Bil y Gymraeg: Cyfarfod cudd i gynllwynio diddymu Comisiynydd y Gymraeg

Mewn cyfarfod cudd rhwng gweision sifil a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, darparodd gweision sifil gyngor i'r Ombwdsmon am sut orau i lunio cynnig i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg, yn ôl cofnodion a gafodd eu rhyddhau i'r Aelod Cynulliad Adam Price mewn ateb i gwestiwn yn y Senedd. 

Yn y cofnodion o gyfarfod preifat ym mis Medi eleni rhwng yr Ombwdsmon a rhai o brif weision sifil Is-Adran y Gymraeg Llywodraeth Cymru, mae'r ddau gorff yn trafod effaith cynnig yr Ombwdsmon i wneud gwaith Comisiynydd y Gymraeg. Yn y cyfarfod, mae'r prif was sifil sy'n gyfrifol am y papur gwyn sy'n cynnig diddymu'r Comisiynydd yn rhoi cyngor manwl i Nick Bennett ynghylch sut i ddelio â gwrthwynebiad posibl i'r syniad. Gorffennwyd y cyfarfod gyda’r Ombwdsmon yn cytuno i ymateb i’r ymgynghoriad ar Fil y Gymraeg. 

Mewn cyfweliad diweddar gyda rhaglen Sharp End ar ITV, mynnodd Alun Davies AC cyn-Weinidog y Gymraeg a chyn-bartner busnes yr Ombwdsmon Nick Bennett nad ei syniad e oedd rhoi pwerau'r Comisiynydd i swydd Mr Bennett. Ym mis Hydref, dywedodd wrth y Cynulliad: "Mae’r ombwdsmon yn cynnig y gall ei swyddfa fe ddelio â chwynion ac ymchwiliadau sy’n ymwneud â safonau fel rhan o’i ddyletswyddau craidd ... rydw i’n credu bod y cynnig hwn yn un diddorol." 

Mewn ymateb, dywedodd Heledd Gwyndaf: 

"Mae'n amlwg o'r newyddion yma bod cynllwyn rhwng Llywodraeth Cymru a Nick Bennett i gael gwared ar Gomisiynydd y Gymraeg. Mae'n glir bod trafodaethau manwl wedi bod rhwng gweision sifil a'r Ombwdsmon am y mater, ac nid yn unig yn y cyfarfod yma yn ôl pob golwg – i allu cynnig cyngor mor fanwl, mae'n rhaid bod y gweision sifil wedi bod yn ystyried ei gynnig ymlaen llaw. Mae'n ymddygiad cwbl amhriodol.  

"Gwta fis wedi iddyn nhw gyhoeddi papur gwyn, mae'n amlwg bod y gweision sifil wedi sylwi bod ymateb y cyhoedd i'r papur gwyn mor negyddol fel eu bod nhw'n chwilota o gwmpas am syniadau eraill er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu diddymu'r Comisiynydd. Mae'n amhriodol eu bod nhw'n gwneud hynny, ac, fel mater o bolisi cyhoeddus mae'n gam annoeth tu hwnt. Mae arbenigwyr iaith wedi bod yn glir nad yw'n gwneud synnwyr diddymu'r Comisiynydd bum mlynedd yn unig ar ôl ei sefydlu." 

Ychwanegodd: 

"Mae'r cofnodion yma, sy'n uniaith Saesneg, yn gwneud safbwynt yr Ombwdsmon yn hollol glir – "the more important task of promoting the language" - felly mae hyrwyddo yn bwysicach iddo na hawliau iaith pobl Cymru. Pam mae e'n trio dwyn y cyfrifoldeb am gwynion iddo'i hunan os nad yw e'n gweld pwysigrwydd y gwaith? Wrth gwrs bod angen hyrwyddo'r Gymraeg – ond mae angen corff hyrwyddo ar wahân i wneud hynny. Mae rheoleiddio cadarn yn hanfodol i les y Gymraeg, a rhaid cadw Comisiynydd i fod yn gyfrifol am hynny." 

"Cyfeirir yn y cofnodion at fod yr Ombwdsmon eisoes wedi delio â chwynion ar faterion ieithyddol 'notably in relation to community councils'. Cyfeiriad yw hyn at pan ddeliodd yr Ombwdsmon â  Cyngor Cymuned Cynwyd, ac roedd ei ymyrraeth yn yr achos hwnnw yn hynod niweidiol i’r iaith." 

Mae’r cofnodion hefyd yn cyfeirio at werth am arian mae gwerth am arian yn digwydd pan fo rhywbeth wedi bod yn effeithiol a llwyddiannus. Yn sicr fyddai dim gwerth am arian i'r cyhoedd o gael yr Ombwdsmon yn gyfrifol am gwynion am y Gymraeg, ac ni fyddai unrhyw ffydd ganddon ni ynddo fe."