Cyngor Castell Nedd i amddifadu plant o wersi nofio Cymraeg

Gallai plant yn ardal Castell Nedd a Phort Talbot fod yr unig rai i gael eu hamddifadu o’r hawl i wersi nofio Cymraeg yn dilyn her gan yr awdurdod lleol i ddeddfwriaeth newydd.

Mae Cyngor Castell Nedd Port Talbot wedi cyflwyno her i dros bum deg o Safonau, rheoliadau sy’n creu hawliau newydd i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg, nag unrhyw gyngor arall yng Nghymru. Maent hefyd yr unig gyngor yng Nghymru i herio Safon a fyddai yn eu hymrwymo i ddarparu gwersi nofio yn y Gymraeg.

Mae’r grŵp pwyso Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud y bydden nhw'n ystyried ymyrryd yn gyfreithiol er mwyn amddiffyn hawliau iaith pobl os yw cynghorau fel Cyngor Castell Nedd Port Talbot yn ceisio herio'r Safonau. O dan Fesur y Gymraeg, mae'r cynghorau yn gallu herio'r gofynion ar y sail nad ydyn nhw'n rhesymol a chymesur. Ond mae ymgyrchwyr wedi dweud y bydden nhw'n dadlau nad yw'n rhesymol i bobl a gweithwyr gael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg.   

Mewn llythyr at Arweinydd y Cyngor Alun Thomas, dywedodd Steffan Webb, cadeirydd rhanbarth lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Dylai fe fod yn destun gywilydd i’r Cyngor eich bod yn herio mwy o Safonau nag unrhyw gorff arall. Yn wir, mae’n warthus eich bod yn herio’r Safon y byddai’n sicrhau gwersi nofio Cymraeg i blant. Mae’n ymddangos eich bod yn herio er mwyn herio. Mae’n awgrymu nad oes awydd gennych i wella defnydd a’ch gwasanaethau Cymraeg yn lleol.  Bydd rhai o'n pobl fwyaf bregus, fel plant bach a dioddefwyr dementia, a fydd yn cael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg cyflawn pan fo'r angen ar ei mwyaf. Mae hynny’n fater difrifol.

“Rhan o bwrpas y Safonau yw i gyflawni'r hyn mae cynghorau wedi bod yn anelu at ei gyflawni ers tua ugain mlynedd. Yn wir, mewn sawl maes prin fod y Safonau'n gofyn i'r awdurdodau wneud llawer mwy na'u cynlluniau iaith. Mae 'na beryg na fydd camu 'mlaen a datblygu gwasanaethau Cymraeg cyflawn.”

“Maes o law, os byddwch yn parhau gyda’ch cais, byddwn ni’n ystyried ychwanegu ein hunain fel parti i'r achos er mwyn amddiffyn hawliau pobl i’r Gymraeg ac er mwyn dadlau dros osod Safonau cryfach arnoch.”

 

Stori yn y Wasg: