Cydsefyll gyda brwydr Sioux yn erbyn pibell olew

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan cefnogaeth i frwydr y genedl Sioux yn erbyn pibell olew yn yr Unol Daleithiau ac wedi annog eu cefnogwyr i ariannu'r ymgyrch.   

[Cyfrannwch at ymgyrch y Sioux drwy glicio yma]

Byddai'r bibell olew 'Dakota Access' gwerth $3.8 biliwn yn cludo 500,000 casgen o'r tanwydd ymfflamychol iawn bron i 1,200 milltir bob dydd, drwy bedair talaith yn America. Mae'r genedl 'Standing Rock Sioux' wedi bod yn brwydo'n gyfreithiol i atal y datblygwr, Energy Transfer Partners, a ariennir gan nifer o fanciau rhyngwladol, am dros ddwy flynedd. Mae'r ymgyrchwyr wedi adnabod man claddu cysegredig y byddai'n cael ei niweidio gan y bibell ac yn pryderu y byddai arllwysiad yn llygru ei gyflenwad dŵr y maen nhw'n ei ddefnyddio ar gyfer yfed, pysgota a dyfrhau.   

Mae'r ymgyrch wedi llwyddo codi arian er mwyn cynnal gwersyll mawr a sefydlwyd er mwyn protestio yn erbyn y datblygiad ar wefan ariannu torfol.   

Meddai Tomos Jones, swyddog rhyngwladol Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae'r bibell yn fygythiad i'r amgylchedd yn fyd-eang gan y byddai'n hybu defnydd ffracio ac olew, ond hefyd yn destun pryder i'r Sioux yn lleol oherwydd y peryg y gallai olew llygru eu dŵr. Byddai olew'n gollwng o'r biben yn fygythiad i fodolaeth y genedl, ei thraddodiadau, iaith a diwylliant. Rydyn ni fel mudiad yn cefnogi pobloedd frodorol ymhob man sy'n gwarchod y ddaear a'u hetifeddiaeth ieithyddol yn erbyn grymoedd cyfalafol. Felly, byddwn ni'n annog ein cefnogwyr i gyfrannu'n ariannol at gronfa'r Sioux."