Corff yn gweithredu'n 'wrth-ddemocrataidd' drwy gadw Cymraeg Ail Iaith

Mae ymgyrchwyr iaith wedi cyhuddo asiantaeth sy'n gosod arholiadau i bobl ifanc o weithredu yn 'wrth-ddemocrataidd' mewn cyfarfod heddiw drwy gynnig cadw'r pwnc Cymraeg ail iaith, yn groes i bolisi'r Llywodraeth. 

Mewn cyfarfod ac mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ddiwedd y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog y byddid yn disodli Cymraeg ail iaith  ynghyd â dileu'r ffin rhwng Cymraeg ail iaith a Chymraeg iaith gyntaf gan greu un "continwwm" dysgu'r Gymraeg yn lle. Dywedodd hefyd bod y Llywodraeth "o’r farn bod y cysyniad 'Cymraeg fel ail iaith' yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol."   

Fodd bynnag, dair wythnos yn ôl, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ymgynghoriad oedd yn cynnig parhau â'r cymwysterau Cymraeg ail iaith gydag arholiad newydd yn dechrau ym mis Medi 2017. Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu'r ymgynghoriad yn hallt gan ei fod yn groes i bolisi'r Llywodraeth ac yn wastraff amser gan fod y cwricwlwm newydd yn mynd i fod ar gael i ysgolion y flwyddyn ganlynol, ym mis Medi 2018. 

Wrth siarad ar ol y cyfarfod gyda swyddogion Cymwysterau Cymru heddiw, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Mae ymddygiad Cymwysterau Cymru yn gwbl wrth-ddemocrataidd a byddwn ni'n mynnu eu bod yn dechrau o'r dechrau gydag ymgynghoriad newydd sy'n adlewyrchu polisi'r Llywodraeth. Pa hawl syd ganddyn nhw i geisio tanseilio polisi'r Llywodraeth sy'n seiliedig ar adroddiad arbenigwyr? Nid oes hawl gan technocratiaid yn eistedd mewn swyddfa  i wneud hyn. Mae'n warth ac yn sarhad i ddemocratiaeth yng Nghymru." 

"Mae'r corff anetholedig hwn yn gweithredu'n gwbl groes i bolisi'r Llywodraeth, a'r consensws clir yn y Cynulliad Cenedlaethol, sydd am ddileu'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith. Mae Cymwysterau Cymru wedi gwneud ymgais i guddio'r gwir. Beth yw diben cyflwyno cymhwyster a fydd yn amherthnasol ymhen blwyddyn? Nid oes modd dileu Cymraeg Ail Iaith ar yr un llaw ond, ar yr un pryd, cynnal ymgynghoriad ar gyfer cymhwyster 'Cymraeg Ail Iaith'. Naill ai eich bod yn ei ddileu, neu dydych chi ddim – mae mor syml â hynny. 

"Rydyn ni'n pryderu'n fawr bod swyddogion ac asiantaethau eraill yn mynd ati i rwystro a gwanhau polisi'r Llywodraeth a'r consensws gwleidyddol. Yn wir, mae gwir beryg y gwelwn ni, yn y pendraw, barhad o'r cysyniad Cymraeg Ail iaith, oni cheir arweiniad cryf gan ein gwleidyddion. 

"Rhaid i Lywodraeth nesaf gael gwared ar yr ymgynghoriad hwn, a mynnu bod un continwwm dysgu'r Gymraeg yn cael ei gyflwyno i bob disgybl, sy'n dileu'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith."