Ateb argyfwng ein cymunedau

Wrth siarad ar ddechrau fforwm cyhoeddus Cymdeithas yr Iaith "Tynged yr Iaith Sir Gâr" yng Nghaerfyrddin, fe wnaeth Ffred Ffransis dalu teyrnged i Gyngor Sir Gaerfyrddin am ymateb yn gadarnhaol i'r galwad am weithredu cadarn dros y Gymraeg yn dilyn canlyniadau trychinebus Cyfrifiad 2011. Ar ddechrau'r cyfarfod a roddodd cyfle i'r cyhoedd holi a rhoi syniadau i aelodau allweddol y Cyngor newydd a fydd yn arwain y sir at y Cyfrifiad nesaf yn 2021, fe ddywedodd Mr Ffransis:

"Yr enghraifft ddiweddaraf o agwedd blaengar y Cyngor Sir yw sefydlu tasglu adfywio'n cymunedau gwledig. Rydyn ni'n falch iawn fod cadeirydd y tasglu Cyng. Cefin Campbell gyda ni heddiw i esbonio gwaith y tasglu, a bydd yn croesawu tystiolaeth genych am broblemau ein cymunedau gwledig a syniadau am sut i'w hadfywio. Ymddengys i bobl sy'n byw yn y wlad fod pob datblygiad o ran gwaith, tai a thrafnidiaeth yn cael ei ganolbwyntio yn  yr ychydig drefi mawr, ac mae ein cymunedau gwledig yn dirywio. Yn ogystal â sicrhau fod cynnydd trwy'r drefn addysg yn nifer y siaradwyr Cymraeg, mae angen sicrhau parhad a ffyniant y cymunedau lle defnyddir y Gymraeg yn brif iaith."

Lluniau'r digwyddiad