Ailagor Pantycelyn i staff neu fyfyrwyr?

Union dair blynedd ers ennill y frwydr i gadw Neuadd Pantycelyn ar agor, mae gan fyfyrwyr bryder am ddatblygiadau diweddar i’r neuadd.

Symudwyd swyddfeydd Adran Ystadau’r brifysgol i Ffreutur Pantycelyn fis Mawrth, am gyfnod o chwe mis.
Mae cais rhyddid gwybodaeth a wnaed gan Ffrindiau Pantycelyn yn dangos i’r brifysgol wario £4,382.11 ar newidiadau i Bantycelyn wrth addasu’r ffreutur yn swyddfeydd. Mae hyn yn cynnwys gosod cloeon, socedi trydan, arwyddion, ail-wneud y gegin, ac ailbeintio’r ffreutur a’r maes parcio.

Meddai Manon Elin, aelod i Gell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith:
“Er bod yr Adran Ystadau wedi cael caniatâd UMCA i ddefnyddio’r ffreutur, roeddem o dan yr argraff na fyddai hyn yn arwain at wariant sylweddol. Mae’r ffaith i’r brifysgol wario dros £4,000 ar ddatblygiadau ar gyfer yr Adran Ystadau, sydd yn defnyddio’r ffreutur am chwe mis yn unig, yn wastraff arian llwyr.
"Rydyn ni’n anhapus â’r ffordd y mae’r Adran Ystadau wedi gosod cloeon yn y neuadd, a chymryd ystafelloedd ychwanegol, heb ymgynghori ag unrhyw un. Ein Neuadd ni yw Pantycelyn, nid Neuadd y Brifysgol.
"Gan nad yw’r gwariant hwn yn gysylltiedig â’r cynllun i ailagor Pantycelyn, rydym yn gobeithio’n fawr mai o gronfa Adran Ystadau y daeth yr arian, ac nid o’r gronfa i adnewyddu ac ailagor Pantycelyn”

Ychwanegodd Jeff Smith, sydd hefyd yn fyfyriwr ac yn is-Gadeirydd ymgyrchoedd i Gymdeithas yr Iaith:
“Ymddengys fod y brifysgol yn gwario mwy ar addasu’r ffreutur i’r Adran Ystadau na maent yn ei wario ar gynnal a chadw’r neuadd yn gyffredinol. Rydym yn amheus a ydy’r brifysgol yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y neuadd, gan fod ffenestri’n pydru, craciau yn y papur wal a hyd yn oed iorwg yn dod mewn trwy ffenest. Os nad oes gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar frys, mae perygl y gallai’r neuadd barhau i ddadfeilio.
"Bu’r Brifysgol yn gyndyn i fuddsoddi ar ddatblygu Pantycelyn yn ystod y blynyddoedd y bu myfyrwyr yn lletya yma. Ymddengys o’r Cais Rhyddid Gwybodaeth bod dros ¾ o’r gwaith a wnaed ar y Neuadd rhwng Haf 2011 a Haf 2015 yn costio llai na £50. Hefyd, pan symudodd Gwasanaethau’r Gymraeg eu swyddfeydd i’r neuadd, i hen ystafelloedd gwely, ni chawsant hwy unrhyw addasiadau wedi eu gwneud ar eu cyfer. Felly bu rhaid iddynt symud yn ôl i’r campws, gan nad oedd cyflwr y neuadd yn ddigon da. Pam fod yr Adran Ystadau yn cael blaenoriaeth dros Wasanaethau’r Gymraeg?”

Ychwanegodd Hedydd Elias, aelod o Ffrindiau Pantycelyn:
“Mae’r wybodaeth a dderbyniom drwy’r cais rhyddid gwybodaeth hefyd yn dangos bod y Brifysgol wedi bod yn gwastraffu arian ar bethau diangen, megis £10 i dalu gweithiwr i newid amser ar gloc yn y neuadd! Rydym yn dal i aros i gael cynllun pendant ar sut fydd y Brifysgol yn dod o hyd i’r £10miliwn i ailagor Pantycelyn erbyn Medi 2019.
"Dair blynedd yn ôl i heddiw, (y pedwerydd o Ebrill), roeddem yn dathlu achub Pantycelyn, ond erbyn heddiw dydy’r Neuadd ddim hyd yn oed yn ymddangos fel eiddo i’r myfyrwyr. Y myfyrwyr Cymraeg sy’n gwneud Pantycelyn yn arbennig ac mae rhaid iddynt gael blaenoriaeth.”



Beth

Cost

Cloeon SALTO yn y ffreutur

£394

Cloeon SALTO ar 5 ystafell rhwng y ffreutur a’r lolfa fawr

£985

Socedi trydan newydd yn y ffreutur

£1523.11

Yr holl arwyddion newydd yn y neuadd a’r maes parcio

£80

Ailbeintio’r llinellau yn y maes parcio

£650

Ailbeintio’r ffreutur rhwng

£150

Ail-wneud y gegin

£450

Carped yn y ffreutur

£150

Cyfanswm yr holl waith a newidiadau i’r neuadd rhwng 1 Ionawr 2017 a 19 Mawrth 2017

£4,382.11