BBC yn ceisio traflyncu S4C - Sylwadau Rhodri Talfan Davies

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio bod sylwadau'r BBC gerbron pwyllgor y Cynulliad heddiw am swyddfeydd newydd yn dangos y gorfforaeth yn cymryd camau pellach i draflyncu S4C.  

Dywedodd Heledd Gwyndaf Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Ers 2010, mae'r BBC wedi cynllwynio gyda'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain i danseilio annibyniaeth S4C. Nid partneriaeth rydyn ni'n ei weld yn datblygu, ond traflyncu graddol ein hunig ddarlledwr cynhenid Cymraeg gan gorfforaeth Brydeinig.   

"Mae'r BBC yn cynllunio cymryd drosodd trosglwyddo signal darlledu S4C. A heddiw, rydyn ni'n clywed bod swyddi eraill S4C yn mynd i gael eu lleoli yn eu pencadlys newydd yng nghanol Caerdydd. Os yw un darlledwr yn rhannu swyddfeydd ym mhencadlys y llall, ydyn nhw'n mynd i weithredu'n annibynnol?             

"Mae colli annibyniaeth S4C yn un rhan o sut mae'r system ddarlledu sy'n trin Cymru a'r Gymraeg yn hollol annheg. Mae'n hanfodol bod darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru. Dyna pam rydw i a nifer o bobl eraill y gwrthod talu am ein trwyddedau teledu."