Yn sgil trafod materion ieithyddol ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon yn Eisteddfod y Fenni yr wythnos ddiwethaf, mae grwpiau iaith brodorol o Gymru, Cernyw, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw a’r Alban wedi cyhoeddi proclamasiwn iaith ar y cyd heddiw (Dydd Llun, 15fed Awst).
Mae’r proclamasiwn yn datgan y bydd y cymunedau ieithyddol hyn yn cydweithio i sicrhau dyfodol teg i’w hieithoedd o fewn y gyfundrefn newydd a fydd yn deillio o ganlyniad Brexit y refferendwm.
Mae’r grwpiau iaith sydd wedi cyd-arwyddo’r proclamasiwn yn datgan,
“Byddwn yn defnyddio pob dull a modd heddychlon o fewn ein gallu i wrthsefyll...anghyfiawnder ac i sicrhau tegwch ariannol, gwleidyddol a diwylliannol ar gyfer ein cymunedau ieithyddol.”
Yn unol â hyn, maent oll yn condemio’r penderfyniad diweddar i ddiddymu nawdd ariannol i’r Gernyweg.