Archif Newyddion

27/02/2024 - 22:37
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Llywodraeth Cymru i wrando ar a chydweithio gyda ffermwyr ac ystyried y goblygiadau i’r Gymraeg wrth ailedrych ar ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy. 
26/02/2024 - 12:37
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymuno â’r ymgyrch yn erbyn toriadau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Comisiwn Brenhinol gan rybuddio am yr effaith ar y Gymraeg a chymunedau Cymraeg, a dweud eu bod yn “gyfystyr a thoriadau i’r iaith.” Dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith: 
21/02/2024 - 20:55
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, i ddangos yr un uchelgais â phobl Cymru wedi iddo dderbyn ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus i Bapur Gwyn ar gyfer ei Fil Addysg Gymraeg.
04/02/2024 - 19:21
Bydd Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, a Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ymysg siaradwyr rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai. Bydd y rali, sy’n cymryd lle ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, yn pwysleisio’r angen am Ddeddf Eiddo i sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf fel angen cymunedol, nid asedau masnachol, fel bod pobl yn gallu parhau i fyw a gweithio yn eu cymunedau.
26/01/2024 - 15:26
Wedi i apêl ar sail technegol gan gwmni One Parking Solution gael ei ganiatáu mewn llys heddiw (dydd Gwener 26 Ionawr) gall y cwmni barhau i erlyn Toni Schiavone dros hysbysiad cosb parcio a dderbyniodd yn 2020.
23/01/2024 - 21:40
Bydd yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone yn wynebu trydedd achos llys ddydd Gwener (26 Ionawr) oherwydd iddo wrthod talu rhybudd parcio uniaith Saesneg.  Yn ôl Cymdeithas yr Iaith byddai cyfieithu’r rhybudd, ac osgoi tair achos llys dros gyfnod o dair blynedd a hanner, wedi costio rhwng £60 a £70.
20/01/2024 - 15:13
Mae myfyrwyr wedi arwain ail biced Cymdeithas yr Iaith y tu allan i Swyddfa Bost Aberystwyth heddiw wrth i ragor o gwsmeriaid wynebu agwedd wrth-Gymraeg, er gwaetha addewidion na fyddai’n digwydd eto.
15/01/2024 - 15:35
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cwrdd â Chyfarwyddwr y BBC yng Nghymru, Rhuanedd Richards, i glywed ei barn am argymhellion panel o arbenigwyr ar ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, yn ôl dogfen sydd wedi ei rhyddhau trwy gais rhyddid gwybodaeth. 
19/12/2023 - 17:18
Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru o’i chyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25, mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio bod angen buddsoddiad digonol mewn Addysg a’r Gymraeg, yn enwedig o ystyried uchelgais y Llywodraeth i gynyddu nifer y plant sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:
13/12/2023 - 13:53
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i Mark Drakeford am ei wasanaeth fel Arweinydd Llafur Cymru yn dilyn ei ymddiswyddiad heddiw, gan osod tri nod ac ymrwymiad er lles yr iaith Gymraeg ar gyfer ei olynydd.