Cynlluniau addysg Gymraeg - siroedd yn wynebu 'heriau cyfreithiol'

Mae rhai siroedd wedi camweinyddu'r broses o lunio eu cynlluniau addysg Gymraeg a dylai Llywodraeth Cymru dechrau o'r dechrau gyda'r holl broses o'u llunio, yn ôl mudiad iaith.   

Fe ddaw'r sylwadau wedi llythyr rhwng Comisiynydd y Gymraeg a'r Gweinidog Alun Davies. Yn yr ohebiaeth, dywedodd y Comisiynydd: "Ni chredaf bydd mwyafrif y cynlluniau hyn yn arwain at gynnydd arwyddocaol yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg na'r nifer o blant a phobl ifanc sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg." Datganodd hefyd bod nifer o awdurdodau lleol heb ymgynghori â hi a bod "o leiaf rhywfaint o'r wybodaeth sy'n ofynnol yn unol â'r ddeddf a chanllawiau statudol atodol Llywodraeth Cymru ar goll ym mwyafrif y cynlluniau".   

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, sydd wedi annog pob cangen leol o'r mudiad i ymateb i'r cynlluniau, mae'n amlwg bod rhai awdurdodau 'wedi anwybyddu her Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg'.  Mae'r mudiad hefyd yn credu bod diffygion difrifol yn y broses o lunio'r cynlluniau  gan ofyn am ailwampio’r fframwaith yn ei gyfanrwydd.  

Mewn llythyr at Alun Davies, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg, dywed Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:  

"Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ein celloedd a rhanbarthau lleol wedi gweithio'n ddiwyd i ymateb i'r ymgynghoriadau ar y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, ond mae'n glir bod diffygion difrifol yn y rhan helaeth o siroedd.   

"Credwn fod nifer o siroedd wedi camweinyddu'r broses drwy anwybyddu targed y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr a thrwy ruthro drwy brosesau ymgynghori diffygiol iawn. Yn wir, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi tynnu sylw at ddiffygion sydd mor ddifrifol yn y cynlluniau a'r prosesau o'u llunio ein bod yn credu bod nifer o awdurdodau yn wynebu heriau cyfreithiol.   

"Yn rhinwedd sylwadau damniol y Comisiynydd, credwn y dylech chi fynnu bod siroedd yn dechrau o'r dechrau gyda ffocws ar yr angen i gyrraedd targedau cenedlaethol y Llywodraeth. Ac, os nad ydyn nhw'n fodlon dangos yr uchelgais angenrheidiol, bydd rhaid i'r Llywodraeth ystyried osod targedau o'r brig i lawr."