Diddymu Cymraeg Ail Iaith erbyn 2018 – Cymdeithas yn galw am amserlen

Rhaid dileu dysgu'r Gymraeg fel ail iaith erbyn 2018 a sefydlu un cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl yn ei le, dyna oedd neges ymgyrchwyr mewn rali ar faes yr Eisteddfod heddiw. 

Dair blynedd yn ôl, derbyniodd y Llywodraeth adroddiad gan yr Athro Sioned Davies oedd yn galw am newidiadau radical brys, gan gynnwys cael gwared â'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel 'ail iaith' ac yn lle hynny symud at un continwwm o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynyddol ym mhob ysgol. Y llynedd, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod "o’r farn bod cysyniad 'Cymraeg fel ail iaith' yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol." 

Fodd bynnag, mewn llythyr a gyhoeddwyd ar wefan cymwysterau Cymru fis diwethaf, dywed Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, wrth yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams bod y corff am gadw'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith. 

Siaradodd y Prifardd Mererid Hopwood, Fflur Elin, Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y rali dros 'addysg Gymraeg i bawb' ar y maes Yn siarad yn y digwyddiad, dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Rydyn ni'n brwydro dros y saith mil ar hugain o ddisgyblion sy'n cael eu hamddifadu o'r cyfle i siarad Cymraeg bob blwyddyn. Mae gan ein holl bobl ifanc yr hawl i fod yn rhugl yn y Gymraeg, ond mae'r system yn eu gadael nhw i lawr ar hyn o bryd. Mae'n ddedfryd oes i 80% o'n pobl ifanc – mor uchel â 94% yn sir Fynwy  fydd heb y Gymraeg am weddill eu bywydau. 

"Gadewch i ni fod yn glir: mae'r Llywodraeth ac asiantaethau eraill yn achosi oedi diangen ar y funud. Mae gwastraffu amser yn ffordd o osgoi penderfyniadau – hen dacteg gweision sifilMae'r mater yma yn rhy bwysig i'n pobl ifancyn rhy bwysig i'r iaith, ac yn rhy bwysig i'w adael i fiwrocratiaid ei danseilio. 

"Un cam tuag at drawsnewid y gyfundrefn yw diddymu Cymraeg Ail Iaith fel pwnc, a sefydlu un cymhwyster cyfun Cymraeg ar gyfer pob disgybl. Dywedodd yr Athro Sioned Davies y dylai hynny ddigwydd erbyn 2018 fan hwyraf; mae'n rhaid achub ar y cyfle unwaith-mewn-cenhedlaeth fydd yn dod gyda chyflwyno'r cwricwlwm newydd yn 2018. Mae'n hanfodol bwysig felly ein bod yn cael penderfyniad nawr gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams i weithredu hyn. Os nad yw'n digwydd nawr, ein pryder ni yw y gwelwn ni, yn y pen draw, barhad â'r cysyniad o Gymraeg ail iaith. "