Archif Newyddion

03/04/2023 - 13:27
Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear yn rhybuddio bod cyhoeddiad am Borthladd Rhydd newydd ar Ynys Môn yr wythnos hon yn ffordd i mewn ar gyfer datblygiadau niwclear newydd diangen ar yr ynys, gydag o leiaf chwech o gefnogwyr y cais â chysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiant.
30/03/2023 - 14:58
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynlluniau i godi treth twristiaeth ar ymwelwyr yng Nghymru.
28/03/2023 - 15:58
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i Gabinet Cyngor Gwynedd am wrando ar gymuned leol, a pheidio symud yn syth i gau Ysgol Felinwna.
24/03/2023 - 14:04
Rydyn ni wedi cyhoeddi ein cynigion ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg i Bawb heddiw - ar yr un diwrnod ag y mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Phapur Gwyn ar y Bil Addysg Gymraeg arfaethedig.  Mae'r Ddeddf Addysg i'w gweld yma Fe wnaethon ni lansio ein Deddf Addysg Gymraeg ddrafft yn haf 2022, ac yn dilyn cyfnod o ymgynghori a thrafod mae’r ddeddf derfynol wedi ei chyhoeddi.
13/03/2023 - 14:47
  Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg wedi iddi ddod i’r amlwg y bydd yn rhaid i famau yn y gogledd deithio i Loegr i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.
07/03/2023 - 17:45
Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu bod Cyngor Môn yn gweithredu’n groes i’r amcan o wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol y Cyngor.
28/02/2023 - 19:21
Mewn datganiad ar y cyd ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi mae Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chylch yr Iaith wedi mynegi pryder ynglŷn â bwriadau Adran Addysg Gwynedd mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg.
14/02/2023 - 13:25
Wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin adolygu ei Gynllun Moderneiddio Addysg mae Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth wedi galw ar y cyngor i ddefnyddio'r cyfle i greu cynllun blaengar sy’n cynnwys pawb ac yn cynnig atebion newydd. Cyn etholiadau awdurdodau lleol llynedd penderfynodd y cyngor oedi ei gynlluniau i ymgynghori ar gau ysgolion Blaenau a Mynydd-y-garreg er mwyn adolygu'r Cynllun Moderneiddio Addysg. Dydy dyfodol yr un o'r ysgolion hynny, na sawl un arall yn y sir, ddim yn sicr er hynny. Yn ôl y llythyr:
04/02/2023 - 16:28
Daeth nifer o'r protestwyr gwreiddiol i daith gerdded i nodi chwedeg mlwyddiant protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith. Dechreuodd y daith ar Bont Trefechan cyn ymweld â nifer o leoliadau eiconig yn hanes y mudiad yn Aberystwyth. Wrth siarad yn ystod y daith gerdded dywedodd Aled Gwyn: Roedd y brotest a'r cyfnod yn gyffrous, ac fe wnaeth y cyhoeddusrwydd sylw a'r sylw arwain at ddegawdau o ymgyrchu sy'n dal i fynd ymlaen.
01/02/2023 - 16:51
I nodi chwe deg mlwyddiant ein protest gyntaf byddwn ni'n cynnal taith gerdded o leoliadau nodedig yn ein hanes yn Aberystwyth ddydd Sadwrn yma. Cynhaliwyd y brotest gyntaf yn enw’r mudiad ar 2 Chwefror, 1963. Bydd y daith yn dechrau wrth Bont Trefechan, lle bydd Aled Gwyn, un o brotestwyr gwreiddiol y bont yn dweud gair.