Dau ymgyrchydd wedi eu lluchio allan o adeilad Cymwysterau Cymru

Mae dau ymgyrchydd iaith wedi cael eu lluchio allan o swyddfeydd Cymwysterau Cymru gan yr heddlu heddiw (dydd Mawrth, 26ain Gorffennaf) wedi iddynt feddiannu'r swyddfeydd oherwydd penderfyniad y corff i gadw pwnc 'Cymraeg Ail iaith' yn lle creu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.

Meddiannodd dros ddwsin o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg swyddfeydd y corff yng Nghasnewydd. Lluchiwyd Jamie Bevan, cadeirydd y mudiad, a David Williams o grŵp addysg y mudiad, allan o'r adeilad ar ddiwedd y dydd heddiw.

Yn siarad wedi'r protestiadau heddiw, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

“Mae digwyddiadau heddiw yn brawf o ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae penderfyniad swyddogion y corff yma yn mynd i amddifadu cenhedlaeth arall o blant o'r Gymraeg. Mae'n rhaid i bobl sefyll lan dros y bobl ifanc sydd heb lais. Mae adroddiad annibynnol yr Athro Sioned Davies, arbenigwyr a'r cyhoedd i gyd yn gytûn bod angen dileu Cymraeg ail iaith a sefydlu un continwwm o ddysgu'r Gymraeg. Mae gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams gyfle i gadw at ymrwymiad y Llywodraeth gan wrthdroi penderfyniad ffaeledig Cymwysterau Cymru.”

Dair blynedd yn ôl, derbyniodd y Llywodraeth adroddiad gan yr Athro Sioned Davies oedd yn galw am newidiadau radical brys, gan gynnwys cael gwared â'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel 'ail iaith' ac yn lle symud at un continwwm o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynyddol ym mhob ysgol. Y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod "o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol."

Fodd bynnag, mewn llythyr a gyhoeddwyd ar wefan cymwysterau Cymru wythnos diwethaf, dywed Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, wrth yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams bod y corff am gadw'r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith.

Bydd swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams ddydd Iau yma (4:15pm, dydd Iau, 28ain Gorffennaf). Mae'r mudiad hefyd yn cynnal rali ar ddydd Gwener, 5 Awst, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni.