Archif Newyddion

31/01/2023 - 22:56
Rydyn ni'n cefnogi'r rhai sy'n streicio, gan ddweud mai penderfyniad Llywodraethau i beidio buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi arwain at ddirywiad amodau gwaith a chyflog mewn termau real. Mae'r streiciau yn ymwneud ag amodau gwaith yn ogystal â chynnydd mewn cyflogaeth, ac yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae angenbuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cynnal amodau gwaith digonol. Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
30/01/2023 - 19:10
Byddwn ni'n cynnal rali fawr "Nid yw Cymru ar Werth" ar y Maes yng Nghaernarfon ar Ddydd Llun 8ed o Fai - sy'n Ŵyl Banc penwythnos coroni Charles Windsor yn frenin yn Llundain.
25/01/2023 - 17:07
Mae rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod cau ffatri Two Sisters yn Llangefni yn ergyd greulon i unigolion, teuluoedd a chymunedau cyfan, yn Llangefni a thu hwnt.
24/01/2023 - 20:01
Rydyn ni'n brydeusr mai cwestiynu ystadegau a chreu esgusodion am ddiffyg gweithredu yw prif ymateb y Llywodraeth i’r cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg a gyhoeddwyd ddechrau mis Rhagfyr. Meddai Robat Idris, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:
21/01/2023 - 21:22
Mewn cyfarfod agored ar Ionawr 21 gosododd pobl Ceredigion her i Gyngor Ceredigion chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â chwymp ym mhoblogaeth a chanran siaradwyr Cymraeg y sir. Cynhaliwyd y cyfarfod yn sgil cyhoeddi cwymp yng nghanran siaradwyr Cymraeg y sir ddechrau Rhagfyr 2022. Roedd cynrychiolaeth o fudiadau'r sir, cynghorwyr sir a chymuned ac unigolion yn bresennol yn y cyfarfod; yn eu plith roedd rhai o aelodau Cabinet Cyngor Ceredigion, gan gynnwys yr arweinydd, Bryan Davies. Dywedodd Tamsin Davies ar ran rhanbarth Ceredigion:
16/01/2023 - 22:54
Mewn llythyr at Gomisiynydd newydd y Gymraeg Efa Gruffudd wrth iddi ddechrau ar ei gwaith, rydyn ni wedi galw arni i ddatgan a fydd sicrhau hawl pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg a derbyn gwasanaethau yn Gymraeg yn flaenoriaeth iddi.  Dywed y llythyr bod perygl bod y cyhoedd yn colli ffydd yn y broses gwyno am fod y broses ymchwilio cwynion yn aml yn un hir a chymhleth ac  am nad yw materion yn cael eu datrys mewn modd amserol a boddhaol. 
13/01/2023 - 13:47
Mewn rali yng Nghaerfyrddin heddiw fe wnaeth Dafydd Iwan ddweud nad oes lle i anobeithio yn wyneb y cwymp yng nghanran siaradwyr Cymraeg, ac mai yn y frwydr y mae ein gobaith ni. Ategodd Cymdeithas yr Iaith hynny gan ddweud nad anobeithio sydd ei angen ond gweithredu. Gorymdeithiodd torf o Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin at swyddfa'r Llywodraeth yn Rhes Picton gyda 7 o alwadau ar Lywodraeth Cymru i weithredu. Dywedodd Dafydd Iwan yn dweud wrth y rali:
09/01/2023 - 12:05
Mewn rali sydd i'w chynnal yng Nghaerfyrddin am 2pm Ddydd Sadwrn yma (14/1), bydd Cymdeithas yr Iaith yn symud pwyslais ymgyrch "Nid yw Cymru ar Werth" o ymgyrchu'n erbyn gormodedd o ail gartrefi ac AirBnBs at ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo gyflawn. Esbonia Cai Phillips, myfyriwr ifanc o Flaen-y-coed Sir Gâr, fydd yn galw am Ddeddf Eiddo yn y rali:
02/01/2023 - 18:13
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi heddiw mai Dafydd Iwan fydd siaradwr gwadd Rali'r Cyfri yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn Ionawr 14. Bydd y rali yn galw am weithredu brys dros y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn wyneb canlyniadau'r Cyfrifiad a gyhoeddwyd fis diwethaf. Dangosodd y Cyfrifiad mai yn Sir Gâr unwaith eto y bu'r dirywiad mwyaf yng nghanran y siaradwyr Cymraeg.
31/12/2022 - 15:21
Ymgyrchwyr yn galw am adduned blwyddyn newydd gan y Prif Weinidog – gosod nod yn 2023 i roi'r Gymraeg ar dafod pob plentyn