Condemnio Cynnig i Gau Neuadd Pantycelyn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio cynnig Prifysgol Aberystwyth i gau Pantycelyn.  

Dywedodd Bethan Williams swyddog maes lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bradychu’r Gymraeg a’i myfyrwyr. Faint o werth mae’r Brifysgol yn ei roi i’r Gymraeg? Mae’r neuadd yn un o’r ychydig gymunedau Cymraeg sydd ar ôl yng Nghymru - bydd cymuned Gymraeg naturiol yn cael ei chwalu oherwydd y Brifysgol. Mae uwch swyddogion y Brifysgol wedi ceisio twyllo myrfyrwyr - dyn nhw ddim yn addas i ddal swyddi cyhoeddus o’r fath. Bydd cell Pantycelyn yn trafod beth fydd ein haelodau yn ei wneud i gefnogi’r ymgyrch er mwyn sicrhau bod y neuadd yn aros ar agor fel llety myfyrwyr y tymor nesaf.”

Beth gallwch chi wneud? 

1. Danfonwch neges at Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol - rlm14@aber.ac.uk yn galw arnyn nhw i wrando ar lais myfyrwyr Aberystwyth a chadw neuadd Pantycelyn ar agor.

Pethau i'w cynnwys mewn e-bost fyddai:
* Bod y Brifysgol yn cefnu ar eu haddewid llynedd i gadw Neuadd Pantycelyn fel neuadd breswyl Gymraeg.
* Bod ansicrwydd i fyfyrwyr presennol yn ystod cyfnod arholiadau ac ar ddiwedd y flwyddyn academaidd; ac i ddarpar-fyfyrwyr.
* Bod y neuadd yn un o’r ychydig gymunedau Cymraeg sydd ar ôl yng Nghymru - bydd cymuned Gymraeg naturiol yn cael ei chwalu oherwydd y Brifysgol. 

2. Cyfrannwch yn ariannol at yr ymgyrch - http://www.crowdfunder.co.uk/achub-pantycelyn-save-pantycelyn

3. Dilynwch yr ymgyrch ar Twitter – @achubpantycelyn a facebook - https://t.co/4WlUfmLibq ac ail-drydar a rhannu negeseuon.

4. Bydd myfyrwyr yn ymprydio am gyfnod yn arwain at gyfarfod y Cyngor ar yr 22ain o Fehefin. Gall unrhyw un ymuno â'r ympryd – yn gyn-breswylwyr a chefnogwyr. Bydd cyhoeddi rhestr o enwau fydd yn ymprydio yn ei hun yn rhoi pwysau ar y Brifysgol felly cysylltwch gyda Eiri Angharad i ymuno â'r ympryd - eas13@aber.ac.uk 

5. Dewch i rali ar y 10fed o Fehefin: Bydd siaradwyr ym maes parcio Pantycelyn a gorymdaith i gyfarfod Senedd y Brifysgol. Mwy o fanylion i ddilyn.