Canllawiau Cynllunio - Blwyddyn o oedi yn peri problemau

Mae mudiad iaith wedi mynegi pryder y gall Llywodraeth Cymru fod yn oedi rhag cyhoeddi canllawiau cynllunio pwysig oherwydd yr atomfa niwclear arfaethedig yn Ynys Môn.   

Cafodd statws y Gymraeg yn y system gynllunio ei gryfhau ddwy flynedd yn ôl pan basiwyd Deddf Cynllunio newydd yn y Cynulliad. Ac roedd disgwyl y byddai canllawiau cynllunio ynghylch y Gymraeg – Nodyn Cyngor Technegol 20 – yn cael eu cyhoeddi ar eu newydd wedd yn eithaf prydlon er mwyn adlewyrchu'r newidiadau i'r gyfraith. Cyhoeddwyd canllawiau drafft ym mis Ionawr y llynedd, a daeth ymgynghoriad i ben union flwyddyn yn ôl ar 30 Mawrth y llynedd 

Fodd bynnag, mae awgrym y gallai fod flwyddyn arall o oedi oherwydd datblygiad Wylfa B. Mewn llythyr at y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros gynllunio, Lesley Griffiths, mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan pryder am yr oedi: 

"Rydym ar ddeall bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn dal i dreialu model newydd yn Sir Fôn, wrth gynllunio ar gyfer yr Wylfa B newydd arfaethedig yr ydym yn ei wrthwynebu. [Ac] rydym ar ddeall y gallai gwerthusiad gymryd blwyddyn a mwy eto cyn cael ei gyhoeddi. Mae hyn yn destun pryder i ni; credwn fod peryglon drwy lunio system genedlaethol o asesu effaith iaith ar sail un datblygiad yn unig, yn enwedig un mor ddadleuol ag atomfa niwclear newydd. Hoffem dderbyn sicrwydd bod bwriad i gyhoeddi'r nodyn cyngor newydd yn fuan iawn, yn hytrach nag oedi ymhellach oherwydd un datblygiad sy'n eithriadol o beryglus ac anghynaliadwy." 

"Ymddengys fod problemau yn codi mewn nifer o siroedd oherwydd yr oedi rhag cyhoeddi'r nodyn cyngor technegol newydd. Mae swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin o'r farn bod yr oedi yn achosi problemau iddynt wrth arfer eu swyddogaethau, sy'n gysylltiedig â'r dyletswyddau iaith newydd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, o ran asesu effaith iaith datblygiadau unigol yn ogystal â Chynlluniau Datblygu Lleol."