Archif Newyddion

21/10/2004 - 14:32
Carden Felen - dyna oedd rhybudd Ofcom i Radio Carmarthenshire ddoe (Mercher 20 Hydref). Ar ôl misoedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith, mi gyhoeddwyd adroddiad Ofcom ar Radio Carmarthenshire. Enillwyd dadl Cymdeithas yr Iaith felly, a chydnabyddwyd nad yw Radio Carmarthenshire yn dal at eu hochor nhw o'r fargen ble mae'r iaith Gymraeg yn y cwestiwn.
20/10/2004 - 21:49
Cafodd naw aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio prynhawn heddiw (Dydd Mercher) yn dilyn protest dros Ddeddf Iaith y tu allan i fwyty MCDONALDS yn Aberystwyth. Roedd rhai ugeiniau o aelodau'r Gymdeithas wedi ymgasglu tu allan i MCDONALDS cyn i'r naw gael eu harestio. Roedd y naw a arestiwyd yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwth.
18/10/2004 - 16:35
Neithiwr (nos Sul/bore Lun 17/10/04 –18/10/04), yng Nghaerdydd, targedodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sawl cwmni preifat – (banciau, archfarchnadoedd, arwerthwyr tai, siopau cadwyn ayb) – gan orchuddio eu ffenestri â sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae'r Gymraeg?'
15/10/2004 - 14:18
Heddiw, gwnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin sioe fawr o gyhoeddi eu strategaeth nhw ar gyfer addysg yn y sir. A’u strategaeth nhw oedd hi – wedi’i chreu yn gyfangwbl gan swyddgion yn Neuadd y Sir.
12/10/2004 - 23:16
Dros nos y mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi codi baner fawr ar sgaffaldau’n wynebu Neuadd y Sir Caerfyrddin o flaen cyfarfod o’r Cyngor llawn heddiw.
11/10/2004 - 14:19
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Rhodri Morgan i gwyno nad yw cyllideb ddrafft y Cynulliad yn cynnwys unrhyw strategaeth dros y tair blynedd nesaf i alluogi Cymry ifanc i gael tai yn eu cymunedau lleol.
11/10/2004 - 11:58
Yn dilyn tair wythnos o weithredu uniongyrchol mewn trefi ledled Cymru, mae Cymdeithas yr Iaith heddiw yn cyhoeddi manylion Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith a gynhelir yn yr Hen Goleg, Aberystwyth ar Ddydd Sadwrn Mawrth 12fed 2005.
06/10/2004 - 23:53
Neithiwr (nos Fercher 06/10/04), yn nhref Aberystwyth, targedodd bron hanner cant o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros 40 o gwmniau preifat – (banciau, archfarchnadoedd, arwerthwyr tai, siopau cadwyn ayb) – gan orchuddio eu ffenestri a sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’
04/10/2004 - 10:22
Bydd yr ymchwiliad i Gynllun Datblygu Ceredigion yn cychwyn y dydd Iau hwn (Hydref 7fed) am 10 o’r gloch ym Mhencadlys Cyngor Ceredigion, ym Mhenmorfa, Aberaeron.
02/10/2004 - 15:05
Bu dros ugain o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio dros Ddeddf Iaith ar strydoedd Caernarfon dydd Sadwrn. Dechreuodd y brotest am 12 o’r gloch ar Stryd Llyn ac fe orchuddiwyd nifer o siopau cadwyn y dre gyda sticeri yn galw am Ddeddf Iaith a’r neges ‘Ble Mae’r Gymraeg?'.