Bwriad Carwyn Jones i 'ddisodli Cymraeg ail iaith' - croeso gofalus

Mae mudiad iaith wedi croesawu sylwadau'r Prif Weinidog y bydd y newidiadau i'r cwricwlwm dros y blynyddoedd nesaf yn golygu disodli'r cysyniad o Gymraeg ail iaith yn y pen draw. 

Cafodd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfarfod gyda Carwyn Jones heddiw, a chanolbwyntiodd y trafodaethau ar sefyllfa dysgu'r Gymraeg. Dywedodd y Prif Weinidog wrth y mudiad byddai newidiadau yn y cwricwlwm newydd yn arwain at 'ddisodli Cymraeg ail iaith' yn y pen  draw, ynghyd â dileu'r ffin rhwng Cymraeg ail iaith a Chymraeg iaith gyntaf. 

Yn siarad wedi'r cyfarfod, dywedodd Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Rydym yn croesawu sylwadau'r Prif Weinidog. Er bod llawer o athrawon gweithgar iawn sy'n cyflawni gwyrthiau o fewn y system, mae'r cysyniad o Gymraeg ail iaith yn methu'r rhan fwyaf o'n pobl ifanc. Fel argymhellodd yr Athro Sioned Davies yn ei hadroddiad a gafodd ei gomisiynu gan y Llywodraeth, mae angen un continwwm, neu lwybr, dysgu'r Gymraeg ar gyfer bob plentyn, a hynny yn lle'r system bresennol. Allwn ni ddim parhau â system addysg sy'n amddifadu cymaint o'n plant a phobl ifanc o'r Gymraeg."