Archif Newyddion

22/07/2004 - 18:36
Bydd cychwyn trawiadol i adloniant Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod gyda'r gig Nos Lun "Colli Tir - Colli Iaith" yng nghlwb Pont Ebwy sydd o fewn 10 munud o gerdded i'r Maes Ieuenctid a 3 munud o'r Maes Carafannau.
16/07/2004 - 15:48
Ar y dydd Iau yn ‘Steddfod Casnewydd bydd gwledd arbennig i gefnogwyr pêl-droed a cherddoriaeth fel ei gilydd. Oherwydd ar y diwrnod hwn ar gae chwaraeon maes yr Eisteddfod bydd gornest bêl-droed fawreddog yn cymryd lle wrth i dîm Bandiau Pont Ebwy herio tîm Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
15/07/2004 - 10:36
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i wneud i ffwrdd ag ELWA, Bwrdd Datblygu Cymru a’r Bwrdd Croeso.
14/07/2004 - 10:44
Heddiw mi fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnig 'peanuts' i fynychwyr cyfarfod Prosiect y Filltir Sgwar a gynhelir gan Cyngor Sir Caerfyrddin. Nôd y prosiect hwn ydy "Adeiladu ar adnoddau lleol presennol a galluoedd i gyfrannu at ddatblygiad economaidd ac adfywio Sir Gaerfyrddin i hybu pobl i aros yn yr ardal neu i ddychwelyd adref.
13/07/2004 - 09:00
Blwyddyn ardderchog i'r iaith Gymraeg. Dyna ddisgrifiad y Gweinidog drosy Gymraeg Alun Pugh wrth gyhoeddi'r adroddiad blynyddol ar Iaith Pawb. Ond dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith fod gan Iaith Pawb eigryfderau ond fod Llywodraeth y Cynulliad wedi methu gweithredu arnyn nhw.
12/07/2004 - 11:50
Yn gynnar y bore yma fe osodwyd cadwyni ar draws mynedfa swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin er mwyn rhwystro'r gweithwyr rhag mynd i'w gwaith. Parhaodd hyn am hanner awr cyn i'r heddlu gyrraedd a thorri'r protestwyr o'r cadwyni.
12/07/2004 - 09:37
Am 8:30am ar fore dydd Llun, 12 Gorffennaf 2004, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest y tu allan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin.
08/07/2004 - 13:48
Daeth protest lwyddiannus gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ben to swyddfa'r Cynulliad Cenedlaethol yn Llandrillo yn Rhos i ben am ddeuddeg o'r gloch prynhawn heddiw. Protest oedd hon a alwai ar i lywodraeth y Cynulliad neilltuo mwy o arian yn ei chyllideb nesaf ar gyfer y farchnad dai yng Nghymru.
08/07/2004 - 08:59
Am saith o’r gloch bore heddiw (Dydd Iau Gorffennaf 8fed) dringodd nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar do adeilad Llywodraeth Cymru yn Llandrillo yn Rhos er mwyn tynnu sylw at y broblem tai yng Nghymru.
05/07/2004 - 22:23
Dyddiad: Penwythnos 2il a 3ydd o OrffennafLleoliad: Tafarn y Cwps, AberystwythDigwyddiad: Rhagbrofion Cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 2004