Canllawiau newydd i gynghorau yn sgil helynt iaith Cynwyd

Caiff canllawiau iaith i gynghorau cymuned eu newid yn dilyn penderfyniad dadleuol yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am bolisi cyngor cymuned yn Sir Ddinbych, mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrth ymgyrchwyr iaith. 

Ym mis Tachwedd y llynedd, dyfarnodd yr Ombwdsmon yn erbyn cyngor cymuned Cynwyd am iddynt gyhoeddi dogfennau yn Gymraeg yn unig gan ddweud bod yr arfer yn groes i ganllawiau'r Llywodraeth. Gwrthwynebodd ymgyrchwyr y penderfyniad gan ddadlau y byddai'n golygu bod cynghorau cymuned yn llai tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg fel prif iaith eu gwaith.

Ym mis Ionawr eleni, cyfarfu aelodau'r Gymdeithas gyda'r Ombwdsmon i drafod y sefyllfa gan ddadlau bod ei benderfyniad yn wallus, gan nad oedd yn cyd-fynd ag egwyddorion Mesur y Gymraeg 2011. Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, cadarnhaodd yr Ombwdsmon nad oedd wedi derbyn unrhyw gyngor cyfreithiol allanol am y ddeddfwriaeth iaith a basiwyd yn 2011 nac ychwaith am achos Cynwyd. 

Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yr wythnos hon, ymddengys bod y Prif Weinidog Carwyn Jones yn derbyn dadl yr ymgyrchwyr:

"Rwy’n ddiolchgar am eich sylwadau adeiladol ynglŷn â chanllawiau Llywodraeth Cymru "Canllaw y Cynghorydd Da 2012: Ar gyfer Cynghorwyr Cymuned a Thref'. Mae’r canllaw hwnnw yn cynnwys rhai negeseuon cadarnhaol am y Gymraeg ... Er hynny, rwyf yn cytuno bod yna le i ddiweddaru’r canllaw i adlewyrchu egwyddorion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bwriad y Llywodraeth yw diweddaru’r canllaw erbyn etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017. Byddwn yn diweddaru’r cynnwys ynglŷn â’r Gymraeg yn y fersiwn hwnnw."

Wrth ymateb i'r newyddion, meddai Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Rydyn ni'n croesawu'n fawr geiriau'r Pri­f Weinidog. Dyma'r hoelen olaf yn arch d­adl yr Ombwdsmon ar y mater hwn. Mae’r P­rif Weinidog wedi dweud fod angen diwedd­aru’rcanllawiau y seiliodd yr Ombwdsm­on ei ddadl arnynt, felly nid oes canlla­w cyfredol yn cyfiawnhau ei benderfyniad­. Rydyn ni'n falch bod y Llywodraeth wed­i derbyn ein dadl ac wedi cytuno i ddiwe­ddaru ei chanllawiau.Rydyn ni nawr yn­ galw ar yr Ombwdsmon i ymrwymo i wneud ­yr un peth:mae angen iddo d­ynnu ei adroddiad yn ôl, ac i gydnabod f­od ei gamddehongliad o’r gyfraith wedi a­rwain at benderfyniad gwallus."

Wrth sôn am beryglon penderfyniad yr Ombwdsmon, ychwanegodd Manon Elin:

"Rydyn ni'n pryderu'n fawr fod adroddiad yr Ombwdsmon yn bygwth arfer nifer bach iawn o gynghorau Cymuned sy'n defnyddio'r Gymraeg fel unig iaith fusnes mewnol ac allanol y sefydliad drwy eu gorfodi i gyfieithu deunydd i'r Saesneg.  

"Os yw'r Gymraeg i ffynnu yn ein cymunedau mae angen i ragor - nid llai - o gynghorau weithio'n Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn cytuno bod angen i ragor o gyrff ddilyn yr arfer gorau hwnnw er mwyn cynyddu defnydd yr iaith. Wedi'r cwbl, os nad oes rhagor o gyd-destunau lle mai'r Gymraeg yw'r unig iaith gwaith, mae'n codi cwestiynau difrifol a oes unrhyw obaith o'i hadfer yn y tymor hir."

Stori yn y wasg: