Condemnio toriadau San Steffan i’r iaith Gernyweg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi siom yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i dorri cyllid i’r iaith Gernyweg yn gyfan gwbl.

[Llofnodwch y ddeiseb drwy glicio yma]

Meddai Sioned Haf, Swyddog Rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, sydd â’r cyfrifoldeb o gadw mewn cysylltiad gydag ymgyrchwyr iaith rhyngwladol ar ran y mudiad iaith:

“Mae’r toriad haerllug yma yn symptomatig o agwedd ddinistriol y llywodraeth Brydeinig bresennol tuag at y rheiny sydd fwyaf bregus ymysg ein cymunedau. Dwi’n amau a oes yna unrhyw ddealltwriaeth o ba fath o gefnogaeth sydd ei hangen ar iaith fel y Gernyweg i ddatblygu. Hyd yn hyn mae’r Gernyweg wedi bod yn derbyn £150,000 y flwyddyn o’r Llywodraeth ganolog ers cael ei chydnabod o dan Siartr ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol Ewrop. Mae’r swm hon yn gyfystyr â thua £50 y pen i bob un siaradwr neu ddysgwr y Gernyweg - sy’n swm hynod o bitw yn y lle cyntaf - a nawr mae’n cael ei ddiddymu’n gyfan gwbl.”

Defnyddiwyd y grant yma i gefnogi’r iaith mewn sawl ffordd gan gynnwys ariannu gweithgareddau addysgiadol. Mae twf wedi bod yn nefnydd y Gernyweg ers iddi gael statws, lle mae’r iaith i’w weld yn fwy amlwg o fewn y sectorau trafnidiaeth, twristiaeth, busnes a chyhoeddus.

Ychwanegodd Sioned Haf:

“Mae’n amlwg nad yw cyfoeth diwylliannol o bwys i’r Llywodraeth yn San Steffan, ar wahân i hyrwyddo eu syniad nhw o ddiwylliant, sef yr un homogenaidd Brydeinig. Rydym yn galw ar gefnogwyr y Gymraeg i dangos eu cefnogaeth i’r Gernyweg, ac i gyfrannu tuag at ymgyrchoedd bydd ar y gweill dros y misoedd nesaf.”

Yr wythnos diwethaf, lansiwyd deiseb brys arlein yn erbyn y toriadau sydd i’w gweld yma: https://petition.parliament.uk/petitions/128474