Derbyn disgyblion i Ysgol Bro Edern, Caerdydd – ymateb

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r sefyllfa ynghylch derbyn disgyblion i Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd.

Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Cyn belled bod­ yr ysgol yn cael yr adnoddau i drochi'r­ plant hyn yn y Gymraeg, dylai addysg G­ymraeg yng Nghaerdydd fod ar gael i bob ­plentyn. Dylen ni, yn ein prifddinas a ledled ein gwlad, anelu at addysg Gymraeg i bawb nid i'r rhai ffodus yn unig. Os ydyn ni am wireddu'r weledigaeth honno, dylid edrych i achub ar bob cyfle i ehangu addysg Gymraeg i bobl o bob cefndir, gall fod cyfle i Fro Edern, fel ysgol uwchradd newydd, dreialu cynllun peilot i drosglwyddo plant o addysg cyfrwng Saesneg i'r sector Gymraeg. Wrth reswm, mae'n bwysig iawn bod yr ysgol yn derbyn yr adnoddau a chymorth i allu gwireddu hynny."