Cyfle Swydd: Swyddog Maes Morgannwg-Gwent (ail hysbyseb)

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus fydd yn gyfrifol am ysbrydoli a hwyluso gweithgaredd gwirfoddol, annibynnol gan gelloedd a rhanbarthau, gan sicrhau bod y frwydr dros gryfhau'r Gymraeg yn digwydd yn y De.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda’r nod o dynnu aelodau i mewn i’n hymgyrchoedd ac yn cynorthwyo swyddogion eraill i gyflawni’r nod hwn. Bydd yn gyfrifol am hybu ymgyrchoedd lleol y Gymdeithas, lledaenu ein neges a chynyddu aelodaeth ar hyd y rhanbarth, gan annog aelodau i sefydlu a chynorthwyo celloedd lleol a grwpiau ymgyrch, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion.

Byddwch yn gweithio am gyfnod o ddwy flynedd o dan arweiniad Cadeirydd y Rhanbarth a'r Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt y Cynulliad Cenedlaethol, gyda golwg ar ymestyn y cytundeb maes o law yn ddibynnol ar y sefyllfa ariannol. Bydd cyfnod prawf o chwe mis.

Y cyflog llawn amser fydd £20,500 y flwyddyn gyda chyfraniad ychwanegol gwerth 5% o’r cyflog ar gyfer cynllun pensiwn. Byddwn yn rhoi ystyriaeth gyfartal i geisiadau i weithio'n rhan amser neu'n llawn amser (37.5 awr yr wythnos). Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio oriau hyblyg gan y bydd rhai cyfarfodydd a digwyddiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Lleolir y swydd yn swyddfa’r Gymdeithas yng Nghaerdydd.

Er mwyn gwneud cais, anfonwch lythyr a CV cyfredol at: post@cymdeithas.cymru; neu Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa'r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

Dyddiad cau: Dydd Gwener, 6 Ionawr 2017

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 02920 486469 neu 01970 624501

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac rydym yn ymrwymedig at gydraddoldeb fel mudiad a chyflogwr. Rydym yn awyddus i ddenu ymgeiswyr o wahanol gefndiroedd a chaiff pob cais ei asesu’n deg. Byddwn yn agored i geisiadau i weithio oriau hyblyg neu i rannu swydd.

[Cliciwch yma i agor y swydd-ddisgrifiad llawn]