“Agorwch y drysau caeedig” - galwad mudiad iaith

Yn wyneb sïon cynyddol fod Cyngor Ceredigion yn trafod yn gyfrinachol gyda datblygwyr i ganiatáu nifer sylweddol o dai ar safle ysgolion Llandysul, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Cyngor i “agor y drysau caeedig” a chynnal cyfarfod cyhoeddus i gael barn pobl y dref am sut i ddatblygu'r safle i greu gwasanaethau a chyflogaeth i bobl leol yn hytrach na thai ar gyfer mewnfudwyr.

Daw'r safle sylweddol yn rhydd o ganlyniad i benderfyniad dadleuol y Cyngor i greu un ysgol ganolog 3-19 oed tu allan i Landysul ar gyfer holl ddisgyblion ardal eang. Mae'r ansicrwydd am dynged safle presennol yr ysgol yn creu amheuaeth ynghylch dyfodol y pwll nofio cymunedol, y ganolfan hamdden a'r ganolfan deuluol sydd oll ar yr un safle.

Wrth wneud yr alwad, dywed Bethan Williams, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith:
"Mae creu un ysgol ganolog enfawr eisoes wedi tanseilio nifer o gymunedau pentrefol y cylch, nawr mae peryg y bydd y Cyngor yn tanseilio tre Llandysul ei hun – y ward sydd yn ail o canran o siaradwyr Cymraeg yn ôl canlyniadau'r Cyfrifiad diwethaf. Does dim galw lleol am nifer mawr o dai newydd gan bobl leol, ond mae galw am sicrwydd dyfodol y gwasanaethau ar y safle fel y Pwll Nofio, Y Ganolfan Hamdden a'r Ganolfan Deuluol. Dyw pobl leol ddim wedi llwyddo i gael atebion pendant eto gan y Cyngor.
"Galwn felly ar Gyngor Ceredigion i drefnu cyfarfod cyhoeddus yn Llandysul, a bod agor y drysau caeedig gan adrodd ar unrhyw drafodaethau gyda datblygwyr. Yn y cyfarfod, mae angen hefyd i wahodd syniadau pobl leol am sut i ddatblygu'r safle. Gall syniadau o'r fath gynnwys cyfleon gwaith, gwasanaethau a'r math o ddatblygiadau tai y mae galw lleol amdanynt fel fflatiau i bobl ifainc efallai yn yr adeilad hanesyddol."