Apêl i gynghorwyr Gwynedd wrthod y Cynllun Datblygu Lleol

Mae mudiad iaith wedi annog cynghorwyr Gwynedd i fod yn 'ddewr' a 'rhoi'r Gymraeg cyn unrhyw blaid' drwy wrthod cynllun i adeiladu wyth mil o dai, cyn cynnal protest heddiw ar ddiwrnod y bleidlais 

Mewn pleidlais yn y Cyngor llawn heddiw, caiff cynghorwyr Gwynedd eu cyfle olaf i atal y cynlluniau a fyddai'n caniatáu adeiladu 8,000 o dai ychwanegol yng Ngwynedd a Môn dros y pymtheg mlynedd nesaf. Byddai'r cynllun yn golygu adeiladu dros 400 o dai yng Nghaernarfon a bron i 1,000 o dai ym Mangor, ar ben y 366 o dai newydd a gynllunnir ar gyfer Pen-y-ffridd yn y ddinas.   

Ym mis Mawrth eleni, daeth asesiad effaith iaith annibynnol i'r casgliad y byddai cwymp o 2% yng nghanran siaradwyr Cymraeg pe tai'r cynllun yn cael ei basio fel y mae.

Cyn siarad mewn protest tu allan i swyddfeydd y cyngor, dywedodd Menna Machreth ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:     

"Apeliwn at y cynghorwyr i fod yn ddewr, ac i roi'r Gymraeg cyn unrhyw blaid. Mae cyfle i gynghorwyr o bob un blaid sefyll i fyny a dangos nad ydyn nhw'n mynd i fod yn daeog i'w meistri yng Nghaerdydd. Gallan nhw fod yn wahanol a gwneud gwir wahaniaeth i'r iaith yn lleol. Byddai'n well cael rhai misoedd heb gynllun na 15 mlynedd gyda sicrwydd o niwed i'r Gymraeg. 

"Mae nifer yn cwestiynu pam fod swyddogion Cyngor Gwynedd yn dawnsio i diwn Llywodraeth Llafur Cymru o ran adeiladu cymaint o dai diangen. Mae'n bryd i gynghorwyr anfon neges i'r Llywodraeth ym Mae Caerdydd bod y Gymraeg a chymunedau lleol yn bwysicach nag adeiladu fwyfwy o dai i lenwi coffrau datblygwyr mawrion."  

"Mae swyddogion y Cyngor yn ceisio dal gwn i bennau cynghorwyr, gan adael y camargraff nad oes dewis gyda nhw ond i roi sêl bendith ar adeiladu wyth mil o dai diangen. Ond rydym yn erfyn arnyn nhw i ddal eu tir, i sefyll dros y Gymraeg, a gwrthod y cynllun."