Ble mae cynllun gweithredu Cyngor Sir Gâr?

Yng nghyfarfod Tynged yr Iaith Sir Gâr i drafod strategaeth hybu Cyngor Sir Gaerfyrddin heddiw mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn ai dogfen yn unig fydd y strategaeth neu a fydd hi'n cael ei gweithredu.

Wrth annerch y cyfarfod dywedodd Sioned Elin, caderiydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
"Rydyn ni'n ddiolchgar i swyddogion a chynghorwyr am fod gyda ni heddiw i drafod y strategaeth – a bod strategaeth o gwbl. Dyma fydd yn gosod llwybr y Gymraeg yn y sir am y pum mlynedd nesaf ac er bod yr amcanion oll yn anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir eto, does dim cynllun gweithredu i wireddu hynny. Heb gynllun mae perygl mai dim ond strategaeth ar bapur fydd gyda ni.
Rydyn ni hanner ffordd at y Cyfrifiad nesaf, os nad ydyn ni am weld mwy fyth o ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir mae angen cynllun gweithredu ac amserlen glir ar gyfer ei weithredu."

Bydd strategaeth hybu'r Gymraeg y Cyngor Sir yn mynd gerbron y Bwrdd Gweithredol i'w dderbyn yn derfynol ar yr 17eg o Hydref.

Lluniau'r digwyddiad yma