Banc Santander yn gwrthod ffurflenni Cymraeg Cymdeithas

Cymdeithas yn gofyn i Lywodraeth Cymru newid polisi'r banc 

Mae banc Santander wedi gwrthod prosesu ffurflenni aelodaeth Cymdeithas yr Iaith gan eu bod yn Gymraeg.  

Mae'r mudiad wedi ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, gan ei herio i ddatrys y mater. Mewn papur gwyn diweddar am ddeddfwriaeth iaith newydd, mae'r Gweinidog wedi gwrthod ymrwymo i osod dyletswyddau iaith ar fanciau oherwydd yr 'ansicrwydd economaidd presennol'.  

Mewn nodyn at y Gymdeithas yn gwrthod sefydlu taliadau aelodaeth i dri o bobl, dywedodd swyddog o'r banc Santander sy’n gweithredu ym mwy na ugain o wledydd yn y byd lle nad Saesneg yw'r brif iaith: "Dychweler y dogfennau hyn i'ch deiliad cyfrif. Yn anffodus, dim ond dogfennau a ysgrifennwyd yn Saesneg y gall Santander eu derbyn." (Please return these documents to your account holder. Unfortunately Santander can only accept these documents written in English.)" 

Dywedodd Manon Elin, Cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith: 

"Mae hyn yn enghraifft arall o gwmni preifat yn gwrthod darparu gwasanaeth Cymraeg, gan nad oes gorfodaeth arnynt i wneud hynny, ac mae'n hollol annerbyniol. Mae'n rhaid cael deddf iaith sy’n cynnwys banciau er mwyn sicrhau hawliau sylfaenol i ddefnyddio’r Gymraeg. Yn anffodus, mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil y Gymraeg yn ei gwneud yn llai tebygol y caiff dyletswyddau cyfreithiol eu gosod ar y cwmnïau hyn i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.  

 

Mae'r rhan fwyaf o bobl Cymru yn gorfod bancio, ond does dim modd bancio ar-lein yn Gymraeg, ac mae rhywun yn gorfod brwydro i gael gwasanaethau sylfaenol eraill yn Gymraeg." 

Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddwyd canlyniadau arolwg barn gan YouGov sy’n dangos bod y mwyafrif o bobl Cymru eisiau estyn deddfwriaeth iaith i sicrhau gwasanaethau Cymraeg gan fanciau ac archfarchnadoedd.  

Ychwanegodd: 

"Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn meddwl ei bod yn bwysig gosod Safonau ar fanciau yn fuan oherwydd y sefyllfa economaidd, er bod hynny'n groes i farn y mwyafrif o bobl yng Nghymru. Oherwydd hynny rydyn ni'n cyfeirio'r mater at y Gweinidog Alun Davies iddo ef ei ddatrys. Os nad yw'n meddwl bod angen rheoleiddio, dylai fe fod yn rhwydd iddo fe newid polisi'r cwmni. Wedi'r cwbl, gallai fe ddewis i sicrhau bod modd bancio ar-lein yn Gymraeg gyda phob banc."