Cynlluniau addysg Gymraeg: croesawu adolygiad

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o gynlluniau addysg Gymraeg cynghorau 

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg Alun Davies heddiw y bydd y cyn Aelod Cynulliad Aled Roberts yn arwain adolygiad o gynlluniau addysg Gymraeg cynghorau. 

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae penodiad Aled Roberts yn un da, ac rydym yn falch bod adolygiad cyflym. O'r hyn rydyn ni wedi'i weld o'r cynlluniau, mae gwir angen adolygiad achos dydyn nhw ddim yn ddigon uchelgeisiol. Wedi'r cwbl, mae 80% o'n pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg ar hyn o bryd, ac ar gyfradd bresennol y twf byddai'n cymryd dros 800 mlynedd i sicrhau addysg Gymraeg i bawb.  Mae angen i bob awdurdod sefydlu rhaglen newid fel bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg. Oni bai bod newidiadau radical, wnawn ni ddim cyrraedd y filiwn.  

"Mae sylwadau Comisiynydd y Gymraeg yn dangos bod nifer o awdurdodau wedi gweithredu'n anghyfreithlon wrth lunio eu cynlluniau, ac felly eu bod yn agored i her. Byddwn ni fel mudiad yn ystyried ein hopsiynau: yn sicr, allwn ni ddim caniatáu i'r sefyllfa bresennol barhau.   

"Mae'n syndod bod nifer fawr o gynlluniau cynghorau hefyd yn anwybyddu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl yn lle Cymraeg ail iaith erbyn 2021 ynghyd â'r cwricwlwm Cymraeg newydd o 2018 ymlaen 

 

"Effaith hyn oll yw ein bod yn gweld pobl ar draws Cymru yn gorfod brwydro dros yr hawl i addysg Gymraeg. Mae arolygon diweddar yn dangos cefnogaeth gref iawn i'r Gymraeg ac addysg Gymraeg, ac mae'n hen bryd i awdurdodau lleol ymateb."