Cymraeg i Blant – croesawu mwy o arian

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r newyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o arian i wasanaethau'r prosiect 'Cymraeg i Blant', sy'n hybu defnydd y Gymraeg  yn y teulu.   

Ym mis Gorffennaf y llynedd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith y ddeiseb i Lywodraeth Cymru oedd yn galw am ragor o arian i'r prosiect yn dilyn toriadau'r llynedd.   Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:      
   
"Mae hyn yn newyddion calonogol iawn. Mae trosglwyddiad iaith o fewn y teulu yn allweddol os ydyn ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Bu'r prosiect Twf yn rhan bwysig iawn o'r ymdrech i wella defnydd o'r Gymraeg rhwng rhieni phlant, a buodd destun pryder na fydd unrhyw brosiect yn rhedeg mewn nifer fawr o siroedd. Rydym yn falch bod y Gweinidog  wedi penderfynu adfer y gwasanaethau pwysig hyn."     
  
Cafodd y cynllun 'Twf' ei ddiddymu ddechrau mis Ebrill y llynedd, gan gael ei ddisodli gan raglen newydd 'Cymraeg i Blant' sy'n cael ei redeg gan Fudiad Meithrin. Ond cafodd cyllideb y cynllun newydd ei dorri o ddau gan mil o bunnoedd y flwyddyn o gymharu â chyllideb Twf y flwyddyn gynt. O ganlyniad, nid oedd y prosiect yn gweithredu mewn nifer o siroedd, a galwodd y ddeiseb am adfer swyddi sy'n rhedeg y prosiect yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam.