"Diffygion difrifol gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg" - ymgyrchwyr

Lansiad swyddogol gwefan meddwl.org ar faes Eisteddfod yr Urdd  

Mae diffyg darpariaeth ddigonol o wasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg, dyna oedd neges ymgyrchwyr mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw.

Cafodd gwefan meddwl.org, y wefan iechyd meddwl Gymraeg, ei lansio yn swyddogol yn ystod y digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith. Mae’r wefan yn cynnwys manylion cyswllt elusennau all gynnig cymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg, gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, blogiau am brofiadau unigolion, fforwm drafod, ac adran newyddion –  i gyd yn Gymraeg.   

Yn dilyn lansiad y wefan, cymerodd yr elusen Amser i Newid Cymru rhan mewn trafodaeth ar iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Yn ogystal, rhanodd Alaw Griffiths, golygydd y gyfrol 'Gyrru Drwy Storom' ac a fu'n rhannu ei phrofiadau ar S4C yn ddiweddar, a Hedydd Elias, eu profiadau personol gan sôn am bwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg. 

Dangosodd ymchwil a wnaed gan Gymdeithas yr Iaith ar droad y flwyddyn bod diffyg staff sy’n medru’r Gymraeg yn y gwasanaethau iechyd meddwl, gyda phob un bwrdd iechyd yn cyflogi canran llawer is na’r boblogaeth o siaradwyr Cymraeg yn eu dalgylchoedd.  

Yn siarad ar ôl y digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd, dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith, ac un o sylfaenwyr gwefan meddwl.org: 

"Rydyn ni'n dod ynghyd er mwyn rhannu ein profiadau fel pobl sydd â phrofiadau o broblemau iechyd meddwl, gan bwysleisio'r gwahaniaeth mae iaith y gofal yn ei gael arnom. Dyw'r gwasanaeth iechyd ddim yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddigonol, ac mae 'na ddiffygion difrifol oherwydd methiant byrddau iechyd i gynllunio'r gweithlu. Mae gwefan meddwl.org yn llenwi bwlch i'r rhai sy'n teimlo'n fwy cyfforddus yn trin a thrafod y materion hyn yn Gymraeg, ac yn brawf i'r gwasanaethau iechyd pa mor bwysig yw gofal Cymraeg. 

"Wedi'r cyfan, mae pobl yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd pan maen nhw ar eu mwyaf bregus, felly mae’n hynod o bwysig bod cleifion yn medru derbyn triniaeth yn yr iaith maen nhw'n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad. Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda materion iechyd meddwl gan fod siarad a chyfathrebu yn rhan mor ganolog o’r driniaeth ac o’r broses o wella.  

"Mae’n bwysig bod y gwasanaethau ar gael yn Gymraeg, ac yn cael eu cynnig i gleifion yn rhagweithiol, yn hytrach na bod y cyfrifoldeb ar y claf i ofyn amdano. Yn aml nid yw defnyddwyr y gwasanaethau iechyd meddwl mewn sefyllfa i fynnu eu hawliau i wasanaeth Cymraeg, a gall gwneud cais am wasanaeth Cymraeg deimlo’n amhriodol mewn sefyllfa o’r fath."  

Ychwanegodd Hedydd Elias:

'Dros y ddegawd rwyf wedi bod yn derbyn cymorth a thriniaeth iechyd meddwl, dim ond unwaith rwyf wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg a hynny gyda chwnselydd ysgol; dyw hyn ddim yn ddigon da, dylai cymorth craidd fod ar gael yn y Gymraeg i’r rheiny sydd yn ei mofyn. Roedd fy apwyntiad gyntaf, pan roeddwn yn 12eg mlwydd oed, gyda seiciatrydd plant doedd ddim yn medru’r Gymraeg; nid yn unig doedd hyn ddim yn deg i berson bregus, ond doedd ddim yn deg ar blentyn doedd ddim gyda geirfa digon eang i ddeall popeth oedd yn cael ei ddweud. Erbyn heddiw, mae’n well gen i siarad am fy iechyd meddwl yn Saesneg, achos yn Saesneg rwyf wedi derbyn cymorth dros y ddegawd diwethaf. Credaf yn gryf byddai pethau’n wahanol pe byddwn wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg o’r cychwyn.' 

Dywedodd Lowri Wyn Jones, Rheolwraig Rhaglen Amser i Newid Cymru: 

'Fel ymgyrch i roi terfyn ar y stigma iechyd meddwl yng Nghymru, mae Amser i Newid Cymru yn falch o weithio ar y cyd a Chymdeithas yr Iaith i gryfhau y mudiad cymdeithasol hwn sy'n tyfu a chynyddu cefnogaeth gan gynulleidfaoedd newydd. Rydym yn falch iawn o gefnogi'r adnodd Cymraeg ar-lein newydd a fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ledled Cymru.'