-ddeddfwriaeth sydd yn yr arfaeth yn adlewyrchu’r angen i hybu’r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae digon o waith ymchwil rhyngwladol yn ogystal yn cefnogi'r galwadau hyn.

Rwy'n erfyn arnoch felly i newid y rheoliadau fel bod gan bobl ar lawr gwlad hawliau cadarn yn y meysydd hollbwysig hyn.

Eich manylion