Diddymu Comisiynydd y Gymraeg yn 'anwybyddu barn y cyhoedd'

Mewn ymateb i ymgais Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen gyda diddymu Comisiynydd y Gymraeg, meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith 

"Dyw'r Llywodraeth ddim wedi gwrando o gwbl: dim ond 15% o'r rhai a ymatebodd i'w hymgynghoriad oedd yn cefnogi'r cynnig annoeth i ddiddymu'r Comisiynydd. Doedd e ddim ym maniffesto Llafur; 'sdim mandad gyda nhw i wneud hyn. Ers bron i flwyddyn dyw'r Llywodraeth heb allu ateb cwestiwn syml iawn: pam eu bod am gadw Comisiynwyr Plant, Pobl Hŷn a Chenedlaethau'r Dyfodol, ond am ddiddymu'r unig eiriolwr uniongyrchol dros y Gymraeg? Dyw hynny ddim yn gwneud synnwyr."   

"Dydyn ni ddim yn deall pam fod Eluned Morgan am ddilyn agenda adain dde o leihau rheoleiddio er lles cyrff a busnesau pwerus. Mae ei phenderfyniad i wrthod ymestyn Safonau i'r sector breifat yn mynd yn gwbl groes i farn pobl Cymru ac Aelodau Cynulliad. Mae'n gam mawr nôl ei bod hi'n sôn am 'ddarbwyllo' busnesau mawrion pan fo pob arbenigwr yn gwybod mai rheoleiddio yw'r ateb. Mae'n frawychus bod Llafur am droi'r cloc yn ôl i Ddeddf Iaith wan y Torïaid drwy atgyfodi cwango tebyg i Fwrdd yr Iaith a gwanhau ein hawliau i gwyno a chael cyfiawnder. Dyw pobl Cymru ddim eisiau hawliau iaith gwannach, maen nhw am symud ymlaen, nid camu'n ôl i hen ddeddfwriaeth wnaeth fethu.  

"Byddai'n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar waith arall, gan gynnwys gosod Safonau ar ragor o gyrff a chwmnïau, yn hytrach na gwastraffu amser ar gynigion Papur Gwyn a fyddai, o'i weithredu, yn troi'r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg."  

Dangosodd arolwg barn YouGov y llynedd bod y mwyafrif o bobl Cymru eisiau estyn deddfwriaeth iaith i sicrhau gwasanaethau Cymraeg gan fanciau ac archfarchnadoedd