Croesawu hawliau iaith newydd myfyrwyr

Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud y gallai hawliau newydd myfyrwyr prifysgolion a cholegau i'r Gymraeg fod yn 'gam ymlaen' yn dilyn pleidlais i'w cymeradwyo yn y Cynulliad heddiw.   

Prynhawn yma, fe gymeradwyodd gwleidyddion ym mae Caerdydd ddyletswyddau iaith newydd ar gyfer colegau a phrifysgolion i ddarparu gwasanaethau drwy'r Gymraeg. Mae'r rheoliadau yn golygu y bydd gan fyfyrwyr hawliau i:  

  • cyfweliadau derbyn a chyfarfodydd Cymraeg;  
  • llety Cymraeg;  
  • mewnrwyd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg;  
  • tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg 
  • sefyll arholiadau ac asesiadau yn Gymraeg 
  • gwasanaeth cwnsela a chymorth iechyd meddwl Cymraeg 
  • gweld a chlywed y Gymraeg mewn seremonïau graddio 

Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio bod drafftio gwael gan weision sifil y Llywodraeth yn peryglu creu cymhlethdodau diangen.  

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

"Er nad yw'r Safonau hyn yn berffaith, maen nhw'n gam ymlaen, does dim amheuaeth am hynny. Ac rydym yn falch bod y pwyso wedi dwyn ffrwyth o ran cryfhau hawliau myfyrwyr, fel yr hawl i lety Cymraeg a'r hawl i diwtor personol Cymraeg.  Fodd bynnag, mae pryderon gyda ni o hyd am y ffordd mae gweision sifil wedi eu drafftio gan adael mannau gwan diangen.

"Gobeithio y bydd bwriad y Llywodraeth i gryfhau Mesur y Gymraeg yn gyfle i'r gwasanaeth sifil a'r llywodraeth gymryd cam yn ôl a llunio deddfwriaeth iaith sy'n rhoi pobl Cymru a'r Gymraeg yn ganolbwynt iddo – yn hytrach nag ochri â chyrff mawrRydyn ni wedi llunio ein cynigion drafft sy'n galw am nifer o newidiadau gan gynnwys estyn y ddeddfwriaeth i weddill y sector breifat. 

"Er bod Safonau'r Gymraeg yn symlach na'r hen gyfundrefn o gynlluniau iaith - yn sicr o safbwynt unigolyn sy'n cwyno - mae lle i wella. Un ffordd o sicrhau bod pobl yn gwybod beth yw eu hawliau yw gosod hawliau cyffredinol ar wyneb y ddeddfwriaeth a fydd yn adeiladu ar y Safonau. Dyna sydd angen ei wneud er mwyn creu Mesur sy'n symlach i'r cyhoedd ei ddeall.