Archif Newyddion

19/05/2023 - 10:11
Mae adroddiad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ar y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn dangos bod angen Bil Addysg Gymraeg sy'n rhoi'r Gymraeg i bawb. Yn ôl Mabli Siriol Jones, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
14/05/2023 - 08:45
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Adran Addysg Cyngor Ynys Môn o geisio ail-wisgo hen bolisi o gau ysgolion gwledig mewn dillad newydd. Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd (ac yn dod i ben ddydd Mercher nesaf 17/5) ar Strategaeth ddrafft "Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu'r Gymraeg" sydd â bygythiad ymhlyg i gau hyd at 17 o ysgolion cynradd sydd â llai na 91 o blant ynddynt. Ar ran y Gymdeithas, dywed Ffred Ffransis:
10/05/2023 - 17:32
Wedi i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gymeradwyo ei Strategaeth Hybu’r Gymraeg ddoe, Mai 9, dywed Cymdeithas yr Iaith ei bod yn beth da bod y Cyngor yn derbyn bod cyfleoedd i blant ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd y tu allan i’r cartref a’r ysgol yn hanfodol, ond nad ydy gweithgareddau achlysurol a dathliadau unwaith y flwyddyn yn cyflawni hyn. 
07/05/2023 - 18:20
Er gwaetha'r tywydd fe wnaeth torf o dros 1500 o bobl yn rali Nid yw Cymru ar Werth heddiw ymrwymo i ddyfodol ein cymunedau lleol a danfon neges glir at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, bod angen Deddf Eiddo sydd yn rheoleiddio'r farchnad. Yn ôl Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
05/05/2023 - 16:19
Mae gan y Gymdeithas gyfle cyffrous i unigolyn gweithgar ymuno â’n tîm staff bach ond effeithiol. Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol: Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i arwain ar ein gwaith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol ar draws ein meysydd ymgyrchu. Mae hon yn swydd hynod bwysig sy'n ganolog i lwyddiant y Gymdeithas fel mudiad ymgyrchu effeithiol sy'n gosod agenda flaengar ar gyfer y Gymraeg.
01/05/2023 - 23:48
Wythnos cyn rali fawr 'Nid yw Cymru ar Werth' yng Nghaernarfon ar ddydd Llun 8 Mai, mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi gosod sticeri a pheintio sloganau yn galw am Ddeddf Eiddo ar adeiladau Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth, Caerfyrddin a Chyffordd Llandudno.
12/04/2023 - 12:58
Mae rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Ceredigion i symud tuag at ddefnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol, ac wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Iaith yn galw arni i annog Cyngor Ceredigion i symud at weinyddu yn Gymraeg. Un o nodau’r Llywodraeth yn Cymraeg 2050 yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws pob sector. 
03/04/2023 - 13:27
Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear yn rhybuddio bod cyhoeddiad am Borthladd Rhydd newydd ar Ynys Môn yr wythnos hon yn ffordd i mewn ar gyfer datblygiadau niwclear newydd diangen ar yr ynys, gydag o leiaf chwech o gefnogwyr y cais â chysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiant.
30/03/2023 - 14:58
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynlluniau i godi treth twristiaeth ar ymwelwyr yng Nghymru.
28/03/2023 - 15:58
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i Gabinet Cyngor Gwynedd am wrando ar gymuned leol, a pheidio symud yn syth i gau Ysgol Felinwna.