Cymry adnabyddus yn erfyn ar Theresa May i ddatganoli darlledu i Gymru

Mae'r actor Rhys Ifans a'r academydd Yr Athro Richard Wyn Jones ymysg dros bedwar deg o Gymry adnabyddus sydd wedi llofnodi llythyr agored at Brif Weinidog Prydain yn galw arni ddatganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru. 

Daw'r newyddion ar drothwy cyhoeddi adroddiad adolygiad annibynnol o S4C, y mae disgwyl iddo ystyried, ymysg materion eraill, datganoli cyfrifoldeb dros S4C o San Steffan i'r Cynulliad.  Derbyniodd yr adolygiad ddeiseb gyda thros fil o enwau arni yn galw am i bwerau symud o Lundain i Gaerdydd. Yn 2013, daeth Comisiwn Silk – adolygiad trawsbleidiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Prydain – i'r casgliad y dylai rheolaeth dros gyfraniad ariannol Llywodraeth Prydain i S4C gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.  

Ar hyn o bryd, mae dros hanner cant o bobl yn gwrthod talu am eu trwydded deledu fel rhan o ymgyrch i ddatganoli darlledu.  

Mae'r Cymry adnabyddus, sy'n cynnwys yr actores Sharon Morgan, Y Prifeirdd Christine James, Osian Rhys Jones a T James Jones, cyn-bennaeth gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru Yr Athro Thomas Watkins, cyn-gadeirydd Ofcom Cymru Ian Clarke a'r gantores Gwenno Saunders, yn dweud yn y llythyr: 

"Credwn fod angen llawer iawn mwy o gyfleoedd arnom fel cenedl ac fel pobl i siarad â'n gilydd, i gynnal trafodaethau ac i ddadlau: trafodaethau cynhwysol o ran holl amrywiaeth y profiad Cymreig sydd wedi'u gosod yng nghyd-destun ein hanes fel cenedl 

"Ar hyn o bryd, mae'r cyfleoedd hynny yn hynod gyfyngedig oherwydd bod pwerau darlledu wedi'u cadw'n ôl yn San Steffan. 

"Mae diffyg craffu gan y cyfryngau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru: mae'r system bresennol yn methu ar hyn o bryd ac yn or-ddibynnol ar un darparwr yn unig. Nid yw'r sefyllfa bresennol yn iach i'n democratiaeth leol, i ddemocratiaeth Cymru nac i ffyniant y Gymraeg." 

Ychwanega'r llythyr: 

"Gresynwn at y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, ynghyd â thoriadau o 36% i gyllideb S4C ers 2010 a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol. Yn ogystal, pryderwn am y cwymp yn y ddarpariaeth leol a Chymraeg ar radio masnachol ynghyd â'r ddarpariaeth fregus o isel o gynnwys lleol a Chymraeg ar orsafoedd teledu lleol.    

"Yn 2013, cydnabu Comisiwn Silkadolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Prydain y galwadau cynyddol am roi grymoedd darlledu i Senedd Cymru. Argymhellodd y Comisiwn y dylid trosglwyddo cyfrifoldeb am gyllid llywodraeth sy’n mynd yn uniongyrchol i S4C o Lywodraeth y Deyrnas Unedig i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw'r Llywodraeth hyd yn oed wedi cymryd y cam bach hwnnw ymlaen. 

"Mae cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd i'r newid hwn, gydag arolwg barn diweddar yn dangos bod 65% o bobl Cymru yn cefnogi datganoli darlledu i Senedd Cymru. Erfyniwn arnoch nawr i wneud yr hyn sy'n iawn i Gymru a datganoli pwerau darlledu i'r Cynulliad Cenedlaethol."