99% o gyllid ffilmiau'r Llywodraeth yn mynd i brosiectau Saesneg

Angen clustnodi hanner yr arian ar gyfer prosiectau Cymraeg eu hiaith medd Cymdeithas 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu'n hallt gan fudiad iaith am fuddsoddi ddim ond £40,000 yn ffilmiau Cymraeg ers 2011 tra'n gwario £7 miliwn ar ffilmiau Saesneg.  

Yn 2014, sefydlwyd cyllideb 'Buddsoddi yn y Cyfryngau' gwerth £30 miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd gan Weinidogion Cymru. Ond mewn ymateb i gais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, meddai'r Llywodraeth mai dim ond 0.57% o arian sydd wedi ei fuddsoddi yn ffilmiau Cymraeg: 

"Yn 2013/14, darparwyd £ 40,000 i gefnogi ffilmiau cyfrwng Cymraeg a £ 452,009 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg. Yn 2014/15, darparwyd £ 3,852,784 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg ac yn 2015/16 darparwyd £ 2,704,516 i gefnogi ffilmiau cyfrwng Saesneg." 

Mae ffilmiau, megis 'Take Down' a 'Don't Knock Twice', wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru ers i'r gyllideb gwerth £30 miliwn gael ei sefydlu  

Mewn llythyr at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y gronfa, Ken Skates AC, meddai Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Mae'n fater o gryn siomedigaeth bod ein Llywodraeth ni, sy'n rhannol gyfrifol am hybu'r Gymraeg, yn gallu ffafrio'r Saesneg i'r fath raddau, yn enwedig gan ystyried y dalent a gallu i greu ffilmiau Cymraeg o'r safon uchaf yn y Gymraeg.   
 
"Mae buddsoddiad o £7 miliwn dros 3 blynedd yn y Saesneg yn sylweddol iawn, ac mae'r £40,000 yn wir yn slap yn y wyneb i'r rheini sydd eisiau cynhyrchu ffilmiau yn Gymraeg, y diwydiant ffilm a theledu Cymraeg a chefnogwyr y Gymraeg yn fwy cyffredinol. Ni ellid tanamcangyfrif pwysigrwydd y cyfrwng ffilm fel ffordd o hybu diwylliannau, yn enwedig diwylliannau lleiafrifedig fel rhai cyfrwng Cymraeg.  
 
"Gofynnwn ni i chi ddatgan nad ydych chi'n fodlon â'r ffigurau hyn ac eich bod yn mynd i gymryd camau er mwyn unioni'r sefyllfa yma dros y blynyddoedd nesaf.  Awgrymwn eich bod yn clustnodi o leiaf 50% o'r gyllideb "Buddsoddi yn y Cyfryngau", fel rhan o gynllun ar wahan, ar gyfer prosiectau Cymraeg eu hiaith."  

"Dim ond un enghraifft ymhlith nifer o'r anffafriaeth i'r Gymraeg o fewn cyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth yw hon, a galwn arnoch chi i ystyried eich holl gyllideb a chymryd camau pendant i fuddsoddi mwy ym mhrosiectau sy'n cael effaith positif ar y Gymraeg."