Archif Newyddion

02/06/2009 - 17:44
Dedfrydwyd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis i 5 diwrnod o garchar gan ynadon Llanelli ddydd Llun ac fe'i cludwyd i garchar Parc, Pen-y-bont. Roedd ei garchariad yn dilyn ei ran yn ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Fesur Iaith cynhwysfawr newydd a fyddai'n cynnwys y sector breifat.Mewn sgwrs ffôn gyda'i wraig Meinir Ffransis heddiw, ddydd Mawrth, dywedodd Ffred nad oedd unrhyw ddarpariaeth o gwbl yn Gymraeg yng ngharchar Parc. Nid oes unrhyw ffurflenni nac arwyddion Cymraeg na dwyieithog, ac nid oes hyd yn oed Beibl Cymraeg ar gael yno.
30/05/2009 - 23:24
Heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg furiau yn llawn llofnodion a dyheadau bobl Cymru am fesur iaith cyflawn i Lywodraeth y Cynulliad.Casglwyd y canoedd o lofnodion dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad i fynnu bod yr holl bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.Erbyn Mehefin 5e
29/05/2009 - 12:09
Ar Ddydd Gwener, Mai 29ain am 12pm, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn agor cofrestr y Coleg Ffederal Cymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd i bwysleisio fod y Coleg Cymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru gan wahodd darpar fyfyrwyr i gofrestru â'r Coleg.Wrth i ni aros am adroddiad Robin Williams a fydd yn argymell model o'r Coleg Ffederal Cymraeg i'r Gweinidog Addysg yn fuan iawn, mae Cymdeithas yr Iaith yn edrych ymlaen at sefydlu'r Coleg ac yn gwahodd disgyblion ysgol ac oedolion sydd am ddilyn cyrsiau addysg barhaus i gofrestru ar gwrs o'u dewis.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr
16/05/2009 - 10:19
Daeth dros 300 i rali a gynhaliwyd gan Gymdeithas yr Iaith tu allan i'r Senedd yng Nghaerdydd heddiw.
12/05/2009 - 09:59
Bydd yr ymgyrch i ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith (LCO) yn dod i'w benllanw Ddydd Sadwrn Mai 16eg pan fydd Rali Fawr yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am 2pm tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd.Caiff y Rali ei gynnal ar adeg tyngedfennol oherwydd mae Cymdeithas yr Iaith wedi clywed bydd aelodau o'r Pwyllgor Materion Cymreig yn cyfarfod â'r Pwyllgor Cymhwysedd Deddfwriaethol Rhif 5 (iaith Gymraeg) ar Ddydd Llun, Mai 18fed.Meddai Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Ers i'r Gorchymyn gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror, mae consensws gref wedi datblygu ymysg pleidiau
11/05/2009 - 09:36
Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal piced Dydd Sadwrn tu allan i siop Morrisons yng Nghaergybi i alw am hawl i weithio drwy'r Gymraeg.
06/05/2009 - 14:49
Bydd hysbyseb tudalen llawn yn hyrwyddo rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gaiff ei chynnal tu alla
05/05/2009 - 19:32
Er bod sylwadau negyddol wedi'u clywed gan un o aelodau o'r Ceidwadwyr yng nghyfarfod Pwyllgor sy'n craffu ar Orchymyn yr Iaith Gymraeg yn y Cynulliad mae llefarydd y Ceidwadwyr ar Addysg a'r iaith Gymraeg, Paul Davies AC, wedi datgan ei fod ef yn cytuno gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg y dylid datganoli'r holl bwerau dros y Gymraeg i'r Cynulliad yng Nghymru.Dywed Paul Davies AC:"Rwy'n cy
01/05/2009 - 14:10
Mae wedi dod i sylw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gweithiwr ym Morrisons Caergybi wedi cael ei atal rhag siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr gan Reolwr y siop.Cafodd Mr David Evans, a oedd yn gweithio yn y siop, ei rybuddio gan Reolwr Morrisons sawl gwaith na ddylai siarad Cymraeg gyda'i gydweithwyr.
27/04/2009 - 18:57
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu canlyniadau'r arolwg a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith heddiw, sy'n dangos pwysigrwydd yr iaith i dros 80% o bobol Cymru. Mae'r arolwg yn dangos y gefnogaeth enfawr i normaleiddio'r Gymraeg, a'r awydd i greu Cymru ddwyieithog.