26,581 o blant yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg bob blwyddyn

Mae mudiadau ymgyrchu wedi dod ynghyd ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (1pm, Dydd Mercher, 1af Mehefin) er mwyn tynnu sylw at y degau o filoedd o blant sy'n cael eu hamddifadu o fedru'r Gymraeg bob blwyddyn oherwydd y gyfundrefn addysg. 

Yn ôl ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru, roedd 26,581 o ddisgyblion saith mlwydd oed na chawsant addysg cyfrwng Cymraeg yn 2014, plant fydd wedi colli'r cyfle o fod yn rhugl yn y Gymraeg. Rhwng 2004 a 2014, cafodd dros 280,000 o ddisgyblion eu hamddifadu o addysg cyfrwng Cymraeg. 

Oherwydd y sefyllfa hon, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal ymgyrch i symud at addysg Gymraeg i bob disgybl yn y wlad. Mae'r mudiad yn galw ar i'r Llywodraeth weithredu ar argymhellion adroddiad Yr Athro Sioned Davies, sy'n cynnwys dileu'r cysyniad o Gymraeg ail iaith a chyflwyno peth addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl. 

Er mwyn tynnu sylw at yr angen i newid, fe ddangosodd ymgyrchwyr rifau o flaen stondin Llywodraeth Cymru i gynrychioli'r 78% o blant saith mlwydd oed nad ydynt yn cael cyfle i fod yn rhugl yn Gymraeg. Yn eu plith, roedd cynrychiolydd undeb athrawon UCAC, Nick Thomas o'r mudiad Syfflag - sy'n ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn Sir y Fflint; a Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith. 

Yn siarad o faes yr Eisteddfod yn Sir y Fflint, dywedodd Nick Thomas o'r mudiad Syfflag sy'n ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn lleol 

"Ar un adeg, roedd Sir y Fflint yn arwain y gad o ran datblygu addysg Gymraeg ac yn sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf. Buodd tua mil o blant yn Ysgol Maes Garmon yn yr wythdegau. Bellach, mae llawer yn llai na hynny, a does dim cynnydd wedi bod o ran ysgolion cynradd chwaith. Mae rhaid i'r cyngor yn gwneud llawer yn well er mwyn bodloni dymuniad pobl leol sydd eisiau i'w plant fod yn rhugl eu Cymraeg." 

Ychwanegodd Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:   

"Mae'r system addysg fel y mae yn golygu bod y rhan helaeth o'n plant a'n pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg. Mae'r Llywodraeth yn cynnal system fydd yn arwain at ddirywiad yr iaith. Mae angen trawsnewid y system fel bod pob plentyn yn dod allan o'r ysgol yn rhugl eu Cymraeg. Dyna fydd ei angen er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni eu targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.  

"Mae'n rhaid cymryd camau dewr ymlaen a hynny ar frys. Rydyn ni wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Addysg newydd Kirsty Williams gan ofyn am gyfarfod i drafod y materion hyn. Mae dybryd angen codi disgwyliadau pawb o ran y Gymraeg mewn addysg, trwy ddileu'r cysyniad o Gymraeg ail iaith a sefydlu un continwwm dysgu'r iaith i bob plentyn fel bod modd sicrhau addysg Gymraeg i bawb dros amser. Mae angen gwaith brys i weithredu argymhellion adroddiad yr athro Sioned Davies - a dymuniad y Prif Weinidog - o sefydlu continwwm fel bod pawb yn profi manteision addysg Gymraeg."