Angen cadw'r Comisiynydd: croesawu llythyr arbenigwyr rhyngwladol

Mae mudiad iaith wedi croesawu llythyr gan Gymdeithas Rhyngwladol y Comisiynwyr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â diddymu Comisiynydd y Gymraeg. 

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Dyma dystiolaeth bellach i gefnogi'r ddadl dros gadw Comisiynydd y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cael gwared ar swydd Comisiynydd y Gymraeg, a hynny heb gynnig unrhyw reswm, unrhyw resymeg nac unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny. 

"Roedd papur gwyn y Llywodraeth wedi'i seilio ar ddim ond naw mis o waith Comisiynydd y Gymraeg ar y Safonau. Ond mae tystiolaeth glir yn dangos bod y swydd eisoes yn cael dylanwad ar hawliau pobol ar lawr gwlad. Ffolineb llwyr fyddai cael gwared â'r swydd ar ôl cymryd amser, arian ac egni i'w sefydlu, ond yn bwysicach am ei bod hi'n amlwg ei fod yn swyddogaeth sy'n cynnig gwerth clir am arian ac yn effeithiol. Adeiladu ar y swydd a'i datblygu sydd eisiau nawr, nid ei gwaredu." 

"Mae angen Bil er lles y bobl, yr iaith a'i defnydd, nid Bil er lles y biwrocratiaid fel mae'r Llywodraeth yn ei gynnig. Byddai'n well iddyn nhw beidio deddfu o'r newydd o gwbl na throi'r cloc yn ôl fel hyn a gwanhau ein hawliau. Rydym yn gwrthwynebu yn chwyrn gynlluniau presennol y Llywodraeth, ac rydyn ni'n galw ar bobl Cymru i'w gwrthwynebu hefyd."